Neidio i'r cynnwys

Searchlight Cymru

Oddi ar Wicipedia

Mudiad ymgyrchu amhleidiol gwrth-hiliaeth a gwrth-ffasgiaeth Cymreig yw Searchlight Cymru. Mae'n gweithio'n agos gyda'r mudiad Searchlight, sy'n weithgar yng ngweddill gwledydd Prydain a gogledd Iwerddon. Lleolir pencadlys Searchlight Cymru yng Nghaerdydd.

Cefnogir Searchlight Cymru gan y prif bleidiau gwleidyddol (ond nid UKIP), yr undebau llafur a sawl grŵp a mudiad arall. Ei nod yw "herio cyrff hiliol a ffasgaidd yng Nghymru fel y BNP."[1] Yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yw Llywydd Anrhydeddus y mudiad. Yr Is-lywyddion Anrhydeddus yw Mike German AC (Democratiaid Rhyddfrydol), Mark Isherwood AC (Ceidwadwyr), Huw Lewis AC (Llafur) a Leanne Wood AC (Plaid Cymru).[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 'Pwy yr Ydym Ni'[dolen farw], gwefan Searchlight Cymru

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]