Neidio i'r cynnwys

Sam Jones

Oddi ar Wicipedia
Sam Jones
GanwydSamuel Jones Edit this on Wikidata
30 Tachwedd 1898 Edit this on Wikidata
Clydach Edit this on Wikidata
Bu farw5 Medi 1974 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdarlledwr, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Clawr y gyfrol goffa i Sam Jones: Stand By!.

Darlledwr o Gymro oedd Sam Jones (30 Tachwedd 18985 Medi 1974) a anfarwolwyd yn y linell gynganeddol "Babi Sam yw'r BBC".

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Samuel Jones yng Nghlydach yn nawfed plentyn i Mary Ann Jones (1866-1921) a Samuel Cornelius Jones (1865-1939). Cafodd ei rieni pymtheg o blant ond wyth yn unig a oroesodd fabandod. Fe'i gelwid yn 'Sammy bach' gan y teulu a mynychodd yr ysgol gynradd leol ac yna, yn 1910/11, Ysgol Ganol Sirol Ystalyfera. Yn 1912 symudwyd yr ysgol i Bontardawe a'i galw yn Ysgol Gynradd Uwch Pontardawe.

Ar 3 Medi 1917, ymunodd gyda'r Llynges an dreulio bron ddwy flynedd fel 'llumanwr' (ordinary signalman) cyn gadael y Llynges ar 10 Chwefror, 1919. Wedi'r rhyfel, ail-afaelodd yn ei addysgu ffurfiol yn Hydref 1919 gan fynychu Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Chwaraeodd ran amlwg ym mywyd cymdeithasol y coleg. Chwaraeodd i dîm rygbi'r coleg ac hefyd i'r tîm hoci. Enillodd ei dystysgrif addysg - ail ddosbarth - yn ei drydedd flwyddyn 1922-23. Graddiodd y flwyddyn ganlynol, 1924, mewn Cymraeg a Hanes.[1]

Ar 8 Medi 1924 cychwynnodd Sam ar yrfa fel athro yn Ysgol Harrington Road, Lerpwl. Gadawodd Lerpwl yn Chwefror 1927 gan symud i swydd fel newyddiadurwr gyda The Western Mail yng Nghaerdydd. Bu'n newyddiadura ychydig yn ystod ei amser yn y coleg ac fel athro, ysgrifennodd rai erthyglau i'r Liverpool Daily Post. Sefydlwyd y BBC yn 1927 hefyd. Denwyd Sam at y byd darlledu ac yn Nhachwedd 1932 cychwynnodd weithio yn rhan-amser yn y BBC fel 'Welsh Assistant'. Cryfhau'r gwasanaeth radio Cymraeg oedd ei nod. Gadawodd The Western Mail yn derfynol yn 1933.

Yn 1935 hysbysebwyd swydd Cyfarwyddwr Rhaglenni'r BBC yng Nghymru. Dyma'r gwaith yr oedd Sam ei hun yn ei wneud ond er siom iddo, ni chafodd y swydd. Cafodd 'wobr gysur' o fod yn bennaeth ar orsaf radio gwbl newydd wedi ei leoli ym Mangor. Teitl swyddogol y swydd oedd Cynrychiolydd y BBC yng Ngogledd Cymru. Dechreuodd ar ei swydd fel Pennaeth y BBC ym Mangor ar 1 Tachwedd 1935. Aeth ati ar unwaith i ddarganfod perfformwyr, cyfansoddwyr, sgriptwyr, actorion a cherddorion yn y gogledd.[2]

Torrodd yr Ail Ryfel Byd ar draws ei gynlluniau. Am gyfnod byr, o Fedi 1939 hyd Ionawr 1940 fe'i hanfonwyd i Lundain i gyfieithu bwletinau i'r Gymraeg. Erbyn diwedd yr haf 1940, gyda'r perygl o fomio yn Llundain, penderfynwyd symud Adran Adloniant y BBC i Fangor. Cyrhaeddodd tros bedwar cant o brif adlonwyr Prydain i ddarlledu o ddiogelwch cymharol gogledd Cymru a buont yno hyd Awst 1943.

Dysgodd Sam lawer iawn gan y Llundeinwyr am natur adloniant ond yn hytrach na'i efelychu aeth ati i greu adloniant Cymraeg ar y radio oedd yn berthnasol i ddiwylliant Cymraeg.

Sam Jones oedd yn gyfrifol am ddwy o raglenni mwyaf poblogaidd y BBC erioed, ac a oedd yn dal i gael eu darlledu yn 2016: Noson Lawen a Thalwrn y Beirdd. Gwelodd bwysigrwydd defnyddio pobl gyffredin yn hytrach nag actorion profesiynol yn y ddwy raglen hyn. yn ôl R Alun Jones, "Cyfrinach Sam Jones oedd cael pobl y Gogledd i weld gorsaf Bangor fel rhywbeth oedd yn perthyn iddyn nhw. Doedd hynny ddim yn bosib mewn cymunedau fel Abertawe a Chaerdydd."[3]

Erbyn diwedd ei yrfa roedd teledu fel cyfrwng yn cynyddu yn ei boblogrwydd. Er hynny, dyn radio oedd Sam Jones. Ymddeolodd Sam o'r BBC ar 30 Tachwedd 1963.

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]

Ar 11 Gorffennaf 1963, cyflwynwyd iddo radd er anrhydedd o Ddoethuriaeth mewn Llên [D.Litt] gan Brifysgol Cymru mewn seremoni yn Neuadd y Brenin, Aberystwyth. Anrhydedd arall a ddaeth i'w ran oedd bod yn Llywydd y Dydd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy 1958.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Tra'n fyfyriwr ym Mangor cyfarfu â Maud Ann Griffith. Priodwyd y ddau ar 2 Medi 1933 yng nghapel y Wesleaid Cymraeg, Caerdydd. Ganwyd eu hunig blentyn ar 4 Mai 1942, sef Dafydd Gruffydd Jones, a fu'n ymgynghorydd ariannol. Bu farw ei wraig Maud ar 3 Ionawr 1974.

Marwolaeth a theyrngedau

[golygu | golygu cod]

Bu farw ar 5 Medi 1974 a roedd ei angladd yn Amlosgfa Bangor ar 9 Medi. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa iddo ar 20 Medi 1974 yng nghapel Penuel Bangor lle bu'n aelod. Yn y gwasanaeth hwnnw dywedodd Owen Edwards, a oedd yn Rheolwr y BBC yng Nghymru ar y pryd, fod Sam Jones “yn meddu'r ddawn i weithio ar dair tonfedd allweddol” sef y ddawn i fod ar yr un donfedd â'r gynulleidfa o wrandawyr radio, ar yr un donfedd â'r doniau a ddarganfu ac ar yr un donfedd â'r staff yr oedd yn eu harwain.

Cyfansoddodd y bardd W. D. Williams gywydd iddo ar gyfer rhaglen goffa iddo ac a ddarlledwyd yn 1974:

Ei ail byth mwy ni welwn,
Gwelwodd haf pan giliodd hwn,
Drud fu ei fachlud dros Fôn,
Farwn Mawr o Fryn Meirion.
Tlawd yw 'nheyrnged, ddyledwr,
Un o fil, i'w haealf ŵr.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  JONES, SAMUEL (1898-1974), newyddiadurwr, darlledwr a Phennaeth y BBC ym Mangor. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adalwyd ar 19 Mawrth 2021.
  2. Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
  3. Gwefan y BBC; adalwyd 13 Medi 2016.