Rowland Ellis
Rowland Ellis | |
---|---|
Ganwyd | 1650 Dolgellau |
Bu farw | Medi 1731 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Tad | Ellis ap Rhys Alias Ellis Price |
Mam | Anne Humphrey |
Priod | Margaret Roberts |
Crynwr blaenllaw oedd Rowland Ellis (1650 - Medi 1731). Ganed ef yn ffermdy Bryn Mawr, plwyf Dolgellau. Ymunodd â'r Crynwyr tua 1672, a chafodd ei garcharu nifer o weithiau.
Ymfudodd i Pennsylvania yn 1686, ac ymsefydlodd yn Bryn Mawr (Lower Merion yn ddiweddarach). Dychwelodd i Gymru am gyfnod yn 1688, cyn dychwelyd i Pennsylvania gyda rhagor o'i deulu.
Cyfieithodd lyfr Ellis Pugh Annerch i'r Cymru (1721) i'r Saesneg, a chyhoeddwyd ef yn Philadelphia yn 1727 fel A Salutation to the Britains. Bu farw yn gynnar ym mis Medi 1731 a chladdwyd ef ym mynwent y Crynwyr yn Plymouth, Pennsylvania.
Enwyd tref Bryn Mawr, Pennsylvania a'r Bryn Mawr College for Women yn Pennsylvania ar ôl tŷ Rowland Ellis ger Dolgellau.
Cymeriad Ellis yn nofelau Marion Eames
[golygu | golygu cod]Ar ddechrau’r nofel Y Stafell Ddirgel gan Marion Eames, gwelwn Rowland fel cymeriad cyfoethog. Bonheddwr yw Rowland Ellis sy’n ymddangos yn gymeriad caredig. Down i wybod bod ganddo wraig o'r enw Meg (merch brydferth iawn) Mae o’n ffyddlon ac yn gariadus iawn tuag ati.
Mae'r nofel yn agor gyda golygfa o foddi dynes am y cyhuddir hi o fod yn wrach. Mae'r dorf yn mwynhau hwyl a miri'r ffair. Tra mae'r dorf yn mwynhau asbri a miri yr oes newydd dan y brenin newydd, mae boddi'r wrach yn wrthyn i Ellis.