Neidio i'r cynnwys

Robert Griffiths

Oddi ar Wicipedia
Robert Griffiths
Ganwyd13 Rhagfyr 1805 Edit this on Wikidata
Lleweni Edit this on Wikidata
Bu farw16 Mehefin 1883 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpeiriannydd Edit this on Wikidata

Peiriannydd a dyfeisiwr o Gymru oedd Robert Griffiths (13 Rhagfyr 1805 - Mehefin 1883) o fferm Lleweni, Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych.

Yn ifanc iawn dysgodd grefft y saer, cyn brentisio mewn peirianneg ym Mirmingham. Yn 1845 aeth i Ffrainc i weithio o dan M. Labruere a sefydlodd weithfeydd peiriannau a gweithfeydd haearn yn Havre am oddeutu 4 blynedd cyn iddynt gau. Yma y crewyd llawer o'r cledrau ar gyfer y rheilffordd o Havre i Baris. Derbyniodd batentau ar gyfer y propelar sgriw (i yrru llongau) yn 1835, peiriant caboli a llyfnu gwydr yn 1836 a nifer o batentau eraill a oedd yn ymwneud â nyts a bolltau.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cylchgronau Cymru Ar-lein; LlGC; adalwyd 22 Mehefin 2015

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Y Bywgraffiadur Ar-lein;
  • Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen ... from the earliest times to the present, 1908;
  • Rhestr gyda nodiadau byrion, o Enwogion Cymreig o 1700 i 1900, Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1908;
  • Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru 9258;
  • Notable Welshmen (1700–1900), 1908