Robert Earnshaw
Earnshaw yn 2007 | ||
Manylion Personol | ||
---|---|---|
Enw llawn | Robert Earnshaw | |
Llysenw | Earnie | |
Dyddiad geni | 6 Ebrill 1981 | |
Man geni | Mufulira, Taliath Copperbelt, Sambia | |
Taldra | 1m 73 | |
Safle | Ymosodwr | |
Manylion Clwb | ||
Clwb Presennol | Dinas Caerdydd | |
Rhif | 10 | |
Clybiau Iau | ||
Dinas Caerdydd | ||
Clybiau | ||
Blwyddyn |
Clwb |
Ymdd.* (Goliau) |
1997-2004 2000 2004-2006 2006-2007 2007-2008 2008-2011 2011- |
Dinas Caerdydd → Greenock Morton (benthyg) West Bromwich Albion Norwich City Derby County Nottingham Forest Dinas Caerdydd |
183 (86) 3 (2) 43 (12) 45 (27) 22 (1) 98 (35) 19 (3) |
Tîm Cenedlaethol | ||
1998-2001 2002- |
Cymru o dan-21 Cymru |
10 (1) 58 (16) |
1Ymddangosiadau a goliau mewn clybiau hŷn |
Chwaraewr pêl-droed rhyngwladol yw Robert Earnshaw (ganwyd 6 Ebrill 1981 ym Mufulira, Sambia).
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ym Medi 1990, yn dilyn marwolaeth ei gŵr, symudodd mam Earnshaw gyda'r teulu i Fedwas, yn ne ddwyrain Cymru, ble buon nhw'n byw gyda'i chwaer. Mae Earnshaw'n dal i fod yn berchen ar eiddo yno.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Dechreuodd ei yrfa gyda Clwb pêl-droed Dinas Caerdydd ym 1998, ble bu hefyd ar fenthyg gyda Greenock Morton. Symudodd o Gaerdydd i West Bromwich Albion ac yna i Norwich City cyn ymuno â Nottingham Forest. Ailymunodd gyda Dinas Caerdydd yng Ngorffennaf 2011.
Dros ei yrfa, mae'r clybiau uchod wedi gwario £12,650,000 rhyngddynt wrth arwyddo Earnshaw.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn 2002 yn erbyn Yr Almaen. Mae Earnshaw wedi chwarae 58 o weithiau dros ei wlad a sgorio 16 gôl.
Earnshaw yw'r unig chwaraewr i sgorio tair gôl yn yr un gêm ar bob lefel: yn Uwchgynghrair Lloegr, y Bencampwriaeth, Adran Un, Adran Dau, Cwpan y Gynghrair, Cwpan F.A. Lloegr a mewn gêm rhwngwladol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "The Official Robert Earnshaw Website – My Early Life". The Official Robert Earnshaw website. Robert Earnshaw. 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-12. Cyrchwyd 13 Hydref 2009.(Saesneg)