Robat Gruffudd
Robat Gruffudd | |
---|---|
Ganwyd | Robert Paul Griffiths 27 Chwefror 1943 Y Rhondda |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, cyhoeddwr |
Tad | John Gwyn Griffiths |
Mam | Kate Bosse-Griffiths |
Cyhoeddwr ac awdur yw Robat Gruffudd (ganed Robert Paul Griffiths, 27 Chwefror 1943)[1] a sefydlodd wasg Y Lolfa, un o'r gweisg mwyaf dylanwadol yng Nghymru. Mae'n fab i Kate Bosse Griffiths a'r Athro John Gwyn Griffiths, ac yn frawd i Heini Gruffudd.[2][3] Ganed yn 1943 yn y Rhondda, a'i fagu yn Abertawe. Yn 1964 graddiodd yng ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor mewn athroniaeth a seicoleg. Ond gwrthododd dderbyn y radd fel protest yn erbyn gwrthgymreigrwydd awdurdodau'r coleg.[4]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Sefydlodd y cylchgrawn dychanol Lol gyda Penri Jones yn 1965, a gwasg gyhoeddi ac argraffu Y Lolfa yn Nhal-y-bont, Ceredigion, yn 1967. Dau o'i feibion, Garmon Gruffudd a Lefi Gruffudd, yw rheolwyr presennol y wasg. Mae ei fab hynaf, Einion, yn Reolwr Clyweled ac Archif Ddarlledu yn Y Llyfrgell Genedlaethol.
Mae wedi cyhoeddi pedair nofel. Enillodd ei nofel Y Llosgi Wobr Goffa Daniel Owen yn 1986, ac roedd ei ail nofel Crac Cymraeg ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 1996. Cyhoeddodd y nofel, Carnifal yn 2004, ac yn 2013 enillodd Wobr Goffa Daniel Owen eto gyda'i nofel Afallon. Mae hefyd wedi cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth, Trên y Chwyldro (1974) ac A Gymri di Gymru? (2009). Yn 2016, cyhoeddodd Lolian[5], y dyddiadur anffurfiol a gadwodd dros yr hanner canrif diwethaf.
Yn 2007 enillodd wobr Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru am gyfraniad oes i'r byd llyfrau Cymraeg. Bu am gyfnod ar fwrdd Dyddiol Cyf., y cwmni oedd wedi gobeithio sefydlu papur dyddiol Cymraeg, Y Byd. Mae'n aelod o fwrdd Dyfodol i'r Iaith ac yn parhau i weithio yng ngwasg Y Lolfa.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Cofnod cyfarwyddwr Cwmni Drwg o Dy'r Cwmniau. Adalwyd ar 2 Mawrth 2016.
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig
- ↑ Gwyddoniadur Cymru. John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines a Pheredyr Lynch; (2008) tud. 336 ISBN 978-0-7083-1953-6
- ↑ Adroddiad allan o Dafod y Ddraig: [1].
- ↑ Gwefan Y Lolfa[dolen farw]