Neidio i'r cynnwys

Risol

Oddi ar Wicipedia
Risol
Enghraifft o'r canlynolbwyd Edit this on Wikidata
Mathcroquette, byrbryd, bwyd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysCrwst Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Risol 'Alheira' ar werth mewn siop Bwyleg

Mae risol (o'r Lladin russeolus, sy'n golygu "cochlyd", trwy Ffrangeg lle mae "rissoler" yn golygu "i gochi", i'r Gymraeg o'r Saesneg rissole) yn "bêl neu gacen fflat o gig wedi'i dorri, pysgod, neu lysiau wedi'u cymysgu â pherlysiau neu sbeisys, yna wedi'u gorchuddio â briwsion bara a'u ffrio."[1] Disgrifir hi gan Geiriadur yr Academi fel, "pelen friwgig"[2] neu "cymysgedd o friwgig, &c., wedi ei orchuddio â briwsion bara a’i ffrio, pelen".[3]

Amrywiaethau

[golygu | golygu cod]
Risols Savoie - pwdin o compote gellyg

Ffrainc

[golygu | golygu cod]

Risols o Savoie - Pwdin o compote gellyg wedi'i bobi. Yn rhanbarth Savoie yn yr Alpau, gellir gweini risols fel pwdin wedi'i goginio. Maent wedi'u gwneud o gellyg mewn cytew ac yn cael eu pobi, nid eu ffrio.

Yng ngogledd Ffrainc, mae rissoles de Coucy yn cael eu gwneud â chig neu bysgod a gellir eu pobi neu eu ffrio.

Mae fersiynau gwahanol yn bodoli yn Auvergne neu yn nwyrain Ffrainc, gyda gwahanol fathau o gig neu datws a chawsiau.

Yn gyffredinol, crwst pwff (pâte feuilletée) yw'r toes a ddefnyddir neu fath o grwst brau (pâte brisée) wedi'i wneud â llai o fenyn. Gellir eu pobi neu eu ffrio. Mae rhai fersiynau a wneir gyda chrwst brau yn cael eu bara cyn eu ffrio.[4]

Prydain

[golygu | golygu cod]
Risols cig gyda thatws

Yn y 19g, disgrifiodd y gogyddes a'r awdur, Mrs Beeton, risols Ffrengig fel "Pastry, made of light puff-paste, and cut into various forms, and fried. They may be filled with fish, meat, or sweets." Fodd bynnag, roedd ei ryseitiau ar gyfer prydau Prydeinig bob dydd yn disgrifio risols a oedd yn cynnwys briwsion bara ond heb eu gorchuddio ag unrhyw beth, dim ond wedi'u ffrio (gweler y llun). Rhoddodd ryseitiau ar gyfer risols cig eidion, cig llo a thatws.[5]

Ym Mhrydain yn ystod ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd, roedd risols fel arfer yn fesur economi, wedi'i wneud o gig wedi'i goginio a oedd yn weddill o'r cinio rhost dydd Sul. Nid ydynt wedi'u gorchuddio â chrwst.

Mae risols yn cael eu gwerthu mewn siopau sglodion yn ne Cymru, gogledd-ddwyrain Lloegr, a Swydd Efrog, wedi'u gweini â sglodion. Mae'r risols hyn yn rhai â chig (cig eidion yn nodweddiadol), neu bysgod yn Swydd Efrog, wedi'u stwnsio â thatws, perlysiau, ac weithiau nionyn. Maent wedi'u gorchuddio â briwsion bara neu'n llai aml yn cael eu gorchuddio â chytew a'u ffrio'n ddwfn.[6]

Risols Cymreig

[golygu | golygu cod]

Mae risols yn boblogaidd yn siopau 'sgod a sglods ar hyd Deheudir Cymru. Maen nhw'n cynnwys cig (cyw iâr neu cornbîff), tatws wedi eu berwi a stwnsio a winwns wedi eu ffrio ac yna cymysgu'r cynnwys gyda'u gilydd a'u rolio fewn i peli a'u gorchuddio â briwsion bara cyn eu ffrio. [7] Credir i'r risol gynnwys cornbîff yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan fod hwnnw'n gynhwysyn rhad a haws ei chanfod na chigoedd eraill. Yn ôl un tybiaeth, cyflwynwyd risols i Gymru gan fewnfudwyr o'r Eidal i ddeheudir Cymru.[7] Gellir gynnwys cydfwyd fel persli neu gennin i'r saig sylfaenol.[8]

Gelwir y rysáit sylfaenol yma'n Corned Beef Patties mewn rhannau eraill o'r byd.[8]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "rissole, n.". Oxford English Dictionary Online. July 2023. Cyrchwyd 12 July 2024.
  2. "Rissole". Geiriadur yr Academi. 28 Awst 2024.
  3. "Risol". Cyrchwyd 28 Awst 2024.
  4. Larousse, Librairie (2009-10-13). Larousse Gastronomique: The World's Greatest Culinary Encyclopedia, Completely Revised and Updated (yn Saesneg). National Geographic Books. ISBN 978-0-307-46491-0.
  5. Beeton, Isabella (1865). Mrs. Beeton's Dictionary of Every-Day Cookery. London: Ward, Lock & Tyler.
  6. Rissoles[dolen farw] FoodsOfEngland.co.uk Archifwyd 2020-12-12 yn y Peiriant Wayback. Accessed July 2020.
  7. 7.0 7.1 Morgan, Kacie (6 Awst 2023). "How To Make Welsh Rissoles: Authentic Welsh Rissole Recipe". Welsh Rarebit.
  8. 8.0 8.1 "Traditional WELSH Corned Beef Rissoles". Sianel Youtube Backyard Chef. 2024.