Neidio i'r cynnwys

Rhys Williams (athletwr)

Oddi ar Wicipedia
Rhys Williams
Rhys Williams yn 2006
Ganwyd27 Chwefror 1984 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcystadleuydd yn y Gemau Olympaidd Edit this on Wikidata
Taldra185 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau73 cilogram Edit this on Wikidata
TadJ. J. Williams Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Athletwr o Gymru a gwibiwr 400m dros y clwydi yw Rhys Williams (ganwyd 27 Chwefror 1984). Enillodd fedal efydd ym Mhencampwriaethau Athletau Ewrop 2006 yn Gothenburg gydag amser o 49.12 eiliad, dipyn yn arafach na'i orau personol (49.09). Fel aelod o dîm Prydain yn y ras gyfnewid 4x400m, rhedodd yr ail gymal gan ennill medal arian. Ym Mhencampwriaethau Athletau Ewrop 2010 enillodd fedal arian am y 400m dros y clwydi gyda gorau personol o 48.96. Enillodd fedal efydd yng Nghemau'r Gymanwlad 2010.

Ei dad yw'r chwaraewr rygbi Cymreig enwog, J.J. Williams.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.