Neidio i'r cynnwys

Rhydlydan

Oddi ar Wicipedia
Rhydlydan
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPentrefoelas Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.043304°N 3.652714°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH892508 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/au y DUDavid Jones (Ceidwadwr)
Map
Am y pentref o'r un enw ym Mhowys, gweler Rhydlydan, Powys.

Pentref bychan gwledig yng nghymuned Pentrefoelas, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Rhydlydan.[1][2] Saif yn ne-ddwyrain y sir, yn ymyl i lôn yr A5, 2 filltir i'r dwyrain o Bentrefoelas a 4 milltir i'r gorllewin o Gerrigydrudion, tua 220m uwch lefel y môr. Arferai fod yn rhan o'r hen Sir Ddinbych.

Saif y pentref gwasgaredig ger bont ar afon Merddwr, sy'n ymuno yn afon Conwy fymryn yn is i lawr y cwm. Mae'n debyg iddo gael ei enw am fod groesfan lydan yma dros y tir corsiog a'r afon cyn i'r bont gael ei chodi.

Hanner milltir i'r gorllewin o Rydlydan ceir plasdy Plas Iolyn, a fu'n gartref i'r enwog Elis Prys (Y Doctor Coch) (?1512-1863?). Roedd y Dr Prys yn noddwr hael i feirdd gogledd Cymru. Adnewyddiodd Blas Iolyn tua'r flwyddyn 1560. Ymhlith y beirdd a ganodd glod lletygarwch Plas Iolyn y mae Tudur Aled, Siôn Tudur a Lewys Môn.

Tu ôl i'r hen blasdy, i'r de, ceir Garn Prys (534m).

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 22 Tachwedd 2021