Rhondda Cynon Taf
Clocwedd o'r brig: Mynydd Maerdy ger Maerdy, glan afon ger Aberpennar, ac Eglwys y Santes Gatrin ym Mhontypridd | |
Math | prif ardal |
---|---|
Enwyd ar ôl | Afon Rhondda, Afon Cynon, Afon Taf |
Prifddinas | Cwm Clydach |
Poblogaeth | 240,131 |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | Nürtingen, Wolfenbüttel |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 424.1503 km² |
Yn ffinio gyda | Dinas a Sir Caerdydd, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Merthyr Tudful, Powys, Castell-nedd Port Talbot |
Cyfesurynnau | 51.65°N 3.44°W |
Cod SYG | W06000016 |
GB-RCT | |
Bwrdeistref sirol yn ne Cymru yw Rhondda Cynon Taf. Daeth i fodolaeth gydag adrefnu llywodraeth leol yng Nghymru yn 1996. Mae'n ffinio â Merthyr Tudful a Chaerffili yn y dwyrain, Caerdydd a Bro Morgannwg yn y de, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot yn y gorllewin, a Phowys yn y gogledd. Y prif drefi yw Aberdâr, Aberpennar a Phontypridd.
Mae canlyniadau cyfrifiad 2011 yn dangos bod 19.1% o’i 234,410 o drigolion yn hunan-nodi bod ganddynt rywfaint o allu yn y defnydd o’r Gymraeg.[1] Mae'r fwrdeistref sirol yn ffinio â Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Bwrdeistref Sirol Caerffili i'r dwyrain, Caerdydd a Bro Morgannwg i'r de, Bwrdeistref Sirol Pen- y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot i'r gorllewin a Phowys i'r gogledd. Ei phrif drefi yw Aberdâr, Llantrisant, Tonysguboriau, Phontypridd, a cheir trefi eraill gan gynnwys - Maerdy, Glynrhedynog, Hirwaun, Llanharan, Aberpennar, Porth, Tonypandy, Tonyrefail a Threorci.
Y dref unigol fwyaf poblog yn Rhondda Cynon Taf yw Aberdâr gyda phoblogaeth o 39,550 (2011), ac yna Pontypridd gyda 32,694 (2011). Yr ardal drefol fwyaf fel y’i diffinnir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yw ardal Tonypandy, gyda phoblogaeth o 62,545 (2011), sy’n cynnwys llawer o Gwm Rhondda.[2]
Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf yn 2024, wedi iddi gael ei gohirio ddwywaith o 2022 oherwydd y Gofid Mawr.[3]
Hanes
[golygu | golygu cod]Ffurfiwyd y fwrdeistref sirol ar 1 Ebrill 1996, trwy uno hen gyghorau Dosbarth Morgannwg Ganol, sef Rhondda, Cwm Cynon a Thaf-Elái (ac eithrio Creigiau a Phentyrch, a ychwanegwyd at Gaerdydd). Mae ei henw'n adlewyrchu'r rhain i gyd, ac felly hefyd afonydd Rhondda, Cynon a Thaf. Pontypridd, sy'n dref prifysgol ac yn Dref Farchnad, yw prif dref Rhondda Cynon Taf; ac mae wedi'i lleoli 12 milltir i'r gogledd o'r brifddinas, Caerdydd. Mae Pontypridd yn aml yn cael ei dalfyrru fel “Ponty” yn y Saesneg.
Diwydiant
[golygu | golygu cod]Datblygodd yr ardal wedi i fwyngloddwyr ddarganfod glo Cymreig o'r safon uchel, fel glo ager, er mwyn eu hallforio i'r byd drwy ddociau Caerdydd a’r Barri. Roedd tomenni gwastraff glo a phennau pyllau glo dwfn o un gorwel i'r llall am rai canrifoedd. Ceir tai teras ar y llethrau, golygfa sy'n nodedig i gymoedd megis y Rhondda a Chwm Cynon. Yn 19g roedd gan y Rhondda dros 60 o fwyngloddiau.
Wrth i byllau dwfn gau, crëwyd nifer o byllau glo brig mawr iawn ac mae rhai'n parhau i weithredu, yn enwedig tua gogledd yr ardal.
Roedd Awdurdod Datblygu Cymru, a ffurfiwyd ym 1976 i helpu gwrthdroi’r dirywiad economaidd yng Nghymru a achoswyd gan y dirwasgiad yn y diwydiannau glo a dur, yn weithgar iawn yn ardal Rhondda Cynon Taf yn cefnogi ac yn annog adfywio diwydiant a masnach.[angen ffynhonnell] Erbyn 2024 roedd yma Stiwdios Ffilm Rhyngwladol y Ddraig, ar safle gwaith glo brig Llanilid. Mae lleoliad y prosiect wedi ei arwain i gael ei adnabod yn lleol fel "Valleywood", er bod cymoedd Cymru rai milltiroedd i ffwrdd.
Amgylchedd
[golygu | golygu cod]Mae’r diwydiant glo wedi cael effeithiau andwyol iawn ar ansawdd yr amgylchedd, fel bod y rhan fwyaf o’r afonydd wedi’u llygru’n ddifrifol fel nad oes pysgod ynddyn nhw, ar y cyfan. Mae'r degawdau diwethaf wedi dangos gwelliant gyda'r eog yn dychwelyd i rai afonydd ee Afon Taf ac Afon Rhondda.
Llywodraeth
[golygu | golygu cod]Mae’r ardal yn cael ei llywodraethu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf o’r pencadlys ym Mhontypridd a hi yw’r awdurdod sy’n cynnal Rhaglen Gwella Cydweithredol De-ddwyrain Cymru (SEWIC), enillydd gwobr Rhagoriaeth Cymru 2010. Ceir pedair etholaeth sy'n cael eu cynrychioli yn y Senedd. Cynrychiolwyd Rhondda Cynon Taf gan bedwar AS yn Senedd y DU tan 2024.
Pobl nodedig
[golygu | golygu cod]- Syr Tom Jones —Trefforest, Pontypridd—canwr, a adnabyddid i rai yn lleol wrth ei enw genedigol, Tommy Woodward
- Neil Jenkins — Pentre'r Eglwys, ger Pontypridd — chwaraewr rygbi undeb Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon
- Kelly Jones — Cwmaman — prif leisydd a phrif gitarydd y band roc y Stereophonics
- Gwasanaethodd y Barwn Merlyn Rees (1920-2006) — Cilfynydd, ger Pontypridd — fel Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon (1974–1976) ac Ysgrifennydd Cartref (1976–1979)
- Syr Geraint Evans (1922–1992) — Cilfynydd, ger Pontypridd — canwr opera llais bas
Gefeillio
[golygu | golygu cod]Y trefi sydd â threfniadau gefeillio yn Rhondda Cynon Taf yw:
- Pontypridd:Nürtingen, Baden-Württemberg, yr Almaen
- Aberdâr:Ravensburg, Baden-Württemberg, yr Almaen
- Llantrisant: Crecy-en-Ponthieu, Picardy, Ffrainc
Rhyddid y Fwrdeistref
[golygu | golygu cod]Mae'r bobl a'r unedau milwrol canlynol wedi derbyn Rhyddid Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf.
- Stuart Burrows: 31 Ionawr 2008.[4]
- Elaine Morgan: 10 Ebrill 2013.[5]
Demograffeg
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2021, mae grwpiau ethnig y fwrdeistref sirol fel a ganlyn:
Grŵp ethnig | Canran |
---|---|
Gwyn | 96.7% |
Asiaidd | 1.5% |
Cymysg | 1.0% |
Du | 0.4% |
Arall | 0.3% |
Crefydd
[golygu | golygu cod]Yng Nghyfrifiad 2021, mae cyfansoddiad crefyddol y fwrdeistref sirol fel a ganlyn:
Crefydd | Canran |
---|---|
Dim crefydd | 56.2% |
Cristionogaeth | 36.4% |
Islam | 0.6% |
Arall | 0.5% |
Bwdhaeth | 0.2% |
Hindwaeth | 0.2% |
Sikhaeth | 0.1% |
Iddewiaeth | 0.1% |
Heb ei nodi | 5.8% |
Cymunedau
[golygu | golygu cod]Rhennir y fwrdeistref yn 39 o gymunedau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Population Density, 2011". Office for National Statistics. neighbourhood.statistics.gov.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 3 Ionawr 2014.
- ↑ "Tonypandy built-up area". NOMIS. Office for National Statistics. Cyrchwyd 22 Hydref 2022.
- ↑ "Covid: Wales' National Eisteddfod postponed until 2022". 26 Ionawr 2021 – drwy www.bbc.co.uk.
- ↑ "Tenor granted freedom of borough". WalesOnline. 31 Ionawr 2008.
- ↑ Best, Jessica (10 April 2013). "Award-winning columnist Elaine Morgan given the freedom of Rhondda Cynon Taf". WalesOnline.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Hafan Awdurdod Unedol Rhondda Cynon Taf Archifwyd 2012-02-06 yn y Peiriant Wayback Archifwyd
- Porth newyddion ar-lein Rhondda Cynon Taf
- Cyngor Rhondda Cynon Taf
- Rhondda Cynon Taf Arlein (Cynnwys Cymraeg a Saesneg) Archifwyd 2007-11-07 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan RhonddaCynonTaff.com
Trefi
Aberdâr · Aberpennar · Glynrhedynog · Llantrisant · Pontypridd · Y Porth · Tonypandy · Treorci
Pentrefi
Aberaman · Abercwmboi · Abercynon · Aber-nant · Y Beddau · Blaenclydach · Blaencwm · Blaenllechau · Blaenrhondda · Brynna · Brynsadler · Cefn Rhigos · Cefnpennar · Cilfynydd · Coed-elái · Coed-y-cwm · Cwmaman · Cwm-bach · Cwm Clydach · Cwmdâr · Cwm-parc · Cwmpennar · Y Cymer · Dinas Rhondda · Y Ddraenen Wen · Efail Isaf · Fernhill · Ffynnon Taf · Y Gelli · Gilfach Goch · Glan-bad · Glyn-coch · Glyn-taf · Y Groes-faen · Hirwaun · Llanharan · Llanhari · Llanilltud Faerdref · Llanwynno · Llwydcoed · Llwynypïa · Y Maerdy · Meisgyn · Nantgarw · Penderyn · Pendyrus · Penrhiw-ceibr · Penrhiw-fer · Penrhys · Pentre · Pentre'r Eglwys · Pen-yr-englyn · Pen-y-graig · Pen-y-waun · Pont-y-clun · Pont-y-gwaith · Y Rhigos · Rhydyfelin · Ton Pentre · Ton-teg · Tonyrefail · Tonysguboriau · Trealaw · Trebanog · Trecynon · Trefforest · Trehafod · Treherbert · Trehopcyn · Trewiliam · Tynewydd · Wattstown · Ynys-hir · Ynysmaerdy · Ynys-y-bwl · Ystrad Rhondda
|