Neidio i'r cynnwys

Rhestr o ddigwyddiadau gwleidyddol Cymru

Oddi ar Wicipedia
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres:

Gwleidyddiaeth
Cymru




gweld  sgwrs  golygu

Rhai cerrig milltir yng ngwleidyddiaeth Cymru:

Cyn 1800

[golygu | golygu cod]
  • 1283 Ffurfwyd Tŷ'r Cyffredin yn Lloegr, heb gynrychiolaeth o Gymru.
  • 1542 Etholwyd 27 o Aelodau Seneddol i gynrychioli Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin.
  • 1680 Syr William Williams, Aelod Seneddol Caer, yn cael ei wneud yn 'Llefarydd' Tŷ'r Cyffredin.
  • 1685 Yr Aelod Seneddol cyntaf o etholaeth Gymreig yn cael ei wneud yn Llefarydd: Syr John Trefor.
  • 1727 Mwyafrif o Chwigiaid yn cael eu hethol o etholaethau Cymreig.

19eg ganrif

[golygu | golygu cod]
  • 1841 William Edwards yn sefyll fel Siartydd dros Sir Fynwy, heb dderbyn yr un bleidlais. Dyma'r unig dro i hyn ddigwydd yng Nghymru.
  • 1852 Yr Anghydffurfwyr yn dathlu llwyddiant Walter Coffin yn eu cynrychioli dros etholaeth Caerdydd. Dyma'r Anghydffurfiwr cyntaf yng Nghymru i gael ei ethol yn Aelod Seneddol.
  • 1868 Am y tro cyntaf etholwyd mwyafrif o Aelodau Seneddol Rhyddfrydol o Gymru.
  • 1885 Cynhaliwyd yr etholiad cyffredinol cyntaf lle roedd gan y Rhyddfrydwyr ymgeisydd ym mhob etholaeth.
  • 1886 Etholwyd William Abraham ('Mabon') yn Aelod Seneddol - y cyntaf yng Nghymru a oedd wedi'i fagu yn y dosbarth gweithiol.
  • 1888 Ffurfiodd y Rhyddfrydwyr 'Blaid Gymreig o fewn y Llywodraeth' gan Aelodau Seneddol Rhyddfrydol.
  • 1898 David Williams, y cynghorydd cyntaf yng Nghymru i sefyll dros y Blaid Lafur, yn cael ei ethol i Gyngor Tref Abertawe.

20fed ganrif

[golygu | golygu cod]
  • 1900 Keir Hardy - yr Aelod Seneddol Llafur cyntaf ym Mhrydain yn cael ei ethol i'r Senedd - dros Ferthyr Tudful.
  • 1905 David Lloyd George yn ymuno â'r Cabinet fel Llywydd y Bwrdd Masnach.
  • 1906 Nid etholwyd yr un Aelod Seneddol Toriaidd yng Nghymru; dyma'r unig dro i hyn ddigwydd.
  • 1907 Is-bwyllgor Cymreig yn cael ei sefydflu i drafod materion Cytmreig.
  • 1910 Dyma'r etholiad cyffredinol cyntaf lle ymladdwyd pob etholaeth.
Y ferch gyntaf i'w hethol ar gyngor trefol: Gwenllian Elizabeth Fanny Morgan ar Gyngor Aberhonddu]], hefyd y faeres gyntaf.

21ain ganrif

[golygu | golygu cod]