Neidio i'r cynnwys

Rheilffordd Dyffryn Hafren

Oddi ar Wicipedia
Rheilffordd Dyffryn Hafren
Enghraifft o'r canlynolllinell rheilffordd, rheilffordd dreftadaeth Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1862, 1970 Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthKidderminster Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.svr.co.uk Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rheilffordd Dyffryn Hafren
uKHSTa
Bridgnorth
uHST
Hampton Loade
uHST
Arhosfa Parc Gwledig
uHST
Highley
uHST
Arley
uHST
Arhosfa Northwood
uHST
Bewdley
uKHSTe
Kidderminster

Mae'r Rheilffordd Dyffryn Hafren yn rheilffordd dreftadaeth sy'n mynd o Kidderminster yn Swydd Gaerwrangon i Bridgnorth yn Swydd Amwythig, tua 16 milltir o hyd ac o led safonol.

Adeiladwyd lein rhwng 1858 a 1862 yn cysylltu Hartlebury, Stourport, Bewdley, Arley, Highley, Hampton Loade, Bridgnorth, Coalport, Ironbridge, Buildwas, Cressage, Berrington ac Amwythig. Daeth y lein yn rhan Rheilffordd y Great Western ym 1870[1]. Adeiladwyd lein o Bridgnorth i Kidderminster ym 1878.[2]

Caewyd y lein ym 1963 yn rhan o doriadau Beeching.[3]

Atgyfodi

[golygu | golygu cod]
Gorsaf reilffordd Kidderminster

Ffurfiwyd Cymdeithas Rheilffordd Dyffryn Hafren ar 6 Gorffennaf 1965. Daeth Syr Gerald Nabarro'n gadeirydd. Gwerthiwyd cyfrandaliadau a prynwyd y lein o Alveley, trwy Highley, Arley a Bewdley hyd at Parc Foley, yn ymyl Kidderminster oddi wrth Rheilffyrd Prydeinig am £74,000. Agorwyd y darn cyntaf rhwng Bridgnorth a Hampton Loade ym Mai 1970, y darn nesaf hyd at Highley yn Ebrill 1974, a hyd at Bewdley ym Mai 1974.[2]

Prynwyd y lein o Parc Foley i Kidderminster ym 1982, a llogwyd safle'r iard nwyddau yn Kidderminster oddi wrth Rheilffyrd Prydeinig. Adeiladwyd Gorsaf reilffordd Kidderminster, copi o orsaf reilffordd Y Rhosan ar Wy ac agorwyd or orsaf ar 30 Gorffennaf 1984, yn ailsefydlu cysylltiad efo'r rheilffyrdd cenedlaethol.[3]

Y ganolfan ymwelwyr ac addysg

[golygu | golygu cod]

Cwblhawyd y ganolfan yn Highley yn 2009[1].

Locomotifau

[golygu | golygu cod]

Locomotifau Stêm Gweithredol

[golygu | golygu cod]
Rhif Enw Delwedd Trefn yr Olwynion Adeiladwyd Adeiladwr Nodiadau
1450 - 0-4-2T Adeiladwyd ym 1932 GWR Swindon Dosbarth 1400. Perchennog Mike Little
1501 - 0-6-0PT Adeiladwyd ym 1949 GWR Swindon Locomotif Hawksworth. Perchennog Ymddiriodolaeth Tanc Panier 15xx
2857 - 2-8-0 Adeiladwyd ym 1918 GWR Swindon Dosbarth 2800. Perchennog Cymdeithas 2857
34027 Taw Valley - 4-6-2 Adeiladwyd ym 1945 Rheilffordd Deheuol, Brighton Locomotif Bulleid, Dosbarth 'West Country'. Addaswyd ym 1957. Perchennog Phil Swallow
35053 Sir Keith Park - 4-6-2 Rheilffordd Deheuol Locomotif Bulleid Dosbarth 'Battle of Britain'. Perchennog Southern Locomotives Ltd
43106 - 2-6-0 Adeiladwyd ym 1951 Darlington Locomotif Ivatt o Reilffordd Llundain, Canolbarth a'r Alban. Perchennog Grwp Dosbarth 4 Ivatt
4566 - 2-6-2T Adeiladwyd ym 1924 GWR Swindon Locomotif Churchward dosbarth 4500. Perchennog Grwp 4566.
7812 Erlestoke Manor 4-6-0 Adeiladwyd ym 1929 GWR Swindon Locomotif Collett, dosbarth Manor. Perchennog Cronfa Erlestoke Manor

Locomotifau diesel

[golygu | golygu cod]
Rhif Enw Delwedd Trefn yr Olwynion Adeiladwyd Adeiladwr Nodiadau
D2960 Silver Spoon 0-4-0 1956 Cwmni Ruston a Hornsby Gweithio yn Kidderminster. Cyn-eiddo Corfforaeth Bryneinig Siwgr
D2957 0-4-0 1953 Cwmni Ruston a Hornsby Gweithredol. Cyn -eiddo Cemygion B I P, Langley Green
D2961 0-4-0 Cwmni Ruston a Hornsby Gweithio yn Bridgnorth. Perchennog Pete Cherry
D3022 0-6-0 1953 Cwmni English Electric Gweithio yn Kidderminster. Perchennog Cymdeithas Dosbarth 08.
D3201 0-6-0 Cwmni English Electric Gweithio yn Kidderminster
D3586 0-6-0 1958 Cwmni English Electric Gweithio yn Bridgnorth.
D3802 0-6-0 1958 Cwmni English Electric yn storfa
08896 0-6-0 Cwmni English Electric yn Kidderminster. Ffynhonnell darnau sbâr
D4100 Dick Hardy 0-6-0 Gweithdai Horwich Dosbarth 09. Gweithio yn Kidderminster
12099 0-6-0 1952 English Electric Dosbarth 11. Perchennog Cronfa Siwntwr Kidderminster. Gweithredol
D9551 Angus 0-6-0 1965 BR Swindon Dosbarth 14. Perchennog Cwmni SVR Dosbarth 14. Trwsir yn Bridgnorth.
D8188 Bo-Bo 1967 Ffowndri Vulcan Dosbarth 20. Perchennog Cwmni Locomotif Gwlad yr Haf a Swydd Dorset. Trwsir yn Washwood Heath.
D8059 Bo Bo 1961 Cwmni Robert Stephenson a Hawthorn Gweithredol. Dosbarth 20. Perchennog Cwmni Locomotif Gwlad yr Haf a Swydd Dorset.
D20177 Bo Bo Cwmni Robert Stephenson a Hawthorn Ffynhonnell darnau sbâr. Dosbarth 20. Perchennog Cwmni Locomotif Gwlad yr Haf a Swydd Dorset.
D5410 Bo Bo 1961 Cwmni Cerdydau Birmingham Yn storfa, Kidderminster. Perchennog Cyngor Sandwell
D7029 B-B 1961 Cwmni Beyer Peacock Dosbarth 35 (Hymek). Perchennog Grŵp Tyniant Diesel. Atgyweirir yn Kidderminster
D821 B-B 1958 BR Swindon Dosbarth 42 (Warship). Perchennog Grŵp Tyniant Diesel. Atgyweirir yn Old Oak Common
50031 Hood Co-Co 1967 Cwmni English Electric Dosbarth 50. Perchennog cynghrair Dosbarth 50. Atgyweirir yng Ngweithdai Eastleigh.
50035 Ark Royal Co-Co 1968 Cwmni English Electric Dosbarth 50. Perchennog cynghrair Dosbarth 50. Gweithredol.
50044 Exeter Co-Co 1968 Cwmni English Electric Dosbarth 50. Perchennog cynghrair Dosbarth 50. Atgyweirir yn Kidderminster
50049 Defiance Co-Co 1968 Cwmni English Electric Dosbarth 50. Perchennog cynghrair Dosbarth 50. Atgyweirir yn Kidderminster
D1013 Western Ranger C-C 1962 BR Swindon Dosbarth 52. Perchennog Cymdeithas Locomotif 'Western'. Atgyweirir yn Bridgnorth.
D1062 Western Courier C-C 1962 BR Swindon Dosbarth 52. Perchennog Cymdeithas Locomotif 'Western'. Gweithredol.
51941/50933/52064/56208/59250 1958-61 Gweithdai Derby Uned Dosbarth 108. Perchennog Grŵp DMU (gorllewin canolbarth). Gweithredol.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Gwefan british-heritage-railways". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-05. Cyrchwyd 2015-07-05.
  2. 2.0 2.1 "Gwefan steamrailwaylines". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-07. Cyrchwyd 2015-07-05.
  3. 3.0 3.1 "Tudalen hanes ar wefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-26. Cyrchwyd 2015-07-05.