Rhedyw
Gwedd
Rhedyw | |
---|---|
Ganwyd | 5 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Dydd gŵyl | 6 Gorffennaf |
Sant Cymreig cynnar a gysylltir â Llanllyfni, Gwynedd, yw Rhedyw (Lladin Redicus) (bl. tua dechrau'r 5g efallai).
Hanes a thraddodiad
[golygu | golygu cod]Ychydig a wyddys amdano. Cysegir eglwys Llanllyfni iddo. Dywedir i'r eglwys gyntaf ar y safle gael ei sefydlu yn y bedwaredd ganrif. Mae traddodiad i Redyw gael ei eni yn Arfon a dod yn swyddog pwysig yn eglwys Augustodunum (Autun heddiw) yng Ngâl.[1]
Llanllyfni
[golygu | golygu cod]Ei ŵyl Mabsant yw'r 6 Gorffennaf, pan gynhelir Gŵyl Rhedyw yn Llanllyfni bob blwyddyn.[1]
Ceir Ffynnon Rhedyw ger yr eglwys, a ddefnyddid ar gyfer bedyddio. Hefyd ceir megalith Eisteddfa Rhedyw ar Fynydd Llanllyfni.[1]