Neidio i'r cynnwys

Rembrandt

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Rembrandt van Rijn)
Rembrandt
GanwydRembrandt Harmenszoon van Rijn Edit this on Wikidata
15 Gorffennaf 1606 Edit this on Wikidata
Leiden Edit this on Wikidata
Bu farw4 Hydref 1669 Edit this on Wikidata
Amsterdam Edit this on Wikidata
Man preswylRembrandthuis Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth yr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaetharlunydd, drafftsmon, gwneuthurwr printiau, casglwr celf, ysgythrwr, casglwr, artist Edit this on Wikidata
Adnabyddus amYr Wylfa Nos, Syndics of the Drapers' Guild, Y Briodferch Iddewig, Gwledd Belsassar Edit this on Wikidata
Arddullportread (paentiad), paentiadau crefyddol, paentiad mytholegol, peintio genre, peintio hanesyddol, hunanbortread, celf tirlun, portread, tronie, bywyd llonydd, vanitas, hunting still life, mythological art, winter landscape Edit this on Wikidata
Mudiadpeintio Oes Aur yr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
TadHarmen Gerritszoon van Rijn Edit this on Wikidata
MamNeeltje Willemsdr. Zuytbrouck Edit this on Wikidata
PriodSaskia van Uylenburgh Edit this on Wikidata
PartnerGeertje Dircx, Hendrickje Stoffels Edit this on Wikidata
PlantTitus van Rijn, Cornelia van Rijn Edit this on Wikidata
llofnod

Arlunydd o'r Iseldiroedd oedd Rembrandt Harmenszoon van Rijn (15 Gorffennaf 16064 Hydref 1669). Mae'n cael ei gyfri fel un o arlunwyr ac ysgythrwr mwyaf Ewrop ac yn sicr y gorau yn hanes celf yr Iseldiroedd.[1] Cyfrannodd yn helaeth mewn cyfnod o gyfoeth a bwrlwm celfyddydol a elwir yn Oes Aur yr Iseldiroedd a oedd yn ddull cwbwl groes i'r traddodiad Baróc a oedd yn parhau drwy weddill Ewrop.

Fe'i ganwyd yn Leiden. Fel arlunydd ifanc cafodd gryn lwyddiant yn paentio lluniau o bobl. Cafodd hefyd fywyd llawn trasiedi a chaledi ariannol, eto roedd ffrwyth ei lafur yn hynod boblogaidd drwy gydol ei oes a chanmolwyd ef gan y beirniaid a'r bobl gyffredin.[2] Am ugain mlynedd dysgodd eraill sut i beintio, gyda nifer o'i ddisgyblion yn arlunwyr enwog o'r Iseldiroedd.[3] Efallai mai lluniau o'i gyfoeswyr yw'r lluniau gorau a wnaeth, a golygfeydd o'r Beibl. Mae ei hunanbortreadau'n dweud llawer amdano ac yn ddarluniau gonest, di-duedd.[1]

Mae ei luniau (olew ac ysgythriadau) yn brawf o'i wybodaeth am eiconnau clasurol, a addasodd i'w bwrpas ei hun; er enghraifft, mae ei olygfeydd beiblaidd yn dangos ei fod wedi'i drwytho yn y testun ei hun yn drwyadl ac yn aml yn adlewyrchu ei ymchwil i bryd a gwedd Iddewon Amsterdam.[4] Mae'r portradau hyn yn dangos ei empathi tuag at y ddynol ryw ac oherwydd hyn caiff ei alw'n aml yn "un o Broffwydi mwyaf gwareiddiad".[5]

Priododd Rembrandt ei wraig, Saskia van Uylenburgh, ym 1634. Bu farw Saskia ym 1642.

Hunan portreadau

[golygu | golygu cod]

Gwaith arall

[golygu | golygu cod]

Darluniau ac ysgythriadau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Gombrich, p. 420.
  2. Gombrich, tud. 427.
  3. Clark 1969, tt. 203
  4. Clark 1969, tt. 203–204
  5. Clark 1969, tt. 205
  6. Starcky, Emmanuel (1990). Rembrandt. Hazan. t. 45. ISBN 2-85025-212-3.
Eginyn erthygl sydd uchod am yr Iseldiroedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato