Neidio i'r cynnwys

Queenie Thomas

Oddi ar Wicipedia
Queenie Thomas
Ganwyd18 Mehefin 1898 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw11 Hydref 1977 Edit this on Wikidata
Lloegr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, actor ffilm Edit this on Wikidata

Roedd Queenie Thomas (18 Mehefin 189811 Hydref 1977) yn actores ffilmiau mud Cymreig.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Marjorie Violet Queenie Thomas yn Llundain yn blentyn i William Thomas, trafeiliwr a Clara Cecilia King ei ail wraig. Symudodd y teulu i fyw i Gaerdydd tua 1904. Cafodd Queenie ei haddysgu yn ysgol merched Treganna.[1]

Manylun o 1900

Dechreuodd Queenie actio ar lwyfan ym 1914 gan ymddangos mewn cynhyrchiad o'r enw The New Clown yn y New Theatr, Llundain[2]. Ym mis Medi 1915 ymddangosodd yn ei ffilm gyntaf yn chware rhan Regina yn y ffilm drama Infelice. Hyd ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf bu gyrfa lewyrchus gan Queenie yn gweithio ar gyfer y cyfarwyddwr Bertram Phillips. Bu'n serennu mewn ffilmiau megis y ffilm propaganda rhyfel The Man the Army Made, Meg o' the Woods (1918) a A Little Child Shall Lead Them(1919). Wedi'r rhyfel penderfynodd Phillips agor stiwdio newydd ysblennydd mewn plasty yn Clapam Park, ond bu'r fenter yn fethiant ariannol gan gau ym 1923 wedi cynhyrchu dim ond ffilmiau byr yn serennu Queenie a phob un yn fethiant.[3]. Gyda diwedd stiwdio Phillips daeth dirywiad yng ngyrfa Queenie. Ymddangosodd mewn ychydig o ffilmiau eraill rhwng 1923 a 1930 ond heb y cymeradwyaeth beirniadol bu i'w gwaith cynharach.

Priododd y rasiwr ceir George Newmans yn Eglwys St. Margaret's, Westminster  ar 20 Hydref 1919 [4][5].

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Bu farw o niwmonia yn 79 mlwydd oed.

Ffilmyddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • The White Star (1915)
  • Won by Losing (1916)
  • A Man the Army Made (1917)
  • Democracy (1918)
  • Rock of Ages (1918)
  • What Would a Gentleman Do? (1918)
  • The School for Scandal (1923)
  • Straws in the Wind (1924)
  • Her Redemption (1924)
  • The Alley of Golden Hearts (1924)
  • The Gold Cure (1925)
  • The Last Witness (1925)
  • Safety First (1926)
  • Warned Off (1930)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Archif Morgannwg National School Admission Registers & Log-Books 1870-1914 Cyfeirnod:D808/1/2
  2. Paull, H. M. "New Theatre." Daily Telegraph, 30 Rhag. 1914, tud. 11. The Telegraph Historical Archive. Adalwyd 1 Ionawr 2019
  3. History of British Film (Volume 4): The History of the British Film 1918 - 1929. Gol. Rachael Low. Routledge, 2013. ISBN 9781136206344
  4. "TheDaysGossip - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1919-10-23. Cyrchwyd 2019-01-02.
  5. The Bioscope 16 Hydref 1919 Studio Notes Tud. 81 Col. 1

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: