Neidio i'r cynnwys

Pwdin gwaed

Oddi ar Wicipedia
Pwdin gwaed
Mathboudin, blood sausage Edit this on Wikidata
Yn cynnwysblood as food, blawd, menyn, hufen, gwynnwy wedi'i guro, melynwy, sbeis, Tyrolean Speck, grain, Siwed Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tafellau o Bwdin Gwaed

Mae pwdin gwaed yn fath arbennig o selsig gwaed yn y Deyrnas Unedig ac yn Iwerddon. Fe'i gwneir o borc neu weithiau gwaed eidion, gyda braster porc neu siwed cig eidion, a grawnfwyd, blawd ceirch, rhynion ceirch, neu rhynon haidd fel arfer. Mae'r gyfran uchel o rawnfwyd, ynghyd â'r defnydd o perlysiau fel brymlys, yn gwahaniaethu rhwng pwdin gwaed a selsig gwaed a fwyteir mewn rhannau eraill o'r byd.[1] Ceir hefyd Pwdin Gwaed Gwyddau yng Nghymru a wnaed o waed gwyddau yn Eifionydd.[2]

Fe'i gelwir yn black pudding yn Saesneg oherwydd ei liw; yn Ffrainc ceir pwdin gwaed tebyg o'r enw boudin noir.

Ceir cofnod cynharaf y term "pwdin gwaed" o Almanacau John Prys yn 1768 "[y]r un fath ydyw llyfr heb ragymadrodd, a phwding gwaed heb ddim siwed."[3]

Pwdin gwaed (chwith) fel rhan o bryd brecwast llawn

Er gwaethaf yr enw pwdin, ystyrir pwdinau gwaed yn un o'r mathau hynaf o selsig. Credir i'r gair Saesneg "pudding" ddod o'r Ffrangeg boudin, sydd o'r Lladin wreiddiol botellus, a olygai "selsigen fach".[4] Defnyddir y gair "pudding" yn Saesneg i olygu math o selsig sawrus neu, fel y tueddir i'w hystyried bellach a bron yn ddieithriad gyda'r gair Cymraeg "pwdin" fel saig melys.

Yn gyffredinol mae anifeiliaid yn cael eu gwaedu adeg eu lladd, ac wrth i waed ddifetha'n gyflym oni bai ei fod wedi'i baratoi mewn rhyw ffordd, mae gwneud pwdin ag ef yn un o'r ffyrdd hawsaf o sicrhau nad yw'n mynd yn wastraff.[1] Er bod y mwyafrif o ryseitiau pwdin gwaed modern yn cynnwys gwaed porc, nid oedd hynny bob amser yn wir. Defnyddiwyd gwaed defaid neu waed buwch hefyd, ac roedd un rysáit Saesneg o'r 15g yn defnyddio llamhidydd mewn pwdin a fwytawyd gan uchelwyr yn unig.[1] Hyd at y 19g o leiaf, gwaed buwch neu ddefaid oedd y sail arferol ar gyfer pwdinau du yn yr Alban; roedd geiriadur Sgoteg Jamieson yn diffinio "black pudding" fel "pwdin wedi'i wneud o waed buwch neu ddafad".[5]

Arferion bwyta

[golygu | golygu cod]
Pwdin gwaed wedi ei ffrio mewn cytew a gweini mewn Siop Sgod a Sglods

Cysylltir bwyta pwdin gwaed fel rhan o Frecwast Cymreig a brecwastau traddodiadol eraill.

Gall pwdin gwaed gael ei grilio, ei ffrio, ei bobi, neu ei ferwi yn ei groen. Gellir ei fwyta'n oer hefyd, gan ei fod yn cael ei goginio wrth ei gynhyrchu.[6]

Mewn rhannau o ogledd-orllewin Lloegr ac yn y 'Black Country' (Canolbarth Lloegr), roedd yn arferol gweini pwdin gwaed cyfan wedi'i ferwi fel pryd cyflawn, gyda bara neu datws.[7] Mewn mannau eraill yn ngwledydd Prydain ac Iwerddon, mae tafelli o bwdin gwaed wedi'i ffrio neu wedi'i grilio yn cael eu gweini fel arfer fel rhan o frecwast llawn traddodiadol,[8] traddodiad sydd wedi lledaenu ledled y byd gydag allfudo.[9]

Mae rhai siopau sglodion, yn enwedig yn yr Alban (a gogledd Lloegr) yn gwerthu pwdin gwaed wedi'i ffrio'n ddwfn, mewn cytew.[10]

Amrywiaethu byd-eang

[golygu | golygu cod]

Ceir amrywiaethau ar y pwdin gwaed ar draws Ewrop.

Ar gyfer fersiwn Rwsia a'r Baltig, mae'r gwaed yn cael ei gymysgu â menyn, blawd, hufen, melynwy a gwynwy wedi'i guro. Y sbeisys nodweddiadol a ychwanegir yw halen, nytmeg, a phenrhudd yr ardd. Mae'r fersiwn o Sweden fel arfer yn cynnwys blawd rhyg, surop a chig moch a'r sbeisys nodweddiadol yw halen, pupur, penrhudd yr ardd, croen lemwn, sinamon, allspice neu ewin.

Fel pryd diwrnod lladd traddodiadol, mae amrywiad o'r pryd a elwir yn Bluttommerl (Styria), Blutnigl (Burgenland) neu Blutsterz yn cael ei baratoi yn nhaleithiau ffederal Awstria.[11]

Mae pwdin gwaed yn ffynhonnell dda o brotein; mae'n isel mewn carbohydradau ac yn uchel mewn sinc a haearn.[12] Fe'i disgrifiwyd fel "superfood" oherwydd y rhinweddau maethol hyn,[13] er bod llawer o ryseitiau hefyd yn uchel iawn mewn braster dirlawn a halen.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 Jaine, T. and Davidson, A. The Oxford companion to food, OUP, 2006, p.104
  2. "Pwdin". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2024.
  3. "Pwdin". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2024.
  4. Olver, Lynne (2000). "The Food Timeline: pudding". The Food Timeline. Cyrchwyd 2007-05-03.
  5. Jamieson, Supplement to the etymological dictionary of the Scottish language, v1, p.95
  6. "How to Cook Black Pudding". Bury Black Puddings. 2024. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-04-18. Cyrchwyd 18 April 2024.
  7. Black pudding Archifwyd 2019-10-24 yn y Peiriant Wayback, The Foods of England, accessed 25-05-18
  8. Bule, Guise (2023). "The Traditional Full English Breakfast". Cyrchwyd 18 April 2024.
  9. Mac Con Iomaire, Máirtín (2009). "Preface". The History of Black Pudding in Ireland. Clonakilty, Swydd Corc: TU Dublin School of Culinary Arts and Food Technology. tt. 3–8. Cyrchwyd 18 April 2024.
  10. Allen, George (2020-11-07). "What our Secret Service spy thought of these seven Derby fish and chip shops". Derby Telegraph. Local World. Cyrchwyd 18 April 2024. One interesting item on the menu was deep-fried black pudding.
  11. Bundesministerium für Land- und Forstwirtschaft, Umwelt und Wasserwirtschaft: (PDF; 119 KB) Blutwurst (Blunzn), http://www.bmlfuw.gv.at/dms/lmat/land/lebensmittel/trad-lebensmittel/fleisch/fleischprodukte/blutwurst_blunzn/Blutwurst-d/Blutwurst d.pdf
  12. "Blood sausage – Nutrition Facts". SELFNutritionData. Cyrchwyd 7 January 2016.
  13. Adam Boult (6 January 2016). "Black pudding hailed as a 'superfood'". The Daily Telegraph. Cyrchwyd 6 October 2018.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am fwyd neu ddiod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am gig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.