Puncak Jaya
Gwedd
Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Saith Pegwn |
Sir | Mimika |
Gwlad | Indonesia |
Uwch y môr | 4,884 metr |
Cyfesurynnau | 4.08°S 137.18°E |
Amlygrwydd | 4,884 metr |
Cadwyn fynydd | Sudirmanbergen |
Deunydd | calchfaen |
Mynydd uchaf Indonesia a chopa uchaf Oceania yw Puncak Jaya. Gydag uchder o 4,884 medr, ef yuw'r mynydd uchaf rhwng yr Himalaya a'r Andes, a'r copa uchaf ar ynys.
Saif y mynydd ym Mynyddoedd Sudirman yn nhalaith Papua ar ynys Gini Newydd. Gerllaw, mae cloddfa aur fwyaf y byd, Cloddfa Grasberg. Enw gwreiddiol y mynydd oedd Pyramid Carstenz, ar ôl y fforiwr Iseldiraidd Jan Carstensz, a'i disgrifiodd yn 1623. Dringwyd y mynydd am y tro cyntaf yn 1962, gan dîm o ddringwyr oedd yn cynnwys Heinrich Harrer.
Mae'n un o'r Saith Copa, sef copaon uchaf pob cyfandir. Ystyrir ef yn un o'r anoddaf yn dechnegol o'r saith copa i'w ddringo.