Prifysgol Brookes Rhydychen
Arwyddair | Excellence in diversity |
---|---|
Math | prifysgol gyhoeddus, sefydliad addysg uwch, cyhoeddwr mynediad agored, sefydliad addysgol, prifysgol |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Headington |
Sir | Rhydychen, Swydd Rydychen |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.7543°N 1.2227°W |
Cod post | OX3 0BP |
Prifysgol Brookes Rhydychen | |
---|---|
Oxford Brookes University | |
Logo Prifysgol Brookes Rhydychen | |
Arwyddair | "Excellence in diversity" |
Arwyddair yn Gymraeg | "Rhagoriaeth mewn amrywiaeth" |
Sefydlwyd | 1992, o Polytechnic Rhydychen (1970), ond yn wreiddiol o Ysgol Gelf Rhydychen (1865) |
Math | Cyhoeddus |
Canghellor | Shami Chakrabarti |
Is-ganghellor | Athro Janet Beer |
Myfyrwyr | 19,070[1] |
Israddedigion | 13,645 |
Ôlraddedigion | 5,120[1] |
Myfyrwyr eraill | 300 FE[1] |
Lleoliad | Rhydychen, Lloegr |
Tadogaethau | Universities UK Association of MBAs |
Gwefan | http://www.brookes.ac.uk/ |
Prifysgol fodern yn Rhydychen ydy Prifysgol Brookes Rhydychen (Saesneg: Oxford Brookes University), enwyd ar ôl pennaeth cyntaf y brifysgol, John Brookes. Ni ddylid drysu rhwng y brifysgol hon a Prifysgol Rhydychen. Coleg polytechnig oedd Brookes Rhydychen, cyn iddi dderbyn statws prifysgol.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae gwreiddiau Brookes Rhydychen yn mynd yn ôl i 1865, pan adnabuwyd hi fel Ysgol Gelf Rhydychen, lleolwyd mewn un ystafell ar lawr gwaelod y Taylor Institution, St. Giles. Ym 1870 cyfunwyd hi gyda'r Ysgol Wyddoniaeth. Ym 1871 gorfodwyd i'r ysgol, oedd newydd ei chyfuno, wasgu i mewn i islawr y Taylor Institution, er mwyn gwneud lle i Ysgol Gelf Ruskin. Crëwyd Labordy Cemeg newydd yn yr Ysgol Wesleyan ym 1888. Ym 1891, caiff ei gymryd drosodd o dan weinyddiaeth Pwyllgor Cyfarwyddyd Technegol Cyngor y Dref, a'i ailenwi yn Ysgol Dechnegol Dinas Rhydychen (Oxford City Technical School), a gwnaethpwyd cynlluniau i'w ail-leoli i gyn-adeiladau'r Blue Coat School for Boys, St. Ebbes, lle symudont ym 1894. Ond erbyn 1899, roedd yr ysgol wedi tyfu'n gyflym a datganwyd fod yn safle'n anaddas gan yr Adran dros Gwyddoniaeth a Chelf. Gwaharddwyd ymestyn y safle, ond bu i'r ysgol aros yno am 50 mlynedd wedi hyn.[2]
Ym 1934 cyfunwyd Ysgol Gelf Ruskin a'r Ysgol Dechnegol, ac apwyntiwyd John Henry Brookes, Is-bennaeth yr Ysgol Dechnegol yn Bennaeth cyntaf ar y sefydliad newydd. Ailenwyd yn Goleg Technoleg Rhydychen (Oxford College of Technology) ym 1956, a sefydlwyd y neuadd breswyl gyntaf ym 1960 ac ail-leolwyd y coleg i Headington ym 1963. Ym 1970, daeth yn Polytechnig Rhydychen (Oxford Polytechnic), ac ym 1992, yn dilyn cyflawniad deddf Addysg Uwch a Phellach, ailenwyd yn Brifysgol Brookes Rhydychen.[2][3]
Ym mis Hydref 2003, daeth prifysgol Brookes yn brifysgol cyntaf y byd i ennill statws Masnach Deg.[4] Yn 2007, daeth Brookes yn bumed yn nhabl cynghrair amgylcheddol newydd prifysgolion, a derbyniodd raddfa dosbarth cyntaf am ei nodweddion amgylcheddol.[5]
Er nad yw'n ran o Brifysgol Rhydychen, mae ymysg yr wyth sefydliad allanol sydd gyda'r hawl iw aelodau ymuno gyda Undeb Rhydychen.[6]
Brookes Rhydychen yw'r wythfed cyflogwr o ran maint yn Swydd Rydychen, gan gyflenwi 2,500 o swyddi ar draws y brifysgol.[7]
Ysgolion
[golygu | golygu cod]Mae wyth ysgol ym Mhrifysgol Brookes Rhydychen:[8]
- Ysgol Celf a Dyniaethau
- Ysgol yr Amgylchedd Adeiledig
- Ysgol Fusnes
- Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Ysgol Gwyddorau Bywyd
- Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol a'r Gyfraith
- Ysgol Technoleg
- Athrofa Addysg Westminster
Astudiaethau arbenigol
[golygu | golygu cod]Gwobrwywyd y Ganolfan ar gyfer Datblygiad ac Ymarfer Argyfwng (The Centre for Development and Emergency Practice, CENDEP), yn Ysgol yr Amgylchedd Adeiledig, Wobr Pen-blwydd y Frenhines yn 2001.[9] Mae eu rhaglen adnabyddadwy ymysg ymarferwyr dyngarol. Mae'r CENDEP yn darparu gosodiad academaidd ar gyfer astudiaeth dinasoedd, dyngarwch a ffoaduriaid. Y gantores a'r actifydd Annie Lennox yw noddwr y Cwrs Meistr mewn Ymarferion Dyngarol a Datblygiad ers 2005.[10]
Yn 2007, gwobrwywyd y Meistr Gwyddorau mewn Cadwraeth Primatiaid gyda Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am gyfraniad amlwg tîm y rhaglen a'r Adran Anthropoleg a Daearyddiaeth.[9]
Mae'r Ysgol Dechnoleg yn adnabyddus yn y maes technoleg a pheirianneg chwaraeon modur. Mae noddwyr pencampwr Formula One y byd, Fernando Alonso, yn darparu ysgoloriaethau i fyfyrwyr astudio gradd meistr mewn peirianneg chwaraeon modur yn y brifysgol.[11]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Table 0a - All students by institution, mode of study, level of study, gender and domicile 2006/07" (Microsoft Excel spreadsheet). Higher Education Statistics Agency. Cyrchwyd 2008-04-12.
- ↑ 2.0 2.1 Timeline. Prifysgol Brookes Rhydychen.
- ↑ Nick Pandya (27 Ebrill 2002). Oxford Brookes University School of Business. The Guardian.
- ↑ Fairtrade policy. Prifysgol Brookes Rhydychen.
- ↑ People & Planet Green League. People & Planet (2007).
- ↑ The Rules, Standing Orders, and Special Schedules of the Oxford Union Society. Oxford Union Society.
- ↑ Current Job vacancies. Prifysgol Brookes Rhydychen.
- ↑ Oxford Brookes Academic Schools. Prifysgol Brookes Rhydychen.
- ↑ 9.0 9.1 MSc in Primate Conservation awarded prestigious Queen’s Anniversary Award. Prifysgol Brookes Rhydychen.
- ↑ Annie Lennox programme patron. Prifysgol Brookes Rhydychen.
- ↑ Cajastur unveils 'Fernando Alonso scholarship'. F1 Technical (27 Chwefror 2007).