Prif Swyddog Meddygol Cymru
Gwedd
Swyddog llywodraethol yw Prif Swyddog Meddygol Cymru (Saesneg: Chief Medical Officer for Wales), sy'n rhoi arweiniad a chyngor proffesiynol annibynnol i Brif Weinidog a Llywodraeth Cymru ac i swyddogion Cynulliad Cenedlaethol Cymru am faterion iechyd a gofal iechyd yng Nghymru. Y Prif Swyddog Meddygol cyfredol yw'r Dr Tony Jewell, a ddechreuodd yn y swydd yn Ebrill 2006.
Prif Swyddogion Meddygol Cymru
[golygu | golygu cod]- Gweler hefyd: GIG Cymru
Crewyd y swydd i wasanaethu Cymru ym 1969, cyn hynny roedd Prif Swyddog Meddygol dros Gymru a Lloegr.[1]
- Dr Richard Bevan 1969–1977
- Athro Gareth Crompton 1978–1989
- Bonesig Deirdre Hine 1990–1997
- Dr Ruth Hall 1997–2006
- Dr Tony Jewell 18 Ebrill 2006–
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Michael D Warren. A Chronology of State Medicine, Public Health, Welfare and Related Services in Britain 1066-1999. Royal College of Physicians of England. Adalwyd ar 28 Hydref 2007.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Llywodraeth Cymru – Prif Swyddog Meddygol Cymru Archifwyd 2010-12-15 yn y Peiriant Wayback