Portmeirion
Portmeirion yn Rhagfyr 2022 | |
Math | pentref |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Penrhyndeudraeth |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.9131°N 4.0992°W |
Cod OS | SH588370 |
Cod post | LL48 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Sefydlwydwyd gan | Clough Williams-Ellis |
Manylion | |
Pentref ac atyniad twristiaid yng Ngwynedd, Cymru, yw Portmeirion ( ynganiad ). Lleolir ym Meirionnydd, a roes iddo'i enw, ynghyd â'r rhagddodiad "Port" i gyfleu naws Port arall, sef Portofino yn Yr Eidal. Saif ar benrhyn Aber Iâ ar lannau Afon Dwyryd, ger Bae Tremadog. Mae'r fynedfa iddo hanner ffordd rhwng Penrhyndeudraeth a Phorthmadog, ar yr A487.
Roedd y pentref yn arbrawf ac yn ymgais i greu datblygu cynaladwy sy'n gydnaws a'i amgylchfyd o ran tirwedd a diwylliant. Mae yna dai a siopau, bwytai a gwestai yn y pentref, rai ohonyn nhw'n adeiladau gwreiddiol ac eraill wedi eu cynllunio gan y pensaer a'r cadwriaethwr Syr Clough Williams-Ellis a'i codi ganddo. Prynodd Williams-Ellis y safle ym 1925 a'i agor fel gwesty dros y Pasg 1926. Ei fwriad oedd dangos ei bod yn bosibl datblygu lle hardd heb ei ddinistrio, ac y gellid, o arddel disgyblaeth lem, ychwanegu at yr harddwch naturiol. Ar dir y gwesty gellir ymweld ag adfeilion Castell Deudraeth, a godwyd gan feibion Cynan ab Owain Gwynedd tua chanol y 12g.
Hanes
[golygu | golygu cod]Rhwng 1926 a 1939 codwyd tua hanner y pentref gan gynnwys addasu'r Gwesty, codi bythynnod Neifion ac Angel, y twr clychau, ty'r llywodraeth, dolffin, y drindod, y siantri, llety'r foneddiges, llety'r prior, neuadd y dref, y twr gwylio—ac yna daeth seibiant tan 1954 oherwydd y rhyfel, deddfau cyfyngu ar adeiladu a'r tân yn ei garterf Plas Brondanw yn 1951. Wedi trwsio'i dy, aeth ati o 1954 i 1973 i orffen ei waith gydag adeiladau megis y gatws, colofnres bryse 1957, y gromen 1960, ty pont, ty clogwyn, uncorn, twr telfford, y bwâu, y sgwâr canol. Ym 1966 dewiswyd y lle fel cefndir i'r gyfres The Prisoner gyda Patrick McGoohan a ddaeth yn glasur cwlt teledu'r 1960au. Mae'r pentref tua 6 milltir o Blas Brondanw, tŷ'r teulu ers pum can mlynedd. Mae pentref Portmeirion ar agor i ymwelwyr dydd a phreswylwyr nos bob dydd o'r flwyddyn. Perchennog y pentref a hefyd stad Brondanw, eiddo Williams-Ellis yng Nghwm Croesor, sy'n cynnwys Plas Brondanw, yw'r Elusen y Second Portmeirion Foundation neu Ail Ymddiriedolaeth Portmeirion yn unol a dymuniad y sylfaenydd.
Cyn iddo godi Portmeirion, roedd Williams-Ellis yn chwilio am leoliad addas i bentref ei freuddwydion am flynyddoedd, yn bennaf ar ynysoedd ym mhob cwr o Gymru, ond o'r diwedd penderfynodd brynu a datblygu gorynys Aber Iâ. Roedd e'n credu nad oedd yr enw Aber Iâ yn ddigon "Cymraeg" ac felly newidiodd yr enw i Bortmeirion.
Adeiladwyd y pentref lliwgar ar lethr creigiog ar lan yr afon ac mae'r Campanile, Tŵr y Cloch, sydd ar gopa'r bryn yn ganolbwynt iddo. Y Plasdy sydd yn cael ei ddefnyddio fel gwesty heddiw yw'r unig tŷ gwreiddiol. Ymhlith y tai sydd yn dod o ardaloedd eraill mae tý'r arlunydd Augustus John. Mae'r Neuadd Hercules yn dod o Sir y Fflint a'r Pantheon o Sir Gâr—ond nid yn unig tai cyfan wedi eu symud sy' yn y pentref, ond hefyd colofnau o Fryste a Hooton Hall yn Sir Gâr. Ac er bod y pentref yn ymdebygu i bentref Eidalaidd mae Bwda yno hefyd.
Mae'r pentref yn enwog am fod yn lleoliad y gyfres teledu The Prisoner ac mae e'n safle twristiaid gydag oddeutu 250,000 o ymwelwyr yn dod pob blwyddyn. Ymhlith ei ymwelwyr enwog mae Noël Coward, Gregory Peck, Ingrid Bergman a Paul McCartney. Ym 1956 ymwelodd y pensaer Frank Lloyd Wright â'r pentref ac roedd e'n falch iawn o'r amgylchedd a'r adeiladau hardd.
-
Y Plaza
-
Pont yn y gerddi
-
Portmeirion o ochr arall i'r aber
-
Y fynedfa i bentref Portmeirion
-
Creigiau a thraeth, Portmeirion
-
Y Plaza
-
Drama yn y pentref
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolen allanol
[golygu | golygu cod]Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw · Y Bala · Bethesda · Blaenau Ffestiniog · Caernarfon · Cricieth · Dolgellau · Harlech · Nefyn · Penrhyndeudraeth · Porthmadog · Pwllheli · Tywyn
Pentrefi
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Aber-erch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Beddgelert · Bethania · Bethel · Betws Garmon · Boduan · Y Bont-ddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Portmeirion · Prenteg · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-ddu · Rhyduchaf · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Tal-y-sarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tre-garth · Tremadog · Tudweiliog · Waunfawr