Polynomial cwadratig
Mewn algebra, polynomial cwadratig, ffwythiant cwadratig neu polynomial gradd-2 yw ffwythiant polynomial mewn un (neu fwy nag un) newidyn, lle mae'r term gradd-uchaf yn radd dau. Er enghraifft, mae'r ffwythiant polynomial yn y tri newidyn x, y, a z yn cynnwys termau anghynhwysol (exclusive) x2, y2, z2, xy, xz, yz, x, y, z, a chysonyn:
gydag o leiaf un cyfernod a, b, c, d, e, neu f sy'n dermau gradd-2, heb fod yn sero.
Mae gan y ffwythiant cwadratig un-newidyn (univariate) y ffurf ganlynol:[1]
yn yr un-newidyn x. Parabola yw graff y ffwythiant cwadratig un-newidyn, gyda'i echelin cymesuredd yn baralel (neu'n 'gyfochrog') i echelin-y (gweler uchod).
Os yw'r ffwythiant cwadratig yn cael ei osod yn hafal i sero, yna gelwir y canlyniad yn 'hafaliad cwadratig'.
Mae gan y deunewidyn (yn nhermau'r newidynnau x a y y ffurf
gydag o leiaf un a, b, c sydd heb fod yn hafal i sero. Byddai hafaliad sy'n gosod y ffwythiant yma'n hafal i sero yn rhoi trychiad conig, cylch neu fath arall o elíps, parabola neu hyperbola.
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Daw'r ansoddair 'cwadratig' o'r gair Lladin quadrātum ("sgwâr"). 'Poly' yw 'llawer'.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Quadratic Equation -- from Wolfram MathWorld". Cyrchwyd 6 Ionawr 2013.