Plaid y Ffiniaid
Enghraifft o'r canlynol | plaid wleidyddol |
---|---|
Idioleg | right-wing populism, social conservatism, Euroscepticism, Finnish nationalism, national conservatism, economic nationalism |
Label brodorol | Perussuomalaiset |
Rhan o | European Conservatives and Reformists Group |
Dechrau/Sefydlu | 11 Mai 1995 |
Rhagflaenwyd gan | Finnish Rural Party |
Yn cynnwys | Perussuomalainen, Q11887584, Finns Party Youth, Perusäijät |
Sylfaenydd | Timo Soini |
Aelod o'r canlynol | Movement for a Europe of Liberties and Democracy, Patriots.eu |
Ffurf gyfreithiol | registered party |
Pencadlys | Helsinki |
Enw brodorol | Perussuomalaiset |
Gwefan | https://perussuomalaiset.fi |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Plaid wleidyddol adain-dde boblyddol yn y Ffindir yw Plaid y Ffiniaid (Ffinneg: Perussuomalaiset, Swedeg: Sannfinländarna; yn llythrennol "Ffiniaid Cyffredin" neu "Wir Ffiniaid").
Mae'r blaid yn arddel cenedlaetholdeb Ffinnaidd, ceidwadaeth gymdeithasol, ac ewrosgeptigiaeth, yn dymuno cyfyngu ar fewnfudo, ac yn cynnig cyfuniad o bolisïau economaidd yr adain dde a'r adain chwith, gyda phwyslais ar genedlaetholdeb economaidd a'r wladwriaeth les. O ran polisi iaith, mae nifer o aelodau seneddol y blaid yn rhan o fudiad i droi'r Ffindir yn wlad unieithog, gan ddyrchafu'r Ffinneg yn unig iaith swyddogol y wlad. Er enghraifft, mae nifer ohonynt yn galw am atal addysg Swedeg orfodol mewn ysgolion.[1]
Sefydlwyd y Gwir Ffiniaid ym 1995 yn sgil diddymu'r Blaid Wledig Ffinnaidd, plaid amaethol boblyddol.
Hanes
[golygu | golygu cod]Gellir olrhain gwreiddiau'r blaid yn ôl i benderfyniad Veikko Vennamo, aelod o'r Gynghrair Amaethol (bellach Plaid y Canol), ym 1959 i ymddiswyddo o'r llywodraeth a gadael ei blaid i wrthdystio cysylltiadau'r Arlywydd Urho Kekkonen gyda'r Undeb Sofietaidd (Athrawiaeth Paasikivi–Kekkonen). Sefydlodd Vennamo y Blaid Wledig Ffinnaidd ym 1966, ar sylfaen cefnogaeth y tyddynwyr a gwrth-gomiwnyddiaeth.
Chwalodd y Blaid Wledig ym 1995, a sefydlwyd Plaid y Ffiniaid i'w holynu. Daeth Timo Soini yn arweinydd y blaid ym 1997. Ni châi'r blaid fawr o lwyddiant nes adladd yr argyfwng ariannol yn 2007–08 a chychwyn yr argyfwng dyled sofran yn ardal yr ewro yn 2009–10. Dadleuodd Soini bod llywodraeth y Ffindir yn twyllo'r bobl trwy wario arian i achub economïau gwledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn 2011, enillodd y blaid 39 o'r 200 o seddau yn y senedd.
Yn 2015, enillodd 38 o seddau, ac ymunodd â llywodraeth glymblaid gyda Phlaid y Canol. Gwasanaethodd Soini yn ddirprwy brif weinidog y Ffindir o Fai 2015 i Fehefin 2017, ac yn weinidog tramor o Fai 2015 i Fehefin 2019. Wedi i Jussi Halla-aho olynu Soini yn arweinydd ym Mehefin 2017, holltodd y blaid. Parhaodd yr encilwyr yn rhan o'r llywodraeth, dan yr enw "Diwygiad Glas", ac aeth trwch y blaid yn wrthblaid gyda 17 o seddau. Cynyddodd y nifer o seddau i 39 yn sgil etholiad seneddol 2019.
Etholwyd Riikka Purra yn arweinydd y blaid yn Awst 2021.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) "Who are the nationalist Finns Party?", BBC (11 Mai 2015). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ebrill 2023.