Neidio i'r cynnwys

Piraeus

Oddi ar Wicipedia
Piraeus
Mathdinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth168,151 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethYannis Moralis Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
NawddsantSaint Spyridon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBwrdeistref Piraeus Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Groeg Gwlad Groeg
Arwynebedd10.865 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr2 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaNikaia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.943°N 23.64694°E Edit this on Wikidata
Cod post185 00–185 99 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethYannis Moralis Edit this on Wikidata
Map
Porthladd Piraeus gyda'r nos

Piraeus (Groeg: Πειραιάς Pireás) yw porthladd Athen yng Ngwlad Groeg a'r porthladd pwysicaf yn y wlad honno. Mae'n gorwedd ar lan Gwlff Saronica i'r de-orllewin o ganol Athen.

Sefydlwyd Piraeus yn y bumfed ganrif CC fel porthladd i Athen. Chwareuodd ran bwysig yn y rhyfeloedd rhwng Athen a'r Ymerodraeth Bersiaidd (gweler Rhyfeloedd Athen a Phersia). Ar ôl y rhyfeloedd hynny codwyd Muriau Hir Athen i gysylltu'r ddinas a Piraeus ac amddiffyn y tir rhyngddyn nhw.

Dioddefodd Piraeus ddifrod sylweddol yn yr Ail Ryfel Byd mewn canlyniad i fomio o'r awyr. Ers hynny mae hi wedi ei adeiladu ar raddfa eang a thyfu'n ganolfan diwydiant pwysig gyda iardau adeiladu llongau, gweithfeydd puro olew a gweithfeydd cemegol.