Petula Clark
Petula Clark | |
---|---|
Ffugenw | Petula Clark |
Ganwyd | Sally Clark 15 Tachwedd 1932 Ewell |
Label recordio | Warner Bros. Records, Columbia Records, Decca Records, EMI, Polygon |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | actor plentyn, canwr, cyfansoddwr, actor llwyfan, actor ffilm, artist recordio |
Adnabyddus am | Downtown |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd |
Tad | Leslie Clark |
Gwobr/au | CBE, Commandeur des Arts et des Lettres |
Gwefan | http://www.petulaclark.net/ |
Chwaraeon |
Cantores, actores a chyfansoddwraig o Saesnes yw Petula Clark CBE (ganed Sally Olwen Clark, 15 Tachwedd 1932), sydd wedi bod yn perfformio ers y 1940au.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Clark i Doris (née Phillips) a Leslie Noah Clark yn Ewell, Surrey. Roedd ei rhieni yn nyrsys yn Ysbyty Long Grove. Roedd mam Clark o dras Gymreig a'i thad yn Sais. Dyfeisiwyd yr enw llwyfan "Petula" gan ei thad, gan jocio ei fod yn gyfuniad o ddau cyn gariad iddo, Pet ac Ulla.[1]
Yn ystod yr Ail Rhyfel Byd symudodd Clark i fyw gyda'i chwaer yn nhŷ eu mamgu a dadcu yn Abercannaid, ger Merthyr Tydfil,[angen ffynhonnell], tŷ bychan o gerrig heb drydan na cyflenwad dŵr, gyda tŷ bach ar waelod yr ardd. Roedd ei thadcu yn löwr.[2] Ei perfformiad cyntaf o flaen cynulleidfa fyw oedd yn y Colliers Arms yn Abercannaid.[3] Roedd hefyd yn cofio byw tu allan i Lundain yn ystod y Blitz gan wylio yr ysgarmes awyr a rhedeg i loches rhag bomio, gyda'i chwaer.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn ddiweddarach, pan yn 8 mlwydd oed, ymunodd a phlant eraill i recordio negeseuon i'r BBC ei ddarlledu i aelodau o'r teulu yn y lluoedd argfog. Recordiwyd y digwyddiad yn Theatr y Criterion, theatr tanddaearol oedd yn ddiogel. Pan ganodd seiren cyrch awyr, roedd rhai o'r plant wedi ofni a daeth galwad am rywun i ddod ymlaen i ganu iddynt i'w tawelu. Gwirfoddolodd Petula, a roedd y bobl yn yr stafell rheoli yn hoffi ei llais cymaint, fe'i recordiwyd hi yn canu. Ei chan oedd "Mighty Rose".[4]
Yn ystod y 1960au, daeth yn adnabyddus am ei chaneuon bywiog gan gynnwys "Downtown," "I Know a Place," "My Love," "Colour My World," "A Sign of the Times," a "Don't Sleep in the Subway". Gwerthodd dros 70 miliwn o recordiau'n fyd-eang, gan ei gwneud y gantores Brydeinig unigol mwyaf llwyddiannus erioed a chyfeirir ati yn y "Guinness Book of World Records".
Mae gan Clark y statws hefyd o'r gyrfa bop rhyngwladol mwyaf hirhoedlog allan o bob cantores benywaidd o Brydain - 55 mlynedd, o 1954 pan aeth "The Little Shoemaker" i 20 Uchaf y DU, i 2009 pan aeth ei CD "Les Indispensables" i 10 Uchaf y siart yng Ngwlad Belg.
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Medal for the General (1944)
- Strawberry Roan (1945)
- Murder in Reverse (1945)
- I Know Where I'm Going! (1945)
- Trouble at Townsend (1946)
- London Town (1946)
- Vice Versa (1948)
- Easy Money (1948)
- Here Come the Huggetts (1948)
- Vote for Huggett (1949)
- The Huggetts Abroad (1949)
- Don't Ever Leave Me (1949)
- The Romantic Age (1949)
- Dance Hall (1950)
- White Corridors (1951)
- Madame Louise (1951)
- The Card (1952)
- Made in Heaven (1952)
- The Runaway Bus (1954)
- The Gay Dog (1954)
- The Happiness of Three Women (1954)
- Track the Man Down (1955)
- That Woman Opposite (1957)
- 6.5 Special (1958)
- À Couteaux Tirés (1964) (cyfansoddodd y sgôr hefyd) (aka "Daggers Drawn" yn yr Unol Daleithiau)
- Finian's Rainbow (1968)
- Goodbye, Mr. Chips (1969)
- Drôles de Zèbres (1977)
- Never, Never Land (1980)
- Sans Famille (teledu Ffrengig 1981)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Petula facts". walesonline. 25 January 2007. Cyrchwyd 8 May 2020. Unknown parameter
|lng=
ignored (help) - ↑ Evans, Busola (2013-09-06). "Petula Clark: My family values | Life and style". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Mehefin 2017.
- ↑ "Petula Clark goes downtown" (yn Saesneg). Wales Online. February 2007. Cyrchwyd 24 Mehefin 2017.
- ↑ BBC documentary Dancing through the Blitz, 2015
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol
- Gwefan y DU
- Cyfweliad gyda'r BBC
- Cyfweliad Jac yt Undeb Archifwyd 2006-11-26 yn y Peiriant Wayback
- Cyfweliad BBC Radio Wales, Ionawr 2007 Archifwyd 2007-09-05 yn y Peiriant Wayback
- Cyfweliad Las Vegas Sun, Chwefror 2007 Archifwyd 2007-09-30 yn y Peiriant Wayback
- Cyfweliad BBC Radio Wales, Awst 2008
- Cloriau disgograffiaeth Archifwyd 2009-10-27 yn y Peiriant Wayback