Neidio i'r cynnwys

Pervez Musharraf

Oddi ar Wicipedia
Pervez Musharraf
Ganwyd11 Awst 1943 Edit this on Wikidata
Delhi Edit this on Wikidata
Bu farw5 Chwefror 2023 Edit this on Wikidata
o amyloidosis Edit this on Wikidata
American Hospital Dubai Edit this on Wikidata
Man preswylDelhi, Karachi, Ankara Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Raj Prydeinig, Pacistan Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Forman Christian College
  • Pakistan Military Academy
  • National Defence University
  • Royal College of Defence Studies
  • St Patrick's High School, Karachi Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, ariannwr, person milwrol Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Pacistan, Prif Weinidog Pacistan, Federal Minister for Defence (Pakistan), Chief of Army Staff, Chairman Joint Chiefs of Staff Committee Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Command and Staff College
  • National Defence University
  • Pakistan Army Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPakistan Muslim League, All-Pakistan Muslim League Edit this on Wikidata
PriodSehba Musharraf Edit this on Wikidata
Gwobr/auSitara-i-Imtiaz, Order of Zayed, Grand Cross of the Order of Excellence, Tamgha-i-Basalat, Imtiazi Sanad, Urdd Abdulaziz al Saud, Nishan-e-Pakistan Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.generalpervezmusharraf.com Edit this on Wikidata

Gwleidydd a chadfridog Pacistanaidd oedd Pervez Musharraf (Urdu: پرويز مشرف) (11 Awst 19435 Chwefror 2023)[1] a wasanaethodd yn Arlywydd Pacistan o 2001 i 2008, a Phennaeth Staff Byddin Pacistan o 1998 i 2007. Daeth i rym yn 1999 trwy drefnu a gweithredu coup d'état milwrol ac mae wedi rhoi heibio cyfansoddiad Pacistan ddwywaith; ers hynny, mae wedi cael ei gefnogi'n ymarferol (trwy gymorth milwrol ac ariannol) gan wledydd y Gorllewin gan gynnwys yr Unol Daleithiau. Cipiodd Musharraf rym ar 12 Hydref, 1999, gan droi allan Nawaz Sharif, Prif Weinidog etholedig y wlad, cafodd wared ar y cyrff deddfwriaethol cenedlaethol a thaleithiol, cymerodd iddo'i hun y teitl o Brif Weithredwr a daeth felly'n arweinydd de facto llywodraeth Pacistan, y pedwerydd pennaeth milwrol yn hanes y wlad i wneud hynny. Yn ddiweddarach, yn 2001, apwyntiodd Musharraf ei hun i swydd Arlywydd Pacistan.

Ar 3 Tachwedd, 2007, ddyddiau yn unig cyn i Brif Lys Pacistan benderfynu ei barn ar ddeiseb a heriodd ddilysrwydd cyfansoddiadol ei ail-ethol yn arlywydd yn etholaethau dadleuol Hydref 2007, rhoddodd Musharraf heibio'r cyfansoddiad eto, arestiodd sawl barnwr a chyfreithiwr o'r Prif Lys, yn cynnwys y Prif Farnwr Iftikhar Muhammad Chaudhry, gorchmynodd arestio gwrthwynebwyr gwleidyddol ac ymgyrchwyr dros hawliau dynol, a chaeodd bob sianel teledu preifat. Cyhoeddodd stâd o argyfwng yn y wlad. Ymddiswyddodd Musharraf fel arlywydd ar 18 Awst 2008.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Pervez Musharraf, former Pakistani president and army general, dies at 79". Hindustan Times (yn Saesneg). 5 Chwefror 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Chwefror 2023. Cyrchwyd 5 Chwefror 2023.