Pencampwriaethau Seiclo'r Byd, UCI
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad sy'n ailadrodd |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r Union Cycliste Internationale (UCI) yn trefnu Pencampwriaethau'r Byd i benderfynu Pencampwyr Seiclo'r Byd. Mae rhain yn gystadlaethau blynyddol, a chystadlir hwy gan dimau Cenedlaethol yn hytrach na thimau masnach.
Yn ogystal â derbyn medal aur, mae enillwyr y rasys rhain yn meddu'r hawl i wisgo crys enfys y flwyddyn canlynol, a'r hawl i wisgo stribedi'r enfys ar coleri a chyffion eu crysau am gweddill eu gyrfa. Trefnir pencampwriaethau ar gyfer merched a rhai mewn categori Iau (16-18 oed) a chategori Ieuenctid (Dan 16).
Trefnir y cystadlaethau yn y dosbarthiadau isod:
- Pencampwriaethau Rasio Ffordd y Byd, UCI
- Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- Pencampwriaethau Beicio Mynydd & Threialon y Byd, UCI
- Pencampwriaethau Beicio Mynydd Marathon y Byd, UCI
- Pencampwriaethau Seiclo Traws Gwlad y Byd, UCI
- Pencampwriaethau BMX y Byd, UCI
- Pencampwriaethau Seiclo Tu Mewn y Byd, UCI