Pau
Math | cymuned, dinas, anheddiad dynol |
---|---|
Poblogaeth | 77,066 |
Pennaeth llywodraeth | François Bayrou |
Cylchfa amser | UTC 01:00, UTC 2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Pyrénées-Atlantiques, Canton Juranson, canton Pau-Centre, canton Pau-Est, canton Pau-Nord, canton Pau-Ouest, canton Pau-Sud, arrondissement Pau |
Gwlad | Ocsitania , Ffrainc |
Arwynebedd | 31.51 km² |
Uwch y môr | 215 metr, 165 metr, 245 metr |
Gerllaw | Gave de Pau |
Yn ffinio gyda | Buros, Billère, Bizanos, Gelos, Idron, Jurançon, Lons, Montardon, Morlaàs |
Cyfesurynnau | 43.3008°N 0.37°W |
Cod post | 64000 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Pau |
Pennaeth y Llywodraeth | François Bayrou |
Tref a chymuned yn département Pyrénées-Atlantiques, rhanbarth Aquitaine, yn ne-orllewin Ffrainc ger y Pyreneau ydy Pau. Yr ynganiad Ocsitaneg ydy [ˈpaw] a'r ynganiad Ffrangeg ydy [ˈpo]. Mae ganddi boblogaeth o 78,732 (1999).
Arwyddair: "Urbis Palladium et Gentis".
Hanes
[golygu | golygu cod]Pau oedd prifddinas Béarn o 1464 ymlaen, ond cyn hynny roedd Morlans ac Ortès yn brifddinasoedd y frenhiniaeth, ac doedd dim rôl arbennig gan Pau cyn y 10fed ganrif. Is-iarllaeth oedd Béarn, dan arweiniad ieirll Foish (Foix yn Ffrangeg), a oedd yn annibynnol ar adeg pan oedd teyrnasoedd Ffrainc a Lloegr yn cystadlu dros ardal Aquitaine, gyda chlymbleidio yn newid yn aml. O'r 10fed tan y 12fed ganrif, pentref gyda chastell oedd Pau, math o gastell a gyfeiriwyd ato yn yr hen Ocsitaneg fel "castelnau" (sef castell newydd), "casteth nau" yn nhafodiaeth Gasconeg Ocsitaneg erbyn hyn. "Baile" oedd yn rheoli'r castell, wedi ei benodi gan Ieirll Béarn. Gaston Febus o deulu Foish-Bearn penderfynodd cryfhau yr amddiffynfeydd, ac a dewisodd Pau yn brifddinas wrth iddo ddod i fyw yn y Castell. Roedd y castell wedyn yn gartref i frenhinoedd Nafarroa hyd at yr uno gyda Theyrnas Ffrainc ym 1620.
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Nid yw tarddiad yr enw Pau yn eglur. Yn ôl un damcaniaeth, mae'r enw yn cyfeirio at y gweundir yr adeiladwyd Pau arni, ger afon y Gave, a gyfeirwyd ato yn Lladin fel palus, paludis (f) < palud < pau. Yn ôl damcaniaeth arall, daw'r enw o'r Ffrangeg 'palissade' gan gyfeirio at ffensys amddiffynnol.
Trafnidiaeth
[golygu | golygu cod]Mae gan Pau orsaf drenau, gyda gwasanaethau i Baiona a Hendaia, Toulouse, Dax, Bordeaux a Pharis. Ym 1928 agorwyd lein trwy'r Pyreneau i Canfranc yn Sbaen, ond caewyd rhan o'r lein yn dilyn tirlithriad yn 1970. Dim ond o Pau i Bedous mae'r trenau yn rhedeg ar hyn o bryd, ond mae bwriad ail-agor y lein gyfan.
Enw rhwydwaith bysys y dref yw Idelis , sy'n cael ei redeg gan la Société des transports de l'agglomération paloise, (STAP). Mae lein arbennig y Fébus a lansiwyd yn 2019 yn defnyddio bysiau tanwydd hydrogen.
Lleolir maes awyr Pau-Pyrénées, cod PUF, yn Uzein, 7 km o'r dref.
Mae traffordd yr A64, rhan o'r E80, yn cysylltu Pau gyda Toulouse yn y Dwyrain ac arfordir Gwlad y Basg yn y Gorllewin. Mae traffordd yr A65, rhan o'r E7, yn mynd o gyrion Pau i Langon ger Bordeaux.
Sefydliadau
[golygu | golygu cod]- Prifysgol Pau [1]
Sefydliadau sy'n hyrwyddo'r iaith Ocsitaneg:
- Institut Occitan [2]
- Calandretas [3] Archifwyd 2008-07-23 yn y Peiriant Wayback (coleg Ocsitaneg)
- Hestivoc [4]
- Carnaval Bearnes [5]