Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth
Dathliad Gŵyl Ddewi a thraddodiadau'r Cymry drwy dref Aberystwyth yw Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth a gynhaliwyd am y tro cyntaf ar y 1af o Fawrth 2013. Sefydlwyd y Parêd gan Siôn Jobbins gyda chefnogaeth mudiadau Cymraeg Aberystwyth a'r ardal gan gynnwys clybiau, sefydliadau cenedlaethol, ysgolion a busnesau. Mae'n derbyn arian drwy nawdd a grantiau. Tywysydd cyntaf y parêd oedd y cwpl priod Dr Meredydd Evans a Phyllis Kinney.[1] Ar ddiwedd yr orymdaith ceir seremoni lle ceir cyflwyniadau cerddorol a dawns fer, bendith ac araith fer gan y Tywysydd. Tyngir hefyd lw teyrngarwch gan y dorf.
Y Tywysydd
[golygu | golygu cod]Pob blwyddyn bydd Cyngor y Parêd yn cydnabod cyfraniad person neu bersonau arbennig i fywyd a diwylliant Cymraeg yr ardal, sef y 'Tywysydd'. Gwobrywir y person yma gyda sash arbennig a gynlluniwyd at y digwyddiad a phwythir enw'r derbynnydd arno. Caiff y sash hon ei gwisgo gan y deiliad yn yr orymdaith ond nid ei chadw. Ychwanegir enw'r Tywysydd newydd yn flynyddol. Caiff y Tywysydd ei gyflwyno â ffon gerdded unigryw yn rhodd fel cydnabyddiaeth o'i waith. Bydd y Tywysydd yn cadw'r ffôn. Yn ôl Siôn Jobbins, mabwysiadwyd yr arfer hon o ganlyniad i draddodiad yng Ngwlad y Basg o gyflwyno ffon gerdded y Makila fel arwydd o ddiolch a gwerthfawrogiad.
Trefn yr orymdaith
[golygu | golygu cod]Ceir trefn arbennig i'r Parêd gyda phibydd yn arwain dan ganu alawon Cymreig ar y bibgod. Ceri Rhys Matthews oedd y pibydd cyntaf i arwain yr orymdaith. Yn dilyn y pibydd daw'r Tywysydd a'r naill ochr iddo ond gam y tu ôl daw'r Osgordd. Cynhwysa'r Osgordd ddau berson, un yn cario baner Dewi Sant a'r llall y Ddraig Goch; yna cerdda aelodau'r cyhoedd a mudiadau lleol yn ogystal â pherfformwyr cerdd. Bydd yr orymdaith yn gorffen yn Llŷs-y-Brenin, safle hen Neuadd y Brenin ar gyfer Seremoni awyr agored y Parêd.
Crynodeb blynyddol
[golygu | golygu cod]Parêd 2013
[golygu | golygu cod]Yn rhan o'r orymdaith, gwelwyd Merched y Wawr, Twf, yr Urdd, y Mudiad Meithrin, UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth), UCAC, Ysgol Penweddig a Menter Iaith Ceredigion ac eraill. Cafwyd hefyd gôr meibion yn canu wrth gerdded ac yn ôl Jobbins, "Ysbrydolwyd ef gan arferiad Llynges Dramor Ffrainc o ganu wrth orymdeithio. Côr Meibion Aberystwyth oedd y cyntaf i wneud hyn gan ganu caneuon traddodiadol megis 'Gŵyr Harlech'." Ymhlith gosgordd y roedd: Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig Band Arian Aberystwyth, Band Gwerin ‘Radwm’, Aberteifi a Band Drwm Cambria, Yr Wyddgrug.[2][3]
Parêd 2014
[golygu | golygu cod]Y Pibydd oedd Gwilym Bowen Rhys, Bethel Caernarfon ar y pibau Cymreig a'r Tywyswyr oedd Gwilym a Megan Tudur, sylfaenwyr a pherchnogion Siop y Pethe oedd newydd ymddeol wedi bron 50 mlynedd o redeg y siop lyfrau bwysig yma yn y dref. Roedd y band Gwerin ‘Y Plebs’, Aberteifi yn rhan o'r orymdaith.
Parêd 2015
[golygu | golygu cod]Y pibydd oedd Geraint Roberts, Ystalyfera ar bibau'r 'gaita' Galiseg a'r Tywysydd oedd Gerald Morgan, awdur a phrifathro gyntaf Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig, Aberystwyth. Roedd band gwerin 'Clatshobant' o Aberteifi yn rhan o'r orymdaith a chwarae gig am ddim yn nhafarn y Llew Du ar Stryd y Bont wedi'r digwyddiad.
Parêd 2016
[golygu | golygu cod]Y Pibydd oedd Gwilym Bowen Rhys (o'r grwp Plu ac Y Bandana) arweiniodd y Parêd gyda'r Tywysydd oedd yr artist, Mary Lloyd Jones yn dilyn. Dilynwyd hwy gan Seindorf Aberystwyth ac yna aelodau o wahanol gorau Aberystwyth yn llafar ganu 'Sosban Fach' a 'Calon Lân'; Band Drwm Cambria oedd perfformwyr olaf yr orymdaith.
Y Seremoni - Cynhaliwyd yn Llys-y-Brenin. Arweiniwyd y Seremoni gan gyflwynydd radio, Geraint Lloyd. Traddodwyd y Fendith gan y Parch. Lyn Lewis Dafis, Penrhyn-coch. Cafwyd perfformiad 'bît-bocsio' gan Ed Holden (Mr Phormula). Bu hefyd yn cynnal sesiwn bît-bocsio i ddisgyblion Ysgol Penweddig y diwrnod blaenorol.
Yn perfformio ar Sgwâr Owain Glyndwr ar fore'r Parêd bu Radd Dam u'r telynor, Carwyn Tywyn (bu hefyd yn canu yng nghaffi MGs ar Stryd y Ffynnon Haearn). Cafwyd hefyd amrywiaeth o stondinau a digwyddiadau yn yr Hen Goleg fel rhan o'r digwyddiad.
Parêd 2017
[golygu | golygu cod]Y Pibyddon oedd Pibau Tawe wedi eu harwain gan Geraint Roberts arweiniodd y Parêd. Y Tywysydd oedd y digriwfwr a chefnogwr elusennau, Glan Davies yn dilyn. Dilynwyd hwy gan Seindorf Aberystwyth ac yna aelodau o wahanol gorau Aberystwyth yn llafar ganu 'Sosban Fach' a 'Calon Lân'; Band Samba Agogo oedd perfformwyr olaf yr orymdaith.
Y Seremoni - Cynhaliwyd yn Llys-y-Brenin. Arweiniwyd y Seremoni gan gyflwynydd radio, Geraint Lloyd. Traddodwyd y Fendith gan y Parch. Derrik Adams, Eglwys Efengylaidd Aberystwyth. Cyflwynwyd y Tywysydd gan Faer Cyngor Tref Aberystwyth, y Cyngh. Brendan Sommers ac yna cafwyd araith gan y Tywysydd, Glan Davies. Cafwyd perfformiad gan Bois y Fro ac yna Samba Agogo.
Yn perfformio ar Sgwâr Owain Glyndwr ar fore'r Parêd bu Mari Mathias, pedwarawd Bois y Fro a Chôr Meibion y Mynydd.
Am y tro cyntaf cafwyd digwyddiadau yn Bandstand newydd y dre wedi eu trefnu am ddim i blant a theuluoedd gan Fenter Iaith Cered.
Parêd 2018
[golygu | golygu cod]Oherwydd tywydd garw, bu'n rhaid cwtogi ar arlwy Parêd 2018. Serch hynny, bwriwyd ymlaen gyda'r digwyddiad er gwaethaf tywydd oer iawn. Y Tywysydd oedd Ned Thomas. Gwisogdd Ned Thomas ruban felen yn ei het fel arwydd o gefnogaeth i ymgyrch annibyniaeth Catalwnia ac o gefnogaeth i'r carcharorion gwleidyddol gan gynnwys yr Arlywydd Carles Puigdemont. Traddodwyd y fendith ar ran Eglwys Gatholig Aberystwyth gan David Greaney. Arweinwyd yr orymdaith gan Seindorf Arian Aberystwyth a pherfformiwyd dwy gân yn y seremoni ar Lys-y-brenin gan y Seindorf ac aelodau corau Aberystwyth.
Parêd 2019
[golygu | golygu cod]Tywysydd y Parêd oedd cyn-berchennog bwyty Gannets yn y dref, Dilys Mildon. Bu Dilys hefyd yn weithgar gyda Mudiad Meithrin tra'n byw yng Nghaerdydd cyn dychwelyd i'w hardal genedigol, Aberystwyth.
Parêd 2020
[golygu | golygu cod]Meirion Appleton, dyn busnes a person adnabyddus ym myd pêl-droed Aberystwyth a Chymru oedd y Tywysydd. Bu'n rheolwr ar Clwb Pêl-droed Aberystwyth a hefyd yn hybu a hyfforddi ym mhel-droed ieuenctid Ceredigion. Sefydlodd gwmni dillad chwaraeon, Ffigar (wedi ei enwi ar ôl ei blant, Ffion a Gari) yn yr 1990au. Yn y flwyddyn honno, newidiwyd llwybr y Parêd i un symlach a cliriach - lawr Stryd Fawr ac yna i'r chwith lawr Ffordd y Môr ac i orffen ar sgwâr Llys-y-Brenin.
Parêd 2021
[golygu | golygu cod]Ni gynhaliwyd gorymdaith oherwydd Covd-19 yng Nghymru. Cynhaliwyd Parêd rhithiol ar y we.
Parêd 2022
[golygu | golygu cod]Tywysydd y Parêd oedd Robat Gruffudd ac Enid Gruffudd, y gŵr a gwraid. Sefydlodd Robat gylchgrawn dychanol Lol gyda Penri Jones yn yr 1960au ac wedi hynny, sefydlodd Gwasg y Lolfa ym mhentref Tal-y-bont, Ceredigion. Bu'r ddau yn leisiau llafar dros yr iaith Gymraeg a bu iddynt cael eu cymryd i'r ddalfan yn Operation Tân yn 1980. Mae Robat wedi awdura sawl llyfr dros y degawdau.
Parêd 2023
[golygu | golygu cod]Tywydd y Parêd oedd yr artist a'r gŵr busnes, Wynne Melville Jones, a adweinir fel Wyn Mel. Roedd Wyn yn wreiddiol o Dregaron ac yn ystod ei gyfnod yn gweithio i Urdd Gobaith Cymru yn yr 1970 dyluniodd yr eicon Mistar Urdd. Aeth ymlaen wedyn i sefydlu cwmni cysylltiadau cyhoeddus Strata yn Aberystwyth. Wedi ymddeol aeth ati fel artist.
Parêd 2024
[golygu | golygu cod]Tywysydd y Parêd oedd David Greaney, gŵr a fagwyd yn Llanbadarn Fawr yn fab i Enid o'r pentref a thad, Donal, o Swydd Limerick. Wedi cyfnod yn gweithio yn Llundain dychwelodd i Aberystwyth i weithio yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd yn weithgar gyda phapur bro Aberystwyth a'r cylch, Yr Angor a gyda'r Gyngraidd Geltaidd, y Cylch Catholig a Chymdeithas Sant Vincent de Paul.[4] Yn arwain y Parêd oedd Bagad Sblot, sef, dau o aelodau ensemble gwerin Avanc, Sam Petersen a Rhodri Gibbon ar y Pibau Cymreig yn canu alawon gwerin, Hoffed ap Hywel, Y Crwtyn Llwyd, a Chalon Lân.[5][6] Cafwyd hefyd perfformiad dawns gan Dawnswyr Seithenyn, sef criw clocsio traddodiadol Cymreig yn Aberystwyth.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Cyngh. Wendy Twiddy Morris, Maer Aberystwyth yn annerch torf Parêd Gŵyl Dewi ar sgwâr Llys-y-Brenin, 2014
-
Pibyddion 'Bagad Tawe' yn arwain, a'r Tywysydd a swyddogion eraill yn arwain yr orymdaith; 2017
-
Parêd 2017
-
Parêd 2017
-
Parêd 2024 David Greaney a Gosgordd y Parêd, noder y ffon gerdded yn nhraddodiad Makila Basgeg
-
Parêd 2024 David Greaney a Siôn Jobbins yn y Llew Du wedi'r Orymdaith
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan y BBC; Teitl: Merêd yw tywysydd parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth; adalwyd 26 Chwefror 2013.
- ↑ Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth
- ↑ Gwefan Golwg360; cyhoeddwyd Chwefror 6, 2013 adalwyd 26 Chwefror 2014
- ↑ "David Greaney fydd Tywysydd Parêd Gŵyl Dewi Aber 2024". BroAber360. 2 Chwefror 2024.
- ↑ "Sgwrs gyda'r Tywysydd, David Greaney ac un o bois Bagad Sblot yn Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth". Twitter @GwylDewiAber. 2 Mawrth 2024.
- ↑ "Bagad Sblot (bois band Avanc) yn arwain Parêd Gŵyl Dewi #Aberystwyth heddiw gyda David Greaney, y Tywysydd. Gosgordd - Ruadhan a Luca o Ysgol Penglais a Lowri a Gwenllian. Ymateb hyfryd gan bobl Aberystwyth. #DyddGwylDewi". Twitter @GwylDewiAber. 2 Mawrth 2024.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]Gwefan Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth