Palas Dunfermline
Gwedd
Math | castell |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Abaty Dunfermline |
Lleoliad | Dunfermline |
Sir | Fife |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 56.0695°N 3.46461°W |
Rheolir gan | Historic Environment Scotland |
Perchnogaeth | Historic Environment Scotland |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Palas brenhinoedd yr Alban oedd Palas Dunfermline. Fe'i lleolid yn nhref Dunfermline, yn Fife, dwyrain yr Alban. Safai'r palas ger Abaty Dunfermline. Ganwyd tri o frenhinoedd yr Alban yma, David II, Iago I a Siarl I. Ailadeiladwyd gan y Brenin Iago IV ym 1500. Un o hoff breswyliau brenhinoedd a breninesau'r Alban oedd ef o hyn ymlaen. Treuliodd Iago IV, Iago V, Mari a Iago VI lawer o amser yno. Rhoddwyd y palas fel anrheg priodas i Anne o Ddenmarc ar ôl ei phriodas â Iago VI ym 1589. Ganwyd tri o'i phlant, Elizabeth, Robert a Siarl I yn y palas.
Arhosodd Siarl II yn y palas cyn Brwydr Pitreavie ym 1650, ond fe'i gadwyd yn wag yn fuan ar ôl hynny. Erbyn 1708 roedd y to wedi cwympo. Erbyn heddiw dim ond mur y de a'r gegin sydd ar ôl.