Pâl gwladychiad
Ardal yng ngorllewin Ymerodraeth Rwsia lle goddefid i Iddewon fyw yn barhaol oedd y Pâl gwladychiad (Rwsieg Черта оседлости / cherta osedlosti). Ystyr y gair pâl yw polyn, ac, oddiyno, llinell neu ffin. Y Pâl oedd y llinell oedd yn llunio ffin yr ardal honno.
Crewyd y Pâl gyntaf gan Catrin Fawr ym 1791 (mewn gweithrediad o 28 Rhagfyr 1791). Roedd yn cwmpasu tiriogaeth heddiw Gwlad Pwyl, Lithwania, de Latfia, Belarws, rhan fwyaf Wcrain, Moldofa, ynghyd â rhai ardaloedd sydd heddiw yng ngorllewin Rwsia. Roedd y Pâl gwreiddiol yn cynnwys y Caucasus a thalaith Astrakhan yn ne Rwsia, ond neilltuwyd y taleithiau hyn ohono ym 1825. Goddefwyd i Iddewon fyw yn Kurland (de Latfia, gan gynnwys Riga), ond gwaharddwyd Iddewon newydd rhag gwladychu yno. Er i Kiev orwedd y tu fewn i'r Pâl, gorfodwyd i Iddewon fyw mewn ardaloedd penodol yn y ddinas. Roedd yna dair dinas arall yn y Pâl (Nikolaev, Yalta a Sevastopol) lle nad oedd Iddewon i fyw o gwbl. Caniatawyd i Iddewon mewn rhai galwedigaethau (marsiandwyr, pobl â graddau uwch, meddygon, swyddogion llywodraethol, rhai crefftwyr) fyw y tu allan i'r Pâl. Bu'r cyfyngiadau a roddwyd ar Iddewon yn y Pâl yn y 19g yn sbarduno llawer ohonynt i allfudo i'r Unol Daleithiau neu i ymuno â mudiadau chwyldroadol.
Diddymwyd y Pâl gan y Llywodraeth Dros Dro ym 1917 ar ôl Chwyldro Chwefror.