Owen Edwards
Owen Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 26 Rhagfyr 1933 Aberystwyth |
Bu farw | 31 Awst 2010 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | rheolwr |
Cyflogwr | |
Tad | Ifan ab Owen Edwards |
Plant | Mari Emlyn |
- Am eraill o'r un enw, gweler Owen Edwards (gwahaniaethu)
Darlledwr o Gymro a Phrif Weithredwr cyntaf S4C oedd Owen Edwards (26 Rhagfyr 1933 – 31 Awst 2010).[1]
Ganed ef yn Aberystwyth, yn fab i Syr Ifan ab Owen Edwards ac Eirys Mary Lloyd Edwards (née Phillips). Roedd yn frawd i Prys Edwards. Bu'n cyflwyno'r rhaglen newyddion Heddiw o 1961 hyd 1966. Penodwyd ef yn Reolwr BBC Cymru yn 1974, a dechreuwyd Radio Cymru a Radio Wales yn ystod ei gyfnod fel rheolwr. Bu'n Brif Weithredwr S4C o 1981 hyd 1989.
Roedd yn gyflwynydd ar raglen deledu Gymraeg cynnar Dewch i Mewn yn ystod y 50au.[2] Roedd yn gyflwynydd y rhaglen newyddion Heddiw rhwng 1961 a 1966 a gohebodd am Drychineb Aberfan yn 1966. Fe'i benodwyd yn rheolwr BBC Cymru yn 1974 ac o dan ei arweiniad fe gafodd BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales eu lansio.[3]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Priododd Shân Emlyn (1936–1997) yn 1958 a chawsant ddwy ferch - Mari Emlyn ac Elin Edwards.[4] Ysgarodd y ddau yn ddiweddarach a priododd â Rosemary Allen yn 1994. Roedd wedi dioddef o Glefyd Parkinson ers mwy nag 20 mlynedd cyn ei farwolaeth.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Stephens, Meic. Owen Edwards: Pioneering television executive and architect of S4C , The Independent, 6 Medi 2010.
- ↑ https://www.independent.co.uk/news/obituaries/owen-edwards-pioneering-television-executive-and-architect-of-s4c-2072091.html
- ↑ Owen Edwards wedi marw , BBC Cymru, 31 Awst 2010. Cyrchwyd ar 18 Mehefin 2019.
- ↑ JONES, SHÂN EMLYN (1936 - 1997), cantores. Bywgraffiadur Cymru (20 Mai 2020). Adalwyd ar 14 Awst 2022.