Oswy
Gwedd
Oswy | |
---|---|
Ganwyd | 612 |
Bu farw | 15 Chwefror 670 |
Galwedigaeth | teyrn |
Swydd | brenin Northumbria, brenin Brynaich, brenin Deifr, brenin Deifr, brenin Deifr |
Tad | Æthelfrith o Northumbria |
Mam | Acha of Deira |
Priod | Eanflæd, Rhiainfellt |
Partner | Fín |
Plant | Aldfrith, Alhfrith of Deira, Ælfwine of Deira, Ecgfrith of Northumbria, Ælfflæd of Whitby, Osthryth, Alhflæd |
Llinach | Leodwaldings |
Brenin Bryneich oedd Oswy (c. 612 – 15 Chwefror 670) (neu Oswiu, Oswig). Lladdwyd ei dad Æthelfrith o Frynaich mewn brwydr yn erbyn Rædwald, Brenin Dwyrain Anglia ac Edwin of Deira ar lan 'afon Idle' yn 616. Bu'n alltud, gyda'i frodyr, nes y bu farw Edwin yn 633.
Yn dilyn marwolaeth ei frawd Oswallt, brenin Northumbria (a roddodd ei enw i Groesoswallt) a laddwyd gan Penda a gwyr Gwynedd ym Mrwydr Maes Cogwy (Saesneg: Battle of Maserfield), yn fwy na thebyg ar 5 Awst 641, fe goronwyd Oswy yn frenin Brynaich. Tawel oedd ei hanes am y ddegfawd nesaf hyd nes i'r Brenin Penda, yn 655, ymosod ar Frynaich. Gyda chymorth gwŷr Gwynedd, lladdwyd Penda ym Mrwydr Maes Gai (neu Frwydr Gwinwaed). Sefydlodd ei hun yn frenin ar Fersia.