Nestorius
Nestorius | |
---|---|
Ganwyd | 380s Kahramanmaraş |
Bu farw | c. 451 Upper Egypt |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Fysantaidd |
Galwedigaeth | llenor, esgob Catholig, offeiriad Catholig, Christian theologian |
Swydd | Ecumenical Patriarch of Constantinople, archesgob Catholig |
Esgob a diwinydd Cristnogol o'r Ymerodraeth Fysantaidd yn ystod oes ddiweddar yr Eglwys Fore oedd Nestorius (tua 386 – tua 451). Daeth yn Archesgob Caergystennin yn 428 a denodd sylw am ei ddysgeidiaeth ynglŷn â natur ddeuol Iesu Grist. Yn ôl ei athrawiaeth Gristolegol, nid oedd y Forwyn Fair yn "Fam Duw", gan yr oedd ei mab Iesu yn ddyn, a'i natur ddwyfol yn tarddu o Dduw'r Tad, nid ei fam. Fe laddai ar yr arfer o alw'r Forwyn Fair yn Theotokos ("dygydd duw"). Condemniwyd Nestorius yn heretic gan Gyngor Effesws yn 431 a chollodd ei archesgobaeth.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Nestorius tua'r flwyddyn 386 yn Germanicia, Syria Euphratensis, yn nwyrain yr Ymerodraeth Rufeinig, ychydig flynyddoedd cyn y rhaniad rhwng yr Ymerodraeth Orllewinol a'r Ymerodraeth Fysantaidd. Heddiw, saif Kahramanmaraş yn Rhanbarth y Môr Canoldir, Twrci, ar olion Germanicia. Astudiodd Nestorius yn Ysgol Antioch, yn debyg yn ddisgybl i Theodoros, Esgob Mopsuestia. Aeth yn fynach ym Mynachlog Sant Euprepius cyn iddo gael ei ordeinio'n offeiriad. Enillodd enw am fod yn asgetig uniongred ac huawdl.
Archesgob Caergystennin
[golygu | golygu cod]Penodwyd Nestorius yn Archesgob Caergystennin yn 428 gan yr Ymerawdwr Theodosius II. Hon oedd y swydd uchaf a mwyaf ddylanwadol yn Eglwys y Dwyrain. Pan gychwynnodd yn yr archesgobaeth, aeth Nestorius ati i erlid hereticiaid o bob math, ac eithrio'r Pelagiaid.[1]
Yr erbyniad Nestoriaidd
[golygu | golygu cod]Ar 22 Tachwedd 428, traddodai pregeth gan gaplan Nestorius, Anastasius, yn beirniadu'r arfer o ddyrchafu'r Forwyn Fair yn Theotokos. Parwyd sgandal a phenderfynodd Nestorius gefnogi Anastasius. Ar Ddydd Nadolig, dechreuodd yr Archesgob ar gyfres o lithoedd cyhoeddus ei hun gan ddadlau nad oedd Mair yn Theokotos, a bod defnyddio'r enw hwnnw am ei fam yn groes i'r syniad o natur ddynol yr Iesu. Ymddengys i rai bod Nestorius yn gwadu natur ddwyfol yr Iesu, ac yn ei ddisgrifio fel dyn a gafodd ei fabwysiadu gan Dduw.[1]
Arweiniwyd y gwrthwynebiad i ddysgeidiaeth Nestorious gan Cyril, Esgob Alecsandria, a gafodd ei ysgogi gan gymhellion diwinyddol a gwleidyddol. Apeliodd y ddwy ochr i'r Pab Caelestinus I. Cynhelid cyngor eglwysig yn Rhufain yn Awst 430, ac yno penderfynwyd bod yr enw Theotokos yn gywir. Rhoddid yr awdurdod i Cyril orfodi Nestorius i wrthod ei geugred. Aeth Cyril ati i gyflwyno sawl anathemâu i Nestorius, a'i orchymyn i dderbyn pob un neu wynebu esgymuniad. Perswadiodd Nestorius yr Ymerawdwr Theodosius i alw cyngor eglwysig arall ynghyd i dorri'r ddadl. Gobeithiodd Nestorius a'i ddilynwyr y byddai Cyngor Effesws (431) yn condemnio Cyril, ond llwyddodd hwnnw i ddarbwyllio'r cyngor o heresi Nestorius a chafodd ei anathemateiddio a'i ddiswyddo o'i archesgobaeth.[1]
Ei fywyd wedi'r ddadl
[golygu | golygu cod]Alltudiwyd Nestorius yn ôl i'r hen fynachlog ger Antioch, a threuliodd bedair blynedd yno. Yn 435/6 fe'i drosglwyddwyd i'r Werddon Fawr yn Niffeithwch Libia, ac yn ddiweddarach i Panopolis yn yr Aifft. Yn ystod ei alltudiaeth, ysgrifennodd diffyniad o'i ddysgeidiaeth ac hunangofiant o'r enw Llyfr Heraclides o Ddamascus. Hwnnw yw'r unig waith ganddo sy'n goroesi, a chafodd ei gyfieithiad Syrieg ohono ei ddarganfod yn 1895. Bu farw Nestorius yn Panopolis tua'r flwyddyn 451.[1]
Ei etifeddiaeth
[golygu | golygu cod]- Prif: Nestoriaeth
Adeg ei farwolaeth, condemniwyd dysgeidiaeth Nestorius unwaith eto yn heresi gan Gyngor Chalcedon (451). Er i Eglwys Rhufain erlid y rhai oedd yn ei harddel, enillodd yr athrawiaeth Nestoriaidd ddilynwyr yn nwyrain yr Ymerodraeth Fysantaidd. Ymfudasant i Bersia, yr India, Tsieina, a Mongolia. Anrhydeddir Nestorius heddiw yn sant gan Eglwys Asyriaidd y Dwyrain.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- James Bethune-Baker, Nestorius and His Teaching (Caergrawnt: Cambridge University Press, 1908).