Nathu La
Math | bwlch, boundary point |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | y ffin rhwng India a Tsieina |
Gwlad | Gweriniaeth Pobl Tsieina |
Uwch y môr | 4,310 metr |
Cyfesurynnau | 27.38681°N 88.83094°E |
Cadwyn fynydd | Himalaya |
Bwlch strategol yn yr Himalaya a fu'n llwybr masnach rhwng Tibet ac India am ganrifoedd yw'r Nathu La (hefyd Natu La, weithiau Natu-la) (Tibeteg: རྣ་ཐོས་ལ; Nepali: नाथू ला; Tsieinaeg: 乃堆拉山口). Mae'n gorwedd ar y ffin rhwng India a Gweriniaeth Pobl Tsieina gan gysylltu talaith Indiaidd Sikkim, i'r de, a Tibet i'r gogledd. Mae'r bwlch, sy'n gorwedd 4,310 m (14,140 troedfedd) i fyny i'r gogledd-orllewin o Gangtok, yn gangen o'r hen rwydwaith masnach traws-Asiaidd a adnabyddir fel Llwybr y Sidan. Ystyr y gair Tibeteg nathu-la yw "Bwlch y Clustiau" (nathu "clustiau" la "bwlch").
Ar ôl i Weriniaeth Pobl Tsieina oresgyn Tibet yn y 1950au, y Nathu La oedd un o'r prif lwybrau i Dibetiaid yn ffoi am noddfa yn India. Caewyd y bwlch gan India ar ôl Rhyfel Tsieina ac India, 1962. Yn 2006 cafodd ei ailagor ar ôl i India a Gweriniaeth Pobl Tsieina arwyddo sawl cytundeb masnach a disgwylir iddo fod ar agor i dwristiaid erbyn 2012. Arwyddwyd y cytundebau, sy'n cynnwys cydnabyddiaeth gan India fod Tibet yn rhan o Weriniaeth Pobl Tsieina a chydnabyddiaeth gan Tsieina fod Sikkim - a fu'n rhannol dan awdurdod Lhasa fel teyrnas annibynnol - yn rhan o India, ar benblwydd y Dalai Lama; mae rhai yn gweld hyn fel arwydd o amharch tuag at arweinydd y Tibetiaid alltud a'r mudiad dros annibyniaeth i Dibet.
Ceir sawl rhywogaeth o flodau prin yn yr ardal, yn cynnwys nifer o rywogaethau o blanhigion rhododendron. Ar y ffordd i fyny i'r bwlch o ochr Gangtok ceir llyn Tsomgo (3780 m), sy'n denu nifer o ymwelwyr yn yr haf. Mae'r coedwigoedd ar y llethrau cyn cyrraedd y llyn hwnnw yn gartref i'r Panda Coch, un o famaliaid prinnaf Asia.
Am gyfnod, croesi'r Nathu La oedd bron yr unig ffordd i Ewropeaid gyrraedd Tibet. Mae sawl teithiwr wedi ysgrifennu am groesi'r bwlch, ac yn eu plith yr etholegydd Eidalaidd Fosco Maraini, ar ei ffordd i Lhasa gyda Giuseppe Tucci yn 1948.