Neidio i'r cynnwys

Nantperis

Oddi ar Wicipedia
Nantperis
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.10474°N 4.086172°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH608584 Edit this on Wikidata
Map

Pentref bychan yng nghymuned Llanberis, Gwynedd, Cymru, yw Nantperis [1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yn Eryri yn nyffryn "Nant Peris", ychydig i'r de-ddwyrain o Lyn Peris a phentref Llanberis. Mae Bwlch Llanberis yn arwain ymlaen i'r de-ddwyrain o'r pentref.

Cysegrwyd yr eglwys i Sant Peris; hwn yw'r sefydliad gwreiddiol yn hytrach na Llanberis. Heb fod ymhell o'r eglwys mae Ffynnon Peris. Yn ôl traddodiad roedd dau frithyll yn arfer byw yn y ffynnon, ac os byddai'r sawl fyddai'n ymweld â'r ffynnon i geisio iachad yn gweld y brithyll, byddai ei gais yn llwyddiannus.

Mae'r pentref yn ganolfan boblogaidd gan ddringwyr, ac mae maes gwersylla yno; ceir hefyd un dafarn, Y Vaynol Arms. Gellir parcio yma a chymeryd bws "Sherpa'r Wyddfa" i Ben-y-pas ar gyfer dringo'r Wyddfa.

Mae "Nant Peris" neu "Afon Nant Peris" hefyd yn enw ar yr afon sy'n llifo i lawr Bwlch Llanberis a heibio'r pentref; a defnyddir "Nant Peris" fel enw arall ar Fwlch Llanberis ei hun hefyd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[4]

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Ganed y llenor William John Davies (Gwilym Peris) yn y Nant yn 1888. Symudodd i fyw yng Nghaernarfon ond roedd ei wreiddiau yn Nant Peris a defyddiai'r enw barddol Gwilym Peris.

Claddwyd y darlledwr Huw Wheldon yn y fynwent.

Dyfodiad yr haul

[golygu | golygu cod]

Mae gan drigolion Nant Peris wrth droed y Wyddfa un diwrnod arbennig yn y flwyddyn pan fo pawb yn edrych ymlaen at weld yr haul. Y dyddiad pwysig hwnnw yw Ionawr 13. Am chwe wythnos hir cyn y 13, nid yw pelydrau’r haul yn cyffwrdd â’r pentref. Y rheswm am hyn yw fod y Grib Goch a’r Wyddfa yn rhwystro iddo wenu arnom. Byddwn yn edrych yn hiraethus iawn arno’n dod i lawr yn araf o ris i ris ar lethrau’r Elidir, Y Garn a’r Glyder. Daw heibio’r Ceunant a’r Fron i lawr at Ty Isaf; ond cyn cyffwrdd â’r pentref mae’n troi yn ei ôl a dringo i gopaon Y Garn a’r Glyder ac ô’r golwg. Pob blwyddyn ar y 13 o Ionawr gwelwn yr haul yn agosáu fel pob diwrnod gaeafol clir arall, ond y tro yma nid yw’n troi’n ôl o Ty Isaf. ... mae’n cario ymlaen ac yn tywynnu ar groes fach ar dŵr yr eglwys ... dim ond am ryw ddau funud cyn cychwyn yn ôl ar ei hynt i gopaon y mynyddoedd uchel. Er mai ond prin ddau funud yr arhosa’r haul ar dŵr Eglwys hynafol Sant Peris, mae’n ddiwrnod pwysig iawn o Ionawr yn rhoi gobaith fod dyddiau heulog hir yr haf yn agosau a thywyllwch duaf y gaeaf wedi mynd – ninnau fel paganiaid Affrica yn llawenhau a gorfeleddu ... a bron yn addoli’r haul.[5]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru" Archifwyd 2023-03-30 yn y Peiriant Wayback, Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 27 Mehefin 2023. Dywed Canllawiau Safoni Enwau Lleoedd Cymru - Mae’n arferol ysgrifennu enw anheddiad yn un gair er mwyn gwahaniaethu rhwng aneddiadau (Nantperis, Cefncribwr) a nodweddion tirweddol (Nant Peris, Cefn Cribwr); adalwyd 10 Gorffennaf 2017.
  2. British Place Names; adalwyd 27 Mehefin 2023
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. J. E. Ellis (Perisfab), codwyd o argraffiad yn Eco’r Wyddfa rhif 44 (Ionawr 1980) ym Mwletin Llên Natur, rhifyn 47