Neidio i'r cynnwys

Mynyddog Mwynfawr

Oddi ar Wicipedia
Mynyddog Mwynfawr
Ganwyd550 Edit this on Wikidata
Bu farwc. 600 Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
Swyddbrenin Edit this on Wikidata

Mynyddog Mwynfawr (Hen Gymraeg, Cymraeg Canol: Mynyddawg Mwynfawr) oedd brenin, yn ôl traddodiad, teyrnas Gododdin yn yr Hen Ogledd, rywbryd rhwng 500 a 600 OC. Cyfeirir ato hefyd fel Mynyddawg Eiddin (e.e. Trioedd Ynys Prydain, gwaith y cywyddwyr). Ni wyddys ym mha le roedd ei lys - efallai Din Eiddyn (Dùn Èadainn), efallai Caer Eiddyn (ger Bo'ness ar yr Iwdew Moryd Forth), efallai Tref Pren (Traprain Law, ger East Linton).

Mae o'n enwog am ei fod yn bennaeth y Gododdin a anfonodd ei osgordd o arwyr dethol i ymosod ar yr Eingl yn Nghatraeth (ger Richmond, Gogledd Swydd Efrog), lle cawsant eu difetha bron yn llwyr gan y Deifr. Fe goffheir hyn yn Y Gododdin, cerdd arwrol a briodolir i'r bardd Aneirin:

Gwyr a aeth Gatraeth oed fraeth eu llu. Y gwŷr a aeth i Gatraeth oedd yn llu barod
glasved eu hancwyn a gwenwyn vu. Medd newydd eu pleser - a gwenwyn fu
trychant trwy beiryant en catau. Tri chant yn marchogaeth i'r frwydr
a gwedy elwch tawelwch vu. Ac wedi'r dathliad bu tawelwch.
ket elwynt lanneu e benydu. Er yr aethant i'r eglwys i gael maddeuant,
dadyl dieu agheu y eu treidu. mae'n ddi-au mai angau oedd eu ffawd.

Ni chyfeirir at Fynyddog yn yr achau traddodiadol. Ymddengys ei fod yn bennaeth ar y rhan ogleddol o diriogaeth Gododdin a elwid yn Eiddyn (o gwmpas Caeredin heddiw. Galwodd ato arwyr a rhyfelwyr o sawl rhano diriogaeth y Brythoniaid, yn cynnwys gogledd Cymru, Elmet a Dyfnaint. Bu'r arwyr hyn yn gwledda yn llys Mynyddog am flwyddyn cyn mynd i ymladd yng Nghatraeth. Caent eu moli a'u galaru yn Y Gododdin.

Y Gododdin yw ein prif ffynhonnell am Fynyddog, ond dydi'r gerdd honno (sy'n destun anodd ac efallai'n anghyflawn) ddim yn rhoi unrhyw fanylion hanesyddol amdano. Ond roedd ganddo le yn nhraddodiadau'r Cymry yn yr Oesoedd Canol. Mae'r gerdd 'Hirlas Owain', a briodolir i Owain Cyfeiliog, yn llawn o gyfeiriadau at gyrch gosgordd Mynyddog ar Gatraeth. Gan fod 'Hirlas Owain' yn dathlu cyrch gan osgordd Owain Cyfeiliog i ryddhau ei frawd Meurig o garchar, mae rhai ysgolheigion yn cynnig y ddamcaniaeth mai cyrch i ryddhau Mynyddog o garchar yng Nghatraeth oedd y cyrch a ddisgrifir yn Y Gododdin (yn y gerdd, dydi Mynyddog ei hun ddim yn cymryd rhan yn y cyrch, ond mae'n bosibl ei fod yn rhy hen i gymryd rhan ei hun neu fod ganddo resymau eraill dros beidio gwneud).

Yn Nhrioedd Ynys Prydain, cyfeirir at osgordd Mynyddog fel un o "Tair Gosgordd Addwyn Ynys Prydain", gyda gosgordd Melyn fab Cynfelyn a gosgordd Dryon fab Nudd (Nudd Hael).

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978; argraffiad newydd diwygiedig, 1991)
  • Ifor Williams (gol.), Canu Aneirin (Caerdydd, 1958)