Myfanwy Talog
Myfanwy Talog | |
---|---|
Ganwyd | Myfanwy Talog Williams 31 Mawrth 1944, 1945 Caerwys |
Bu farw | 11 Mawrth 1995, 1995 Swydd Buckingham |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor |
Partner | David Jason |
Actores o Gymru oedd Myfanwy Talog (31 Mawrth 1944 – 11 Mawrth 1995).[1]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Myfanwy Talog Williams yng Nghaerwys, gogledd-ddwyrain Cymru. Roedd ganddi frawd iau, Gwilym.
Hyfforddodd fel athrawes yng Nghaerdydd cyn cychwyn ar ei gyrfa ym myd y cyfryngau.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ymddangosai ar y rhaglen Gymraeg i blant, Teliffant, yn ystod y 1970au, yn ogystal â chwarae rhan Phyllis Doris yn y gyfres gomedi boblogaidd Ryan and Ronnie ar y BBC. Yn y 1980au ymddangosai yn yr opera sebon Gymraeg, Dinas, ar S4C, ac mewn sawl cyfres gomedi Saesneg ar y BBC, gan gynnwys Bread a The Magnificent Evans. Yn ddiweddarach, roedd yn fwy cyfarwydd i'r genhedlaeth ifanc fel lleisydd y gyfres cartŵn Wil Cwac Cwac.
Mae plac ar wal y tŷ yn Stryd Fawr Caerwys lle roedd hi'n byw.[2]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd yn bartner i Syr David Jason ers i'r ddau gyfarfod yn y 1970au. Roedd Jason yn adnabod yr actores o Gymraes Olwen Rees wedi iddynt gyd-actio mewn addasiad ffilm o Under Milk Wood (1972). Yn 1977 daeth Jason i Gaerdydd i berfformio mewn drama a daeth Olwen Rees i wylio gyda'i ffrind Myfanwy. Syrthiodd y ddau mewn cariad a bu'r ddau yn bartneriaid am dros 18 mlynedd tan ei marwolaeth o ganser y fron.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 21 December 2018.
- ↑ Myfanwy: Dadorchuddio plac BBC 31 Mawrth 2006
- ↑ Sir David Jason opens up on tragic romance with Welsh actress , WalesOnline, 13 Hydref 2013. Cyrchwyd ar 21 Rhagfyr 2018.