Neidio i'r cynnwys

Mwyngloddio

Oddi ar Wicipedia
Mwyngloddio
Cloddio am sylffwr ar ymyl llyn crater Ijen, Indonesia
Enghraifft o'r canlynolgweithgaredd economaidd, disgyblaeth academaidd Edit this on Wikidata
Mathexploitation of natural resources Edit this on Wikidata
Rhan omwyngloddio a chwarelydda Edit this on Wikidata
Yn cynnwysprosesu mwynau, echdynnu mwynau Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mwyngloddio yw echdynnu mwynau gwerthfawr neu ddeunyddiau daearegol eraill o'r Ddaear, fel arfer o wythïen, neu haen o garreg mewn craig. Mae ecsbloetio'r dyddodion hyn yn cael ei wneud er elw economaidd ac mae'n golygu buddsoddi mewn offer, llafur ac yn yr ynni sydd eu hangen i gloddio, mireinio a chludo'r deunyddiau a geir yn y pwll neu'r fynglawdd i weithgynhyrchwyr a all ddefnyddio'r deunydd.

Ymhlith y mwynau a fwyngloddir heddiw mae metelau, glo, siâl olew, gleiniau gwerthfawr, calchfaen, sialc, carreg halen, potash, graean, a chlai. Mae angen mwyngloddio'r rhan fwyaf o ddeunyddiau na ellir eu tyfu trwy brosesau amaethyddol, neu eu creu yn artiffisial mewn labordy neu ffatri. Mae mwyngloddio mewn ystyr ehangach yn cynnwys echdynnu unrhyw adnodd anadnewyddadwy fel petrolewm neu nwy naturiol. Mae prosesau mwyngloddio modern yn cynnwys chwilio am garreg yn cynnwys y mwyn, dadansoddi potensial elw mwynglawdd arfaethedig, echdynnu'r deunyddiau dymunol, ac adennill neu adfer y tir yn ar ôl i'r mwynglawdd gau.[1]

Roedd Cymru’n enwog am fwyngloddio glo, yng Nghwm Rhondda a ledled maes glo De Cymru ac erbyn 1913 roedd y Barri wedi dod yn borthladd allforio glo mwya'r byd, gyda Chaerdydd yn ail. Roedd gan ogledd-ddwyrain Cymru hefyd ei faes glo ei hun ac mae Glofa'r Tŵr (a gaewyd ym mis Ionawr 2008) ger Hirwaun yn cael ei hystyried gan lawer fel y pwll glo agored hynaf a mwya'r byd. Mae Cymru hefyd wedi cael hanes sylweddol o gloddio am lechi, aur a mwynau metel amrywiol.

Fil o flynyddoedd cyn dyfod y Rhufeiniaid, arferid cloddio Copr ar y Gogarth, a dyma fwynglawdd copr mwya'r byd; ceir hefyd gwaith plwm Mynydd Parys a'r Sygun. Echdynnwyd symiau sylweddol o aur a phlwm ers cyfnod y Deceangli hefyd ynghyd a sinc ac arian. Cychwynwyd cloddio am lechi 2,000 o flynyddoedd yn ôl (gweler diwydiant llechi Cymru).

Gall gweithrediadau mwyngloddio greu effaith amgylcheddol negyddol, yn ystod y gweithgaredd mwyngloddio ac ar ôl i'r pwll gau. Felly, mae'r rhan fwyaf o wledydd y byd wedi pasio deddfau a rheoliadau i leihau'r effaith; fodd bynnag, mae rôl aruthrol mwyngloddio wrth gynhyrchu busnes ar gyfer cymunedau sy'n aml yn wledig, anghysbell neu ddirwasgedig yn economaidd yn golygu y gallai llywodraethau fethu â gorfodi rheoliadau o'r fath yn llawn. Mae diogelwch gwaith wedi bod yn bryder ers tro hefyd, a lle mae gorfodi arferion modern wedi gwella diogelwch mewn pyllau glo yn sylweddol. Ar ben hynny, mae mwyngloddio heb ei reoleiddio neu wedi'i reoleiddio'n wael, yn enwedig mewn economïau sy'n datblygu, yn aml yn cyfrannu at dorri hawliau dynol lleol a gwrthdaro.

Ers dechrau gwareiddiad, mae pobl wedi defnyddio carreg, clai ac, yn ddiweddarach, metelau a ddarganfuwyd yn agos at wyneb y Ddaear . Defnyddiwyd y rhain i wneud offer ac arfau cynnar; er enghraifft, defnyddiwyd fflint o ansawdd uchelledled Cymru a gwledydd eraill.[2] Mae mwyngloddiau fflint wedi'u darganfod mewn ardaloedd sialc lle'r oedd gwythiennau o'r cerrig yn cael eu dilyn dan ddaear gan siafftiau ac orielau. Mae'r mwyngloddiau yn Krzemionki yn arbennig o enwog, ac fel y rhan fwyaf o fwyngloddiau fflint eraill, maent yn dyddio o'r cyfnod Neolithig (c. 4000–3000 CC). Ond y mwynglawdd hynaf y gwyddys amdano ar gofnod archeolegol yw Mwynglawdd Ngwenya yn Eswatini (Swaziland), a brofwyd gan ddyddio radiocarbon di fod tua 43,000 o flynyddoedd oed. Ar y safle hwn bu pobl Paleolithig yn cloddio hematit i wneud pigment coch o'r enw ocr.[3] Credir bod mwyngloddo mor hynafol yn Hwngari, mewn safleoedd lle gallai Neanderthaliaid fod wedi cloddio fflint am arfau ac offer.[4]

Yr Hen Aifft

[golygu | golygu cod]
Malachite

Cloddiai'r hen Eifftiaid am malachit ym Maadi.[5] Ar y dechrau, fe ddefnyddio nhw'r cerrig malachit gwyrdd llachar ar gyfer addurniadau a chrochenwaith. Yn ddiweddarach, rhwng 2,613 a 2,494 CC, aethant ar alldeithiau tramor i ardal Wadi Maghareh er mwyn sicrhau mwynau ac adnoddau eraill nad oedd ar gael yn yr Aifft ei hun.[6] Darganfuwyd chwareli cloddio am y lliwiau gwyrddlas a chopr hefyd yn Wadi Hammamat, Tura, Aswan ac amryw o safleoedd Nubiaidd eraill ym Mhenrhyn Sinai ac yn Timna.[6]

Roedd mwyngloddiau aur Nubia ymhlith y mwyaf a'r mwyaf helaeth drwy'r Hen Aifft. Disgrifir y mwyngloddiau hyn gan yr awdur Groegaidd Diodorus Siculus, sy'n sôn am gynnau tân fel un dull a ddefnyddir i dorri i lawr y graig galed sy'n dal yr aur. Ceir tystiolaeth y defnyddiwyd y dull yma bron i dair mil o flynyddoedd yn ol ym mwyngloddiau copr y Gogarth Mawr. Mae arsenig wedi'i gloddio yng nghwm Clun ger Abertawe - yr unig fan lle ceir echdynnu masnachol.

Hen Roeg a Rhufain

[golygu | golygu cod]
Datblygiad Rhufeinig Hynafol Fwyngloddiau Aur Dolaucothi, Cymru

Mae gan gloddio yn Ewrop hanes hir iawn ac yn eu plith mae mwyngloddiau arian Laurium, a fu'n gymorth i godi prifddinas Groeg, sef Athen. Er bod ganddynt dros 20,000 o gaethweision yn gweithio yno, roedd eu technoleg yn ei hanfod yn union yr un fath â'u rhagflaenwyr o'r Oes Efydd.[7] Mewn mwyngloddiau eraill, megis ar ynys Thassos, cloddiwyd marmor gan y Pariaid ar ôl iddynt gyrraedd y 7g CC.[8] Cludwyd y marmor i bellteroedd byd, gan gynnwys beddrod Amphipolis. Cipiodd Philip II o Facedon, sef tad Alecsander Fawr, fwyngloddiau aur Mynydd Pangeo yn 357 CC i ariannu ei ymgyrchoedd milwrol.[9] Cipiodd hefyd fwyngloddiau aur yn Thrace ar gyfer bathu darnau arian, gan gynhyrchu hyd at 26 tunnell y flwyddyn.

Fodd bynnag, y Rhufeiniaid a ddatblygodd ddulliau mwyngloddio ar raddfa fawr, yn enwedig y defnydd enfawr o ddŵr a gludwyd i ben y pwll gan nifer o draphontydd dŵr. Defnyddiwyd y dŵr at amrywiaeth o ddibenion, gan gynnwys cael gwared ar orlwyth a malurion creigiau, ac a elwir yn fwyngloddio hydrolig, yn ogystal â golchi mwynau neu falu'r cerrig crai, a gyrru peiriannau syml.

Hawliau Dynol

[golygu | golygu cod]

Yn ogystal ag effeithiau amgylcheddol y prosesau o fwyngloddio, ceir beirniadaeth llym ar yr arer o echdynnu ac mae cwmnïau mwyngloddio'n aml yn torri hawliau dynol sy'n digwydd o fewn y safleoedd mwyngloddio a'r cymunedau sy'n agos atynt.[10] Yn aml, er eu bod yn cael eu hamddiffyn gan hawliau Llafur Rhyngwladol, ni roddir offer priodol i fwygloddwyr i'w hamddiffyn rhag cwymp creigiau a rhag llygryddion niweidiol a chemegau sy'n cael eu gwasgaru yn ystod y broses o fwyngloddio. Yn aml, ceir diwrnodau gwaith o 14 awr heb unrhyw amser penodedig ar gyfer seibiant.[11]

Llafur plant

[golygu | golygu cod]
Bechgyn y 'Breaker' : plant mewn pwll glo yn Ne Pittston, Pennsylvania, Unol Daleithiau America ar ddechrau'r 20g.

Mae cam drin plant yn destun beirniadaeth eang o fewn y diwydiant mwyngloddio cobalt, mwyn sy'n hanfodol i bweru technolegau modern megis batris gliniaduron, ffonau clyfar a cherbydau trydan. Mae llawer o'r achosion hyn i'w cael yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo. Ceir adroddiadau am blant yn cario sachau o gobalt yn pwyso 25 kg o fwyngloddiau bach i fasnachwyr lleol[12] - plant sy'n cael eu talu am eu gwaith mewn bwyd a llety yn unig. Mae nifer o gwmnïau fel Apple, Google, Microsoft a Tesla wedi bod yn gysylltiedig ag achosion cyfreithiol a gyflwynwyd gan deuluoedd y cafodd eu plant eu hanafu'n ddifrifol neu eu lladd yn ystod gweithgareddau mwyngloddio yn y Congo.[13] Yn Rhagfyr 2019, fe wnaeth 14 o deuluoedd o'r Congo ffeilio achos cyfreithiol yn erbyn Glencore, cwmni mwyngloddio sy'n cyflenwi'r cobalt hanfodol i'r corfforaethau rhyngwladol hyn gan honi esgeulustod a arweiniodd at farwolaethau plant neu anafiadau fel asgwrn cefn wedi torri, trallod emosiynol a llafur gorfodol.

Pobloedd brodorol

[golygu | golygu cod]

Bu achosion hefyd o ladd a gofodi pobl o'u cynefin oherwydd gwrthdaro â chwmnïau mwyngloddio. Roedd bron i draean o 227 o lofruddiaethau yn 2020 yn weithredwyr hawliau pobl frodorol ar reng flaen actifiaeth newid yn yr hinsawdd yn gysylltiedig â logio, mwyngloddio, busnes amaethyddol ar raddfa fawr, argaeau trydan dŵr, a seilwaith arall, yn ôl Global Witness.[14]

Diffinnir y berthynas rhwng pobloedd brodorol a chwmniau mwyngloddio gan frwydrau dros fynediad i diroedd. Yn Awstralia, dywedodd y brodorion Bininj fod mwyngloddio yn fygythiad i'w diwylliant byw ac y gallai ddifetha safleoedd treftadaeth sanctaidd.[15][16]

Ym Mrasil, trefnodd mwy na 170 o lwythau brodorol orymdaith i wrthwynebu ymdrechion i dynnu hawliau tir brodorol yn ôl ac agor eu tiriogaethau i waith mwyngloddio.[17] Mae Comisiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Dynol wedi galw ar Oruchaf Lys Brasil i gynnal hawliau tir brodorol er mwyn atal ecsbloetio gan grwpiau mwyngloddio ac amaethyddiaeth ddiwydiannol.[18]

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • Woytinsky, W.S., and E.S. Woytinsky (1953). World Population and Production Trends and Outlooks, pp. 749–881
  • Ali, Saleem H. (2003). Mining, the Environment and Indigenous Development Conflicts. Tucson AZ: University of Arizona Press. Nodyn:ISBN?[<span title="Please supply an ISBN for this book.">ISBN<span typeof="mw:Entity"> </span>missing</span>]
  • Ali, Saleem H. (2009). Treasures of the Earth: need, greed and a sustainable future. New Haven and London: Yale University Press. Nodyn:ISBN?[<span title="Please supply an ISBN for this book.">ISBN<span typeof="mw:Entity"> </span>missing</span>]
  • Even-Zohar, Chaim (2002). From Mine to Mistress: Corporate Strategies and Government Policies in the International Diamond Industry. Mining Journal Books. t. 555. ISBN 978-0-9537336-1-3.
  • Geobacter Project: Gold mines may owe their origins to bacteria (PDF)
  • Garrett, Dennis. Alaska Placer Mining. Nodyn:ISBN?[<span title="Please supply an ISBN for this book.">ISBN<span typeof="mw:Entity"> </span>missing</span>]
  • Jayanta, Bhattacharya (2007). Principles of Mine Planning (arg. 2nd). Wide Publishing. t. 505. ISBN 978-81-7764-480-7.
  • Morrison, Tom (1992). Hardrock Gold: a miner's tale. ISBN 0-8061-2442-3ISBN 0-8061-2442-3
  • John Milne. The Miner's Handbook: A Handy Reference on the subjects of Mineral Deposits (1894) Mining operations in the 19th century. The Miner's Handbook: A Handy Book of Reference on the Subjects of Mineral Deposits, Mining Operations, Ore Dressing, Etc. For the Use of Students and Others Interested in Mining Matters.
  • Aryee, B., Ntibery, B., Atorkui, E. (2003). "Trends in the small-scale mining of precious minerals in Ghana: a perspective on its environmental impact", Journal of Cleaner Production 11: 131–40.
  • Temple, John (1972). Mining: An International History. Ernest Benn Limited.
  • The Oil, gas and Mining Sustainable Community Development Fund (2009). Social Mine Closure Strategy, Mali.
  • White F. (2020). Miner with a Heart of Gold: biography of a mineral science and engineering educator. Friesen Press, Victoria. ISBN 978-1-5255-7765-9 (Hardcover), 978-1-5255-7766-6, 978-1-5255-7767-3 (eLyfr).

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Agricola, Georg; Hoover, Herbert (1950). De re metallica. MBLWHOI Library. New York, Dover Publications.
  2. Hartman, Howard L. SME Mining Engineering Handbook, Society for Mining, Metallurgy, and Exploration Inc, 1992, p. 3.
  3. Swaziland Natural Trust Commission, "Cultural Resources – Malolotja Archaeology, Lion Cavern," Retrieved August 27, 2007, "Swaziland National Trust Commission – Cultural Resources – Malolotja Archaeology, Lion Cavern". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2016-02-05.
  4. "ASA – October 1996: Mining and Religion in Ancient Man". www2.asa3.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-02. Cyrchwyd 2015-06-11.
  5. Shaw, I. (2000). The Oxford History of Ancient Egypt. New York: Oxford University Press, pp. 57–59.
  6. 6.0 6.1 Shaw, I. (2000). The Oxford History of Ancient Egypt. New York: Oxford University Press, p. 108.
  7. "Mining greece ancient mines". www.miningreece.com. 2014-12-10. Cyrchwyd 2015-06-11.
  8. "Mining Greece Ancient Quarries in Thassos". www.miningreece.com. 2014-12-10. Cyrchwyd 2015-06-11.
  9. "Mining Greece the Goldmines of Alexander the Great". www.miningreece.com. 2014-12-10. Cyrchwyd 2015-06-11.
  10. Spohr, Maximilian (January 2016). Human Rights Risks in Mining - A Baseline Study (PDF). BGR. t. 10. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-10-31. Cyrchwyd 28 December 2020.
  11. Tamufor, Lindlyn. Human Rights Violations in Africa's Mining Sector (PDF). Ghana: Third World Network - Africa. t. 9. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-08-18. Cyrchwyd 28 December 2020.
  12. Financial Times (7 July 2019). "Congo, Child Labor and Your Electric Car". Financial Times.
  13. Kelly, Annie (16 December 2019). "Apple and Google named in US lawsuit over Congolese child cobalt mining deaths". The Guardian. Cyrchwyd 18 January 2021.
  14. Marshall, Claire (2021-09-13). "Record number of environmental activists murdered". BBC via Yahoo News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-09-13.
  15. Behrendt, Larissa; Strelein, Lisa (March 2001). "Old Habits Die Hard: Indigenous Land Rights and Mining in Australia". Cultural Survival (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-09-13.
  16. "Uranium Mining – The Gundjeihmi Aboriginal Corporation". Mirarr. Cyrchwyd 2021-09-13.
  17. Phillips, Tom; Milhorance, Flávia (2021-09-10). "Indigenous warrior women take fight to save ancestral lands to Brazilian capital". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-09-13.
  18. "Brazil: Supreme Court must uphold indigenous land rights – UN expert". UN OHCHR. 2021-08-23. Cyrchwyd 2021-09-13.