Milhaint
Ci gyda'r gynddaredd (sy'n filhaint) | |
Math | clefyd anifeiliaid, rhyngweithio host-pathogen, clefyd heintus |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Clefyd heintus mewn bodau dynol yw milhaint (Saesneg: zoonosis) a achosir gan bathogen (megis bacteriwm, firws, parasit neu brion) sydd wedi neidio o rywogaeth arall (fertebrat fel arfer) i fod ddynol.[1][2] Yna, mae'r bod dynol heintiedig cyntaf yn trosglwyddo'r asiant heintus i o leiaf un bod dynol arall, sydd, yn ei dro, yn heintio eraill. Gair cyfansawdd yw 'milhaint': 'mil' (anifail) a 'haint', 'heintiau'.
Ymhlith y milheintiau mwyaf peryglus y mae clefyd y firws ebola a salmonellosis. Roedd HIV yn glefyd milheintiol a drosglwyddwyd i bobl yn gynnar yn yr 20g, er ei fod bellach wedi datblygu i fod yn glefyd dynol yn unig.[3][4][5]
Mae'r rhan fwyaf o'r mathau o ffliw sy'n heintio bodau dynol yn glefydau dynol, er bod llawer o fathau o ffliw adar a ffliw moch yn filheintiau; o bryd i'w gilydd mae'r firysau hyn yn ailgyfuno â mathau dynol o'r ffliw a gallant achosi pandemig fel ffliw Sbaen 1918 neu ffliw moch 2009.[6] Mae haint Taenia solium yn un o'r clefydau trofannol sydd wedi'u hesgeuluso sy'n peri pryder i feddygon a milfeddygon mewn rhanbarthau endemig.[7]
Gall milheintiau gael eu hachosi gan amrywiaeth o bathogenau clefydau megis firysau sy'n dod i'r amlwg, bacteria, ffyngau a pharasitiaid; o'r 1,415 o bathogenau y gwyddys eu bod yn heintio bodau dynol, roedd 61% yn filhaint.[8] Mae'r rhan fwyaf o glefydau dynol yn tarddu o rywogaethau eraill; fodd bynnag, dim ond clefydau sy'n cynnwys trosglwyddo nad yw'n ddynol i fodau dynol fel mater o drefn, megis y gynddaredd, sy'n cael eu hystyried yn filheintiau uniongyrchol.[9]
Ceir amryw o ddulliau trosglwyddo: weithiau mae'r afiechyd yn cael ei drosglwyddo'n uniongyrchol o rywogaethau nad ydynt yn ddynol i fodau dynol trwy'r aer (ee ffliw) neu drwy frathiad neu boer (ee y gynddaredd).[10] Mewn cyferbyniad, gall trosglwyddiad ddigwydd hefyd trwy rywogaeth ganolradd (y cyfeirir ato fel 'fector'), sy'n cario pathogen y clefyd heb fynd yn sâl. Pan fydd bodau dynol yn heintio rhywogaethau nad ydynt yn ddynol, fe'i gelwir yn 'filhaint gwrthdro' neu'n 'anthroponosis'.[11] Daw'r term o'r Groeg : ζῷον zoon "anifail" a νόσος nosos "salwch".
Achosion
[golygu | golygu cod]Ymddangosiad clefydau milheintiol cyntaf pan ddofwyd anifeiliaid.[12] Gall trosglwyddiad milheintiol ddigwydd mewn unrhyw gyd-destun lle ceir cysylltiad ag anifeiliaid, cynnyrch anifeiliaid, neu drwy fwyta anifeiliaid. Gall hyn ddigwydd mewn cyd-destun cydymaith (anifeiliaid anwes), economaidd (ffermio, masnach, cigydd, ac ati), rheibus (hela, cigydda neu fwyta helwriaeth wyllt) neu gyd-destun ymchwil.
Yn y 2010au a'r 2020au, cynyddodd y nifer o ymddangosiad clefydau milheintiol newydd. “Credir bod tua 1.67 miliwn o firysau heb eu disgrifio yn bodoli mewn mamaliaid ac adar, ac amcangyfrifir bod gan hyd at hanner ohonynt y potensial i groesi i fodau dynol,” meddai astudiaeth[13] dan arweiniad ymchwilwyr ym Mhrifysgol California, Davis. Yn ôl adroddiad gan Raglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig a Sefydliad Ymchwil Da Byw Rhyngwladol rhan fawr o'r achosion yw'r amgylchedd fel newid hinsawdd, amaethyddiaeth anghynaliadwy, ecsbloetio bywyd gwyllt a newid yn y defnydd o dir. Mae eraill yn gysylltiedig â newidiadau yn y gymdeithas ddynol ee mwy o symudedd. Mae'r sefydliadau'n cynnig set o fesurau i atal y cynnydd.[14][15]
Halogi cyflenwad bwyd neu ddŵr
[golygu | golygu cod]Y pathogenau milheintiol mwyaf arwyddocaol sy'n achosi clefydau a gludir gan fwyd yw Escherichia coli O157:H7, Campylobacter, Caliciviridae, a Salmonela.[16][17][18]
Yn 2006 canolbwyntiodd cynhadledd a gynhaliwyd yn Berlin ar fater effeithiau pathogenau milheintiol ar ddiogelwch bwyd, gan annog gan annog llywodraethau'r byd i ymyrryd a bod ar eu gwyliadwraeth drwy annog y cyhoedd o'r risgiau o ddal clefydau a gludir gan fwyd o fwyta o'r-fferm-i'r-bwrdd.[19]
Gall llawer o glefydau sy'n deillio o fwyd fod yn gysylltiedig â phathogenau milheintiol a gall llawer o wahanol fathau o fwyd sy'n dod o anifeiliaid gael eu halogi ee wyau, bwyd môr, cig, llaeth, a hyd yn oed rhai llysiau.[20]
Ffermio, ransio a hwsmonaeth anifeiliaid
[golygu | golygu cod]Gall dod i gysylltiad ag anifeiliaid fferm arwain at glefydau mewn ffermwyr neu eraill sy’n dod i gysylltiad ag anifeiliaid fferm heintiedig. Mae llynmeirch (<i>glanders)</i> yn effeithio'n bennaf ar y rhai sy'n gweithio'n agos gyda cheffylau ac asynnod. Gall cysylltiad agos â gwartheg arwain at haint anthracs ar y croen, tra bod haint anthracs trwy anadliad yn fwy cyffredin i weithwyr mewn lladd-dai, tanerdai a melinau gwlân.[21] Gall cysylltiad agos â defaid sydd wedi rhoi genedigaeth yn ddiweddar arwain at haint â’r bacteriwm Chlamydia psittaci, gan achosi clamydiosis (ac erthyliad ensŵotig mewn merched beichiog), yn ogystal â chynyddu’r risg o dwymyn Q, tocsoplasmosis, a listeriosis, mewn merch beichiog. Mae echinococcosis yn cael ei achosi gan lyngyr rhuban, sy'n gallu lledaenu o ddefaid heintiedig drwy fwyd neu ddŵr sydd wedi'i halogi gan faw neu wlân. Mae ffliw adar yn gyffredin mewn ieir ac, er ei fod yn brin mewn pobl, y prif bryder iechyd cyhoeddus yw y bydd straen o ffliw adar yn ailgyfuno â firws ffliw dynol ac yn achosi pandemig fel ffliw Sbaen 1918. Yn 2017, gorchmynnwyd cadw ieir buarth yn y DU i'w cadw y tu mewn oherwydd y bygythiad ffliw adar.[22] Mae gwartheg yn gronfa bwysig o cryptosporidiosis,[23] sy'n effeithio'n bennaf ar y rhai sydd wedi'u himiwneiddio. Dengys adroddiadau y gall mincod gael eu heintio hefyd.[24] Yng ngwledydd y Gorllewin, mae baich Hepatitis E yn dibynnu i raddau helaeth ar ddod i gysylltiad â chynnyrch anifeiliaid, ac mae cig mochyn yn ffynhonnell enfawr ohono.[25]
Mae milfeddygon yn agored i beryglon galwedigaethol unigryw o ran afiechyd milheintiol. Yn Unol Daleithiau America, mae astudiaethau wedi amlygu risg uwch o anafiadau a diffyg ymwybyddiaeth filfeddygol o'r peryglon hyn. Profodd ymchwil y pwysigrwydd o addysg glinigol barhaus gan filfeddygon sy'n gysylltiedig ag anafiadau cyhyrysgerbydol, brathiadau anifeiliaid, a thoriadau.[26]
Anifeiliaid anwes
[golygu | golygu cod]Gall anifeiliaid anwes drosglwyddo nifer o afiechydon. Mae cŵn a chathod yn cael eu brechu rhag y gynddaredd yn rheolaidd. Gall anifeiliaid anwes hefyd drosglwyddo'r llyngyr a Giardia, sy'n endemig mewn poblogaethau anifeiliaid a phobl. Mae tocsoplasmosis yn haint cyffredin mewn cathod; mewn pobl mae'n afiechyd ysgafn er y gall fod yn beryglus i ferched beichiog.[27] Mae dirofilariasis yn cael ei achosi gan Dirofilaria immitis trwy fosgitos sydd wedi'u heintio gan famaliaid fel cŵn a chathod. Caiff clefyd crafu cathod ei achosi gan Bartonella henselae a Bartonella quintana, sy'n cael eu trosglwyddo gan chwain sy'n endemig i gathod. Mae enseffalitozoon cuniculi yn barasit microsporidaidd sy'n cael ei gludo gan lawer o famaliaid, gan gynnwys cwningod, ac mae'n bathogen manteisgar pwysig mewn pobl sydd wedi'u himiwneiddio gan HIV/AIDS, trawsblannu organau, neu ddiffyg CD4 T-lymffosyt.[28]
Gall anifeiliaid anwes hefyd wasanaethu fel cronfa o glefyd firaol a chyfrannu at bresenoldeb cronig rhai afiechydon firaol yn y boblogaeth ddynol. Er enghraifft, mae tua 20% o gŵn domestig, cathod a cheffylau yn cario gwrthgyrff gwrth-feirws Hepatitis E ac felly mae'n debyg bod yr anifeiliaid hyn yn cyfrannu at faich Hepatitis E dynol hefyd.[29] Ar gyfer poblogaethau nad ydynt yn agored i niwed (pobl nad ydynt wedi'u himiwneiddio) mae'r baich afiechyd cysylltiedig, fodd bynnag, yn fach.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ WHO. "Zoonoses". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 January 2015. Cyrchwyd 18 December 2014.
- ↑ "A glimpse into Canada's highest containment laboratory for animal health: The National Centre for Foreign Animal Diseases". science.gc.ca. Government of Canada. 22 Hydref 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 June 2019. Cyrchwyd 16 Awst 2019.
Zoonoses are infectious diseases which jump from a non-human host or reservoir into humans.
- ↑ "Origins of HIV and the AIDS pandemic". Cold Spring Harbor Perspectives in Medicine 1 (1): a006841. Medi 2011. doi:10.1101/cshperspect.a006841. PMC 3234451. PMID 22229120. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3234451.
- ↑ "HIV epidemiology. The early spread and epidemic ignition of HIV-1 in human populations". Science 346 (6205): 56–61. Hydref 2014. arXiv:6. Bibcode 2014Sci...346...56F. doi:10.1126/science.1256739. PMC 4254776. PMID 25278604. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4254776.
- ↑ "Serial human passage of simian immunodeficiency virus by unsterile injections and the emergence of epidemic human immunodeficiency virus in Africa". Philosophical Transactions of the Royal Society of London. Series B, Biological Sciences 356 (1410): 911–920. June 2001. doi:10.1098/rstb.2001.0867. PMC 1088484. PMID 11405938. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1088484.
- ↑ "Human vs. animal outbreaks of the 2009 swine-origin H1N1 influenza A epidemic". EcoHealth 8 (3): 376–380. Medi 2011. doi:10.1007/s10393-011-0706-x. PMC 3246131. PMID 21912985. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3246131.
- ↑ "Taenia solium Human Cysticercosis: A Systematic Review of Sero-epidemiological Data from Endemic Zones around the World". PLOS Neglected Tropical Diseases 9 (7): e0003919. 6 Gorffennaf 2015. doi:10.1371/journal.pntd.0003919. PMC 4493064. PMID 26147942. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4493064.
- ↑ "Risk factors for human disease emergence". Philosophical Transactions of the Royal Society of London. Series B, Biological Sciences 356 (1411): 983–989. July 2001. doi:10.1098/rstb.2001.0888. PMC 1088493. PMID 11516376. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1088493.
- ↑ "AIDS as a zoonosis? Confusion over the origin of the virus and the origin of the epidemics". Journal of Medical Primatology 33 (5–6): 220–226. October 2004. doi:10.1111/j.1600-0684.2004.00078.x. PMID 15525322.
- ↑ "Zoonosis". Medical Dictionary. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 June 2013. Cyrchwyd 30 January 2013.
- ↑ "Reverse zoonotic disease transmission (zooanthroponosis): a systematic review of seldom-documented human biological threats to animals". PLOS ONE 9 (2): e89055. 2014. Bibcode 2014PLoSO...989055M. doi:10.1371/journal.pone.0089055. PMC 3938448. PMID 24586500. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3938448.
- ↑ Animal Oppression and Human Violence: Domesecration, Capitalism, and Global Conflict. Columbia University Press. 2013. t. 5. ISBN 978-0231151894.
- ↑ "Ranking the risk of animal-to-human spillover for newly discovered viruses". Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America 118 (15). April 2021. arXiv:6. doi:10.1073/pnas.2002324118. PMC 8053939. PMID 33822740. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=8053939.
- ↑ "Coronavirus: Fear over rise in animal-to-human diseases". BBC. 6 July 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 July 2020. Cyrchwyd 7 July 2020.
- ↑ "Preventing the next pandemic – Zoonotic diseases and how to break the chain of transmission". United Nations Environmental Programm. United Nations. 15 May 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 July 2020. Cyrchwyd 7 July 2020.
- ↑ "Campylobacters as zoonotic pathogens: a food production perspective". International Journal of Food Microbiology 117 (3): 237–257. July 2007. doi:10.1016/j.ijfoodmicro.2007.01.006. PMID 17368847.
- ↑ "Introduction: emerging antimicrobial resistance mechanisms in the zoonotic foodborne pathogens Salmonella and Campylobacter". Microbes and Infection 8 (7): 1889–1890. June 2006. doi:10.1016/j.micinf.2005.12.024. PMID 16714136.
- ↑ "The threat posed by the global emergence of livestock, food-borne, and zoonotic pathogens". Annals of the New York Academy of Sciences 894 (1): 20–27. 1999. Bibcode 1999NYASA.894...20M. doi:10.1111/j.1749-6632.1999.tb08039.x. PMID 10681965.
- ↑ Med-Vet-Net. "Priority Setting for Foodborne and Zoonotic Pathogens" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 25 June 2008. Cyrchwyd 5 April 2008.
- ↑ Abebe, Engidaw; Gugsa, Getachew; Ahmed, Meselu (2020-06-29). "Review on Major Food-Borne Zoonotic Bacterial Pathogens". Journal of Tropical Medicine 2020: 4674235. doi:10.1155/2020/4674235. ISSN 1687-9686. PMC 7341400. PMID 32684938. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=7341400.
- ↑ "Inhalation Anthrax". cdc.gov (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 March 2017. Cyrchwyd 26 March 2017.
- ↑ "Avian flu: Poultry to be allowed outside under new rules". BBC News (yn Saesneg). 28 February 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 March 2017. Cyrchwyd 26 March 2017.
- ↑ "Cryptosporidiosis - an occupational risk and a disregarded disease in Estonia". Acta Veterinaria Scandinavica 56 (1): 36. June 2014. doi:10.1186/1751-0147-56-36. PMC 4089559. PMID 24902957. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4089559.
- ↑ "Mink found to have coronavirus on two Dutch farms – ministry" (yn Saesneg). Reuters. 26 April 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 April 2020. Cyrchwyd 27 April 2020.
- ↑ "Hepatitis E virus transmission from wild boar meat". Emerging Infectious Diseases 11 (12): 1958–1960. December 2005. arXiv:6. doi:10.1016/j.onehlt.2021.100350. PMC 8606544. PMID 16485490. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=8606544.
- ↑ "Assessment of Musculoskeletal Injuries Associated with Palpation, Infection Control Practices, and Zoonotic Disease Risks among Utah Clinical Veterinarians". Journal of Agromedicine 24 (1): 35–45. Ionawr 2019. doi:10.1080/1059924X.2018.1536574. PMID 30362924.
- ↑ Prevention, CDC – Centers for Disease Control and. "Toxoplasmosis – General Information – Pregnant Women". cdc.gov (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 1 Ebrill 2017.
- ↑ Companion animal zoonoses. Wiley-Blackwell. 2011. tt. 282–84. ISBN 978-0813819648.
- ↑ "Hepatitis E virus seroprevalence in pets in the Netherlands and the permissiveness of canine liver cells to the infection". Irish Veterinary Journal 73: 6. 2020. arXiv:6. doi:10.1186/s13620-020-00158-y. PMC 7119158. PMID 32266057. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=7119158.