Mavis Nicholson
Mavis Nicholson | |
---|---|
Ganwyd | Mavis Mainwaring 19 Hydref 1930 Llansawel |
Bu farw | 8 Medi 2022 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, cyflwynydd teledu |
Awdur a darlledwr o Gymraes oedd Mavis Nicholson (19 Hydref 1930 – 8 Medi 2022).[1][2][3]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Fe'i ganwyd yn Mavis Mainwaring a threuliodd ei phlentyndod yn Llansawel. Aeth i astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Yno yn 1949 cyfarfu'r awdur a'r newyddiadurwr, Geoffrey Nicholson, ac fe briododd y ddau yn 1952, a chawsant dri mab.
Yn 1951, ar ddiwedd ei gyrfa israddedig ym Mhrifysgol Abertawe, enillodd Nicholson ysgoloriaeth i hyfforddi fel ysgrifennwr copi hysbysebu a gyda hyn symudodd i Lundain.
Yn Llundain, roedd hi a'i gŵr yng nghanol cylch cymdeithasol bywiog cylch, yn gynnwys y newyddiadurwr a'r darlledwr John Morgan a'r nofelydd Kingsley Amis. Yn ôl ysgrif goffa o'i gŵr gan Peter Corrigan,[4] daeth Mavis a Geoff Nicholson yn "...much-loved double-act. Amis did not always approve of their views and claimed to have invented the word "lefties" during one little set-to with them. While it was true that the Nicholsons didn't have dinner parties as such - they invited people for an argument and threw some food in - they were by no means belligerent but had in abundance the Welsh love of debate."
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Gorffennodd Nicholson ei gwaith fel ysgrifennwr copi hysbysebu pan gafodd blant, ond cychwynnodd ail yrfa fel darlledwr pan ofynnwyd iddi gyflwyno rhaglen newydd, oherwydd ei arddull sgwrsio treiddgar a diddorol wrth y bwrdd cinio. Dangoswyd y rhaglen ar deledu yn ystod y dydd, oedd newydd gychwyn (yn flaenorol roedd teledu Prydeinig yn dechrau darlledu yn hwyr yn y prynhawn).
Ei swydd cyntaf fel cyflwynydd oedd ar y sioe 'Good Afternoon' yn 1972, a pharhaodd ei gyrfa teledu am y 25 mlynedd nesaf.[5]
Cyflwynodd rhaglenni teledu Prydeinig fel Afternoon, Afternoon Plus a Mavis On Four o'r 1970au hyd at y 1990au, lle bu'n cyfweld enwogion mawr fel Elizabeth Taylor, David Bowie, Peter Cook a Dudley Moore.[6][7][8] Cyflwynodd nifer o sioeau radio hefyd, gan gynnwys hanes y siop adrannol a golwg yn ôl ar ei phlentyndod.[9]
Ei gwaith olaf ar gyfer y teledu oedd Oldie TV yn 1997, fersiwn deledu o gylchgrawn The Oldie. Roedd yn ysgrifennu ar gyfer The Oldie, yn ysgrifennu colofn 'fodryb ofidiau' y cylchgrawn, hyd at 2014.[10][11]
Yn 1992, ysgrifennodd ei hunangofiant yn y llyfr Martha Jane and Me - A Girlhood in Wales.[12]
Yn Hydref 2018, enillodd wobr BAFTA Cymru am Gyfraniad Rhagorol i Ddarlledu.[13]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Erbyn diwedd yr 1980au symudodd Mavis a'i gŵr i fyw yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant mewn tŷ ffarm ac ysgubor wedi ei addasu.
Bu farw Geoff yn 1999. Bu farw Mavis yn 91 mlwydd oed, ym mis Medi 2022.[14]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Mavis Nicholson IMDB entry". IMDB. 2007.
- ↑ Chilton, Martin (1 June 2011). "Hay Festival: day seven as it happened". The Daily Telegraph. Cyrchwyd 30 July 2015.
- ↑ @BRNicholson (2022-09-10). "I am incredibly sad to confirm that my grandmother Mavis Nicholson passed away on Thursday. She was a force of nature, an incredible broadcaster, so open-hearted and interested in everyone. She was also my Nana and I miss her like mad. Hope she's with my granddad Geoff now" (Trydariad) – drwy Twitter.
- ↑ Peter Corrigan (1999-08-04). "Obituary: Geoffrey Nicholson - Arts & Entertainment". The Independent. Cyrchwyd 2012-06-12.
- ↑ "Film & TV Database - Nicholson, Mavis". The Independent. 2005-10-31. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-24. Cyrchwyd 2016-05-05.
- ↑ "North Powys Youth Music by Mavis Nicholson". North Powys Youth Music. 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-08-08. Cyrchwyd 2016-05-05.
- ↑ "Bowie Golden Years: ITV February 1979". Bowie Golden Years. 2007.
- ↑ "Good Afternoon!: Good Afternoon[RX 01/08/74]". BFI. 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-14. Cyrchwyd 2016-05-05.
- ↑ "Radio Listings "Mavis Nicholson"". Radio Listings. 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-01. Cyrchwyd 2016-05-05.
- ↑ "Magazines: The Oldie". The Independent. 2005-10-31. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-05-07. Cyrchwyd 2016-05-05.
- ↑ "Miles Kington: Trapped in the Med with the wise and witty Oldies". The Independent. 2006-11-10. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-30. Cyrchwyd 2016-05-05.
- ↑ "WorldCat: Martha Jane & Me : A Girlhood In Wales". WorldCat. 2007.
- ↑ Winners of the British Academy Cymru Awards 2018 announced. BAFTA Cymru (14 Hydref 2018). Adalwyd ar 15 Hydref 2018.
- ↑ Mavis Nicholson obituary (en) , theguardian.co.uk, 11 Medi 2022.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Cylchgrawn The Oldie
- Mavis Nicholson yn cyfweld Kenneth Williams ar YouTube Cyfweliad gyda Kenneth Williams yn 1974