Masarnen
Acer pseudoplatanus | |
---|---|
Dail y fasarnen | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosperms |
Ddim wedi'i restru: | Eudicots |
Ddim wedi'i restru: | Rosids |
Urdd: | Sapindales |
Teulu: | Sapindaceae |
Genws: | Acer |
Rhywogaeth: | A. pseudoplatanus |
Enw deuenwol | |
Acer pseudoplatanus L. |
Rhywogaeth o fasarnen sy'n frodorol i Ewrop ac de-orllewin Asia yw Masarnen neu Jacmor, Acer pseudoplatanus (Saesneg: Sycamore neu Sycamore Maple). Mae ganddi daldra hyd at 35 m.[1]
Defnyddir ei sudd i wneud surop masarn.
Ffenoleg
[golygu | golygu cod]Cafwyd casgliad-benthyg o gyfres o ddyddiaduron gan ffermwr ALlJ (nid yw am i ni gyhoeddi ei enw) o waelod Harlech. Mae’r cofnodion yn drwyadl iawn ac mae ynddynt aml i gofnod tymorol cyson o’r gog yn canu am y tro cyntaf ar wennol yn cyrraedd. Y math mwyaf cyson o gofnod sydd ganddo yw cyfres hir o ddyddiadau deilio UN fasarnen ym muarth y fferm. Gosodwyd y cofnodion hyn fel graff (isod). Mae'n awgrymu bod deilio hwyr yn cydfynd efo gwanwyn "hwyr" a deilio cynnar yn cydfynd efo gwanwyn "cynnar". Mae'r graff hefyd yn awgrymu (ond heb sail ystadegol cryf) bod y fasarnen yn tueddu i ddeilio'n gynt yn ddiweddarach (llinell yn gwyro at i lawr i'r dde).[2]
Enwau
[golygu | golygu cod]Mae’r goeden gyflwynedig hon yn dwyn mwy o enwau Cymraeg na‘n holl goed cynhenid Ar wahan i "masarnen" mae "jacmor" sy’n dalfyriad o "sycamor", a "jacan" yn dalfyriad o hwnnw. Mae “sycamor” yn tarddu o sycamor y Beibl, coeden gwahanol iawn. Fe barchuswyd yr enw yn ddiweddarach fel "sycamorwydden". Mae peth tystiolaeth bod yr enw yn amharchus.
- A’r Arglwydd a ddywedodd, Pe byddai gennych ffydd gymaint â gronyn o had mwstard, chwi a allech ddywedyd wrth y sycamorwydden hon, Ymddadwreiddia, a phlanner di yn y môr; a hi a ufuddhâi i chwi.[3]
- Nov.14th 11 The Wind E.S.E. very cold, dark & cloudy, did not freeze but thawed very gently, finished to day pruning the trees in Cae ty'n y LLwyn, except the great Maple (vulgarly called Sicamore) which I reserve till spring..[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Paul Sterry, addasu gan Iolo Williams a Bethan Wyn Jones, Llyfr Natur Iolo (Gwasg Carreg Galch, 2012)
- ↑ Bwletin Llên Natur rhifyn 51
- ↑ Beibl William Morgan, Luc 17:6
- ↑ Dyddiadur William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell, Môn (gyda chaniatad Adran Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor), 14 Tachwedd 1734