Martyn Geraint
Martyn Geraint | |
---|---|
Ganwyd | Mehefin 1963 Wdig |
Man preswyl | Pontypridd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, llenor, cyflwynydd teledu, cerddor |
Actor, cerddor a chyflwynydd teledu yw Martyn Geraint (ganwyd Mehefin 1963).
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Martyn yn Wdig ger Abergwaun a symudodd i Bontypridd pan oedd yn blentyn. Mynychodd Ysgol Gynradd Pont Siôn Norton ac Ysgol Gyfun Rhydfelen lle roedd yn brif ddisgybl.
Roedd yn chwarae allweddellau i'r band Treiglad Pherffaith. Ffurfiodd y band Ffenestri gyda Geraint James, gan berfformio rhwng 1984 a 1988 a ryddhau un albwm. Ail-ffurfiwyd y band ar gyfer achlysuron arbennig yn 2017.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Wedi gadael y coleg aeth i weithio fel cyflwynydd teledu ar raglenni fel Pen a Chynffon. Daeth yn wyneb cyfarwydd ar raglenni plant fel Ffalabalam a cyflwynodd Slot Meithrin ac yna Planed Plant Bach ar S4C am 15 mlynedd. Cyfansoddodd nifer fawr o ganeuon gwreiddiol ar gyfer plant bach yn y cyfnod yma. Bu hefyd yn cyflwyno Dechrau Canu, Dechrau Canmol am 3 blynedd.
Yn 1987, ymddangosodd fel Vinny yng nghyfres wreiddiol Doctor Who, yn y stori "Delta and the Bannermen" oedd wedi ei leoli ar wersyll gwyliau yng Nghymru y 1950au. Yn y 1990au chwaraeodd 'Hedd' ym Mhobol y Cwm. Bu hefyd yn chwarae rhannau mewn pantomeimau ac ers 1993 mae'n cynhyrchu pantomeim Cymraeg ei hun.[1]
Mae wedi sgrifennu nofelau ar gyfer pobl ifanc yn cynnwys Sêr y Nos ac O Ongl Arall.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae'n briod â Bethan ac yn dad i 3 o blant. Mae'n byw ym Mhontypridd.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Llais y Llywydd: Martyn Geraint. Urdd Gobaith Cymru. Adalwyd ar 26 Tachwedd 2018.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Martyn Geraint ar Twitter
- Martyn Geraint ar wefan Internet Movie Database