Martin Lings
Martin Lings | |
---|---|
Martin Lings yn ei wisg Fwslimaidd ym 1948 | |
Ganwyd | 24 Ionawr 1909 Burnage |
Bu farw | 12 Mai 2005 Westerham |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llyfrgellydd, academydd, llenor, hanesydd, bardd, athronydd |
Cyflogwr | |
Prif ddylanwad | Frithjof Schuon |
Ysgolhaig Islamaidd o Loegr oedd Martin Lings (Abu Bakr Siraj Ad-Din; 24 Ionawr 1909 – 12 Mai 2005) sydd yn nodedig am ei fywgraffiad o Muhammad.
Ganed yn Burnage, Swydd Gaerhirfryn, a chafodd ei fagu yn Unol Daleithiau America lle'r oedd ei dad yn gweithio. Dychwelodd i Loegr i fynychu Coleg Clifton, Bryste, lle'r oedd yn brif swyddog y bechgyn.[1] Cafodd ei fagu yn y ffydd Brotestannaidd, ac yn ddiweddarach fe drodd yn anffyddiwr.[2] Astudiodd Saesneg yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen, ac yno bu'n gyfaill i C. S. Lewis. Aeth i Lithwania ym 1935 i ddarlithio ar yr ieithoedd Eingl-Sacsoneg a Saesneg Canol ym Mhrifysgol Kaunas.[1][2]
Teithiodd i'r Aifft ym 1940 i ymweld â chyfaill a oedd yn darlithio ym Mhrifysgol Cairo, ac yn sgil marwolaeth ei gyfaill cafodd Lings ei gyflogi yn ddarlithydd yn y brifysgol. Trodd Lings yn Fwslim, a chafodd ei atynnu gan y traddodiad Swffïaidd a chan syniadau René Guénon am "y Traddodiad tragwyddol". Priododd â Lesly Smalley ym 1944, a buont yn byw mewn pentref ger Pyramidau Giza. Yn sgil chwyldro Gamal Abdel Nasser ym 1952, cafodd gweithwyr Prydeinig y brifysgol eu diswyddo a dychwelodd Lings i Loegr. Astudiodd am radd mewn astudiaethau Arabeg, a derbyniodd ddoethuriaeth o SOAS am astudio'r shîc Swffïaidd Ahmad al-Alawi. Ysgrifennodd y llyfr A Sufi Saint of the Twentieth Century ar sail ei draethawd doethurol.[1]
Ym 1955 penodwyd Lings yn geidwad cynorthwyol dros lyfrau a llawysgrifau Dwyreiniol yn yr Amgueddfa Brydeinig. Dyrchafwyd yn geidwad dros yr eitemau hynny ym 1970, ac ym 1973 cafodd ei drosglwyddo i'r Llyfrgell Brydeinig. Cyhoeddodd y gyfrol The Qur'anic Art of Calligraphy and Illumination (1976) adeg Gŵyl Fyd Islam yn Llundain.[1] Ym 1983 cyhoeddodd ei lyfr enwocaf, Muhammad: His Life Based on the Earliest Sources, bywgraffiad o'r Proffwyd Muhammad ar sail ffynonellau Arabeg o'r 8g a'r 9g. Bu farw yn ei gartref yn Westerham, Caint, yn 96 oed.[2]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- The Book of Certainty: An Account of Sufic Teaching (Llundain: Rider & Co., 1952).
- A Moslem Saint of the Twentieth Century: Shaikh Ahmad al-ʻAlawī, His Spiritual Heritage and Legacy (Llundain: Allen & Unwin 1961). Ailargraffwyd dan y teitl A Sufi Saint of the Twentieth Century.
- Ancient Beliefs and Modern Superstitions (Llundain: Perennial Books, 1964).
- Shakespeare in the Light of Sacred Art (Llundain: Allen & Unwin, 1966). Ailargraffwyd dan sawl teitl arall.
- The Elements and Other Poems (Llundain: Perennial Books, 1967).
- The Heralds and Other Poems (Llundain: Perennial Books, 1970).
- What is Sufism? (Llundain: Allen & Unwin, 1975).
- The Qur'anic Art of Calligraphy and Illumination (Llundain: Word of Islam Festival Trust, 1976).
- Muhammad: His Life Based on the Earliest Sources (Llundain: Allen & Unwin, 1983).
- The Eleventh Hour: The Spiritual Crisis of the Modern World in the Light of Tradition and Prophecy (Caergrawnt: Quinta Essentia, 1987).
- Symbol and Archetype: A Study of the Meaning of Existence (Caergrawnt: Quinta Essentia, 1991).
- Mecca: From Before Genesis Until Now (Caergrawnt: Archetype, 2004).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Gai Eaton, "Obituary: Martin Lings", The Guardian (27 Mai 2005). Adalwyd ar 4 Mawrth 2021.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Douglas Martin, "Martin Lings, a Sufi Writer on Islamic Ideas, Dies at 96", The New York Times (29 Mai 2005). Adalwyd ar 4 Mawrth 2021.
- Genedigaethau 1909
- Marwolaethau 2005
- Academyddion yr 20fed ganrif o Loegr
- Cyn-fyfyrwyr Coleg Magdalen, Rhydychen
- Esoteryddion o Loegr
- Llenorion ffeithiol yr 21ain ganrif o Loegr
- Mwslimiaid o Loegr
- Pobl a aned yn Swydd Gaerhirfryn
- Pobl fu farw yng Nghaint
- Swffïaid
- Ysgolheigion Islamaidd
- Ysgolheigion Saesneg o Loegr