Marchnad y Cigyddion, Wrecsam
Math | butcher shop, neuadd marchnad |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Offa |
Sir | Rhos-ddu |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 81.2 metr |
Cyfesurynnau | 53.045362°N 2.992291°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Marchnad dan do hanesyddol ar y Stryt Fawr, Wrecsam ydy Marchnad y Cigyddion (Saesneg: Butchers' Market). Mae'n adeilad rhestredig Gradd II.[1]
Lleoliad
[golygu | golygu cod]Yn ogystal â'r brif fynedfa ar y Stryt Fawr, mae gan y farchnad fynedfeydd eraill ar Stryt yr Hôb (trwy'r Arcêd Ganolog) ac ar Stryt Henblas, sy'n cysylltu Marchnad y Cigyddion a'r Farchnad Gyffredinol, marchnad hanesyddol arall yng nghanol y ddinas.
Hanes
[golygu | golygu cod]Cafodd y farchnad ei dylunio gyda ffasâd carreg yn yr arddull Jacobeaidd gan Thomas Penson, syrfëwr Sir Ddinbych a Sir Drefaldwyn, a anwyd yn y dref.[2]
Agorwyd y farchnad yn 1848. Cafodd y fynedfa gefn ar Stryt Henblas ei hychwanegu yn 1879 mewn dull tebyg i fynedfa'r Farchnad Gyffredinol dros y stryd.[3]
Heddiw
[golygu | golygu cod]Mae Marchnad y Cigyddion yn dal i weithio heddiw fel marchnad feunyddiol gydag amrywiaeth o fusnesau lleol.[4]
Cofrestrwyd Marchnad y Cigyddion yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru â'r rhif NPRN 23357.[3]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Yr arwydd dros fynedfa'r farchnad ar y Stryt Fawr
-
Y fynedfa gefn ar Stryt y Banc gyferbyn â mynedfa'r Farchnad Gyffredinol
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Wrexham Town Centre Conservation Area Assessment" (PDF). Wrexham.gov.uk. Cyrchwyd 22 June 2022.
- ↑ "Butcher's Market, Wrexham". Thomas Penson 1790-1859 Border Architect. Cyrchwyd 7 June 2022.
- ↑ 3.0 3.1 "Butchers' Market, 10-11 High Street, Wrexham". Coflein.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Mehefin 2022.
- ↑ "Wrexham Butchers Market - Home - Facebook" (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Mehefin 2022.