Mantell paun
Inachis io | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Nymphalidae |
Llwyth: | Nymphalini |
Genws: | Inachis Dalman, 1816 |
Rhywogaeth: | I. io |
Enw deuenwol | |
Inachis io (Linnaeus, 10fed rhifyn o Systema Naturae, 1758) | |
Cyfystyron | |
Aglais io |
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw mantell paun, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy mentyll peunod; yr enw Saesneg yw Peacock (neu European peacock), a'r enw gwyddonol yw Inachis io.[1][2] Peunog (hefyd Y Peunog) yw enw arall arni. Fe'i canfyddir yn Ewrop a rhannau o Asia ac mor bell a Japan.
Dyma'r unig aelod o'r genws Inachis. Daw'r gair o fytholeg Roeg a'i ystyr yw Io, ferch Inachus. Mae'n glöyn llwyddiannus iawn a'r niferoedd yn cynyddu.
-
Mantell paun
-
△ Mantell paun
50 to 55 mm ydy ei fain (o adain i adain). Ceir dau isrywogaeth: I. io caucasica (Jachontov, 1912) sydd i'w weld yn Aserbaijan a I. io geisha (Stichel, 1908) a ganfyddir yn Japan a dwyrain Rwsia.
Cynefin
[golygu | golygu cod]Treulia'r gaeaf mewn hen adeiladau neu mewn coed. Pwrpas y "llygaid" ar ei adain yw i ddychryn unrhyw ysbeiliwr, a chafwyd sawl ymchwil gwyddonol i effaith a phwrpas y llygaid hyn.[3] Mae'n hoff o dir coediog, caeau agored, parciau a gerddi: hyd at 2,500 m uwchlaw lefel y môr.
Cyffredinol
[golygu | golygu cod]Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r mantell paun yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
- ↑ Stevens, Martin (2005). "The role of eyespots as anti-predator mechanisms, principally demonstrated in the Lepidoptera". Biological Reviews 80 (4): 573–588. doi:10.1017/S1464793105006810. PMID 16221330. http://journals.cambridge.org/action/displayAbstract?aid=344947. Adalwyd 11 Tachwedd 2010.