Máire Mhac an tSaoi
Máire Mhac an tSaoi | |
---|---|
Ganwyd | 4 Ebrill 1922 Dulyn |
Bu farw | 16 Hydref 2021 |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | diplomydd, bardd, llenor, ieithydd |
Cyflogwr | |
Priod | Conor Cruise O'Brien |
Ysgolhaig o Iwerddon a bardd yn yr iaith Wyddeleg oedd Máire Mhac an tSaoi (Saesneg: Máire MacEntee; 4 Ebrill 1922 – 16 Hydref 2021).
Ganed hi yn Nulyn, ychydig fisoedd wedi sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon. Bu ei thad, Seán Mac an tSaoi, yn rhan o Wrthryfel y Pasg ym 1916, ac a fyddai'n wleidydd o blaid Fianna Fáil ac yn weinidog yn llywodraethau'r Taoisigh de Valera a Lemass. Roedd ei mam, Máiréad de Brún, yn athrawes Wyddeleg yng Ngholeg Alexandra, ysgol Brotestannaidd i ferched ar gyrion deheuol y ddinas. Treuliodd Máire gyfnodau hirion yn mhentref Dún Chaoin, Swydd Kerry, yn y Gaeltacht, gan roi iddi grap drylwyr ar yr iaith Wyddeleg. Derbyniodd radd baglor o'r dosbarth cyntaf mewn Astudiaethau Celtaidd o Goleg Prifysgol Dulyn.[1]
Cafodd ei recriwtio gan yr Adran Faterion Tramor ym 1947, a gweithiodd yn llysgenhadaeth Iwerddon yn Sbaen cyn iddo ymuno â'r dirprwyaeth Wyddelig i'r Cenhedloedd Unedig. Cymerodd seibiant o'i gwaith ac aeth i Ganolbarth Affrica yn ystod argyfwng y Congo yn nechrau'r 1960au i fod yng nghwmni ei chariad, y diplomydd Conor Cruise O'Brien. Cafodd ei thargedu gan y wasg Brydeinig, mewn ymdrech i ddwyn gwarth ar O'Brien ac i hyrwyddo diddordebau cwmnïau Prydeinig yn y Congo, ac o ganlyniad cafodd O'Brien ei alw yn ôl i bencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd a'i ddiswyddo. Dychwelodd Máire i Ddulyn i ymddiswyddo o'r gwasanaeth diplomyddol, a phriododd â Conor Cruise O'Brien ym 1962. Aethant i Ghana wedi i O'Brien gael ei benodi'n is-ganghellor preswyl Prifysgol Ghana gan yr Arlywydd Kwame Nkrumah, ac ym 1965 i Efrog Newydd lle bu Máire yn darlithio ar lên Iwerddon.[1]
Etholwyd O'Brien i'r Dáil Éireann ym 1969 a symudodd y ddau ohonynt i Ddulyn. Mabwysiadant un mab ac un ferch, y ddau ohonynt o dras gymysg Wyddelig ac Affricanaidd, yn nechrau'r 1970au. Cafodd ei hethol yn aelod o'r Aosdána ym 1995, ond ymddiswyddodd mewn protest yn erbyn dyrchafu Francis Stuart yn Saoi.[1] Cyhoeddodd ei hunangofiant, The Same Age as the State, yn 2003.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "Máire Cruise O’Brien, poet who celebrated Gaelic language and culture undeterred by her famous husband’s reservations – obituary", The Daily Telegraph (5 Tachwedd 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Tachwedd 2021.
- Academyddion o Iwerddon
- Beirdd yr 20fed ganrif o Iwerddon
- Beirdd yr 21ain ganrif o Iwerddon
- Beirdd Gwyddeleg o Iwerddon
- Cyfieithwyr o Iwerddon
- Genedigaethau 1922
- Llenorion benywaidd yr 20fed ganrif
- Llenorion benywaidd yr 21ain ganrif
- Llenorion ffeithiol yr 20fed ganrif o Iwerddon
- Llenorion ffeithiol yr 21ain ganrif o Iwerddon
- Hunangofianwyr Saesneg o Iwerddon
- Marwolaethau 2021
- Pobl o Ddulyn
- Ysgolheigion Gwyddeleg o Iwerddon
- Ysgolheigion Saesneg o Iwerddon