Lucius Cornelius Cinna
Lucius Cornelius Cinna | |
---|---|
Ganwyd | 135 CC Rhufain hynafol |
Bu farw | 84 CC o strôc Ancona |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd hynafol, Rhufeinig, milwr Rhufeinig |
Swydd | seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig |
Plaid Wleidyddol | populares |
Tad | Lucius Cornelius Cinna |
Mam | Unknown |
Priod | Annia |
Plant | Lucius Cornelius Cinna, Cornelia Major, Cornelia, Cornelius Cinna |
Llinach | Cornelii Cinnae |
Gwleidydd Rhufeinig oedd Lucius Cornelius Cinna (bu farw 84 CC).
Roedd Cinna yn aelod o deulu dylanwadol Cinna, o'r gens Cornelii. Gwasanaethodd yn y rhyfel yn erbyn y Marsi fel legad paretoraidd. Etholwyd ef yn gonswl am y tro cyntaf yn 87 CC, a bu'n gonswl bedair gwaith yn olynol.
Fel conswl, roedd wedi mynd ar ei lŵ i Lucius Cornelius Sulla na fyddai'n ceisio gwrthdroi'r llywodraeth. Fodd bynnag, wedi i Sulla ymadael am y dwyrain i ymladd yn erbyn Mithridates VI, brenin Pontus, casglodd Cinna fyddin o gefnogwyr Gaius Marius a chipio grym yn Rhufain. Galluogodd hyn Marius ei hun, oedd wedi gorfod ffoi i Ogledd Affrica, i ddychwelyd i Rufain gyda byddin.
Dechreuodd Marius a Cinna ddial ar gefnogwyr Sulla, ond fis ar ôl dychwelyd i Rufain bu farw Marius. Yn 84 CC roedd Cinna yn paratoi i adael am Liburnia, Illyricum, gyda byddin i ymladd yn erbyn Sulla pan wrthryfelodd ei filwyr a'i lofruddio.
Priododd ei ferch ieuengaf, Cornelia, a Iŵl Cesar, a bu iddynt ferch, Julia. Daeth ei fab, hefyd o'r enw Lucius Cornelius Cinna, yn braetor, a phan lofruddiwyd Cesar yn 44 CC ochrodd gyda'i lofruddion.