Llywelyn Bren
Llywelyn Bren | |
---|---|
Ganwyd | 1267 Senghennydd |
Bu farw | 1318 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwyldroadwr |
Tad | Gruffudd ap Rhys |
Plant | Nn ferch Llywelyn Bren |
- Gweler hefyd Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn Ein Llyw Olaf, Tywysog Cymru) a Llywelyn (gwahaniaethu).
Arglwydd Senghennydd a Meisgyn ym Morgannwg oedd Llywelyn ap Gruffudd neu Llywelyn Bren (m. 1318). Roedd yn orwyr i Ifor Bach (Ifor ap Meurig ap Cadifor). Roedd yn arglwydd cyfrifol a rhyfelwr dewr a gododd mewn gwrthryfel yn erbyn gormes y goresgynwyr yn ne-ddwyrain Cymru.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Roedd Llywelyn wedi bod ar delerau da gyda'r arglwydd Normanaidd lleol Gilbert de Clare ond pan fu farw Gilbert cymerodd Pain de Turberville, arglwydd Coety, drosodd a dechreuodd ymddwyn yn drahaus. Cwynodd Llywelyn i Edward II, brenin Lloegr, ond heb gael boddlonrwydd gan y brenin diystyriol hwnnw. Aeth pethau o ddrwg i waeth a chododd Llywelyn a'r Cymry lleol mewn gwrthryfel ym mlaenau Morgannwg. Ni pharodd y gwrthryfel am hir gan fod brenin Lloegr a rhai o arglwyddi'r Mers yn anfon nifer o filwyr i Forgannwg i'w gorchfygu.
Cymerwyd Llywelyn Bren yn garcharor i Dŵr Llundain lle cafodd ei ddeddfrydu i farwolaeth ac oddi yno cafodd ei ddwyn i Gaerdydd a'i ddienyddio yn y modd erchyll arferol gan Goron Lloegr yn achos "teyrnfradwyr".
Roedd Llywelyn yn ŵr diwylliedig a deallus. Roedd yn hoff iawn o lenyddiaeth Gymraeg a Ffrangeg, yn perchen llawysgrifau yn y ddwy iaith honno ac yn noddi'r beirdd. Yn ôl traddodiad roedd ganddo blasdy bychan yn Eglwys Ilan, yng nghantref Senghennydd.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Mortimer, Ian, The Greatest Traitor (Thomas Dunne Books, 2006) ISBN 0-312-34941-6