Llyn Gloyw
Gwedd
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llangwm |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.9998°N 3.496°W |
Llyn bychan yn Sir Conwy yw Llyn Gloyw. Fe'i lleolir yn ne'r sir tua 3 milltir i'r de-ddwyrain o bentref Cerrigydrudion a thua 5 milltir i'r gogledd-orllewin o Gorwen (Sir Ddinbych).[1] Mae yng nghymuned Llangwm.
Llyn bychan, bas, ar dir corsiog ydyw, 1,477 troedfedd i fyny ar ben bryn Cadair Dinmael. Does dim pysgod ynddo.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Map OS 1:50,000 Landranger 116 Dinbych a Bae Colwyn.
- ↑ Frank Ward, The Lakes of Wales (Llundain: Herbert Jenkins, 1931), tud. 137.