Y Llen Haearn
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Llen Haearn)
Enghraifft o'r canlynol | political border, catchphrase |
---|---|
Daeth i ben | 19 Awst 1989 |
Dechrau/Sefydlu | 5 Mawrth 1946 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Trosiad gwleidyddol oedd yn symboleiddio'r rhaniad yn Ewrop yn ystod y Rhyfel Oer yw y Llen Haearn. Yng Ngorllewin a De Ewrop, yr oedd gwledydd y Gymuned Ewropeaidd a NATO, ac yn Nwyrain Ewrop yr oedd gwledydd Comecon a Chytundeb Warsaw. Yn ffisegol, roedd rhai amddiffynfeydd ar ororau rhwng gwledydd y Gorllewin a'r Dwyrain, gan gynnwys Mur Berlin.
Poblogeiddiodd Winston Churchill y term mewn araith ym 1946, gan ddatgan: "O Stettin yn y Baltig i Trieste yn yr Adria disgynna 'llen haearn' dros y cyfandir."